Skip to main content

Y diweddaraf am gynllun atgyweirio sylweddol y Bont Wen

White Bridge progress update

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r diweddaraf am waith atgyweirio Pont Heol Berw (Y Bont Wen) ym Mhontypridd, er mwyn diogelu'r strwythur rhestredig at y dyfodol.

Cafodd y bont ei difrodi'n sylweddol yn ystod Storm Dennis a thrwy weithio'n agos gyda gwasanaeth Cadw, cafodd cam cychwynnol o waith ei gynnal yn yr haf, 2021 - a hynny er mwyn atgyweirio difrod sydd wedi'i achosi gan erydiad, ac atgyweirio sylfeini'r bont a'r arglawdd.  Roedd y Cyngor yn glir y byddai angen cyfnod atgyweirio mwy yn dilyn y gwaith yma, a byddai angen cau'r Bont Wen i gerbydau am gyfnod hir.

Gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau ar rychwantau gogleddol a deheuol

Dechreuodd y prif gynllun yn yr haf, 2022 ac mae cynnydd pwysig wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Mae hyn wedi cynnwys cwblhau atgyweiriadau concrit i rychwantau gogleddol a deheuol y bont, ger Heol Berw a'r Rhodfa.

Roedd y gwaith yma'n cynnwys cael gwared ar yr haen bresennol o goncrit wedi'i chwistrellu er mwyn cryfhau'r strwythur â dur a choncrit, yn ogystal â mesurau pellach i atal y dur rhag rhydu. Cafodd haen arall ei chwistrellu cyn paentio elfennau yma'r bont. Cafodd y sgaffaldiau mynediad eu tynnu ym mis Tachwedd 2022.

Tri cham gwaith atgyweirio i'r rhychwant canolog - cam un ar y gweill

Mae gosod sgaffaldiau ar y rhychwant canolog yn anodd gan fod rhaid eu hadeiladu ar y bont ei hun, yn wahanol i'r rhychwantau gogleddol/deheuol lle cawson nhw eu hadeiladu o'r ddaear. Rhaid adeiladu'r sgaffaldiau mewn tri cham o ganlyniad i gyfyngiadau llwytho.

Fodd bynnag, pan ddechreuodd y cam cyntaf ym mis Hydref 2022, daeth i'r amlwg bod y gwaith atgyweirio yn llawer mwy na'r disgwyl yn dilyn archwiliadau blaenorol. Mae cynnydd wedi'i wneud gyda cham un – mae'r haen wedi'i chwistrellu bellach wedi'i thynnu, mae rhannau lle mae angen atgyweiriadau wedi cael eu nodi ac mae gwaith wedi dechrau. Rhaid trefnu'r gwaith gan ystyried lleoliad yr atgyweiriadau a chaniatáu amser addas er mwyn sicrhau cryfder y bont.

Mae'r tywydd gaeafol diweddar wedi cymhlethu hyn, gan nad oes modd gosod y deunydd atgyweirio yn ystod tywydd oer iawn. Mae atgyweiriadau cam un ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau yng nghanol mis Ebrill 2023. Wedyn bydd haen o goncrit yn cael ei chwistrellu (gunite), bydd gwaith paentio yn cael ei gynnal a bydd y sgaffaldiau yn cael eu tynnu. 

Gwaith sydd i'w gwblhau i'r rhychwant canolog - camau dau a tri

Yna, bydd angen ailadeiladu'r sgaffaldiau ar gyfer cam nesaf y gwaith. Bydd angen cau'r bont dros dro i gerddwyr. Bydd camau dau a tri'n debyg i gam un, a bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan y contractwr, Concrete Repairs Ltd.

O ganlyniad i'r atgyweiriadau ychwanegol annisgwyl a nodwyd yn ystod y cam adeiladu, mae'r cynllun cyfan bellach wedi cael ei ymestyn. Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal gymaint â phosibl yn ystod camau dau a thri, ond bydd angen cau'r bont yn llawn weithiau (gan gynnwys y llwybr troed) er mwyn gwneud cynnydd diogel.

Yn anffodus, bydd angen i'r bont barhau i fod ar gau i gerbydau hyd nes y bydd yr holl waith wedi'i gwblhau. Ar hyn o bryd, mae disgwyl y bydd y bont yn ailagor yn llawn erbyn diwedd 2023.

Gwaith amddiffyn rhag erydu ychwanegol

Yn ogystal â phrif atgyweiriadau'r bont, bydd gwaith ychwanegol yn cael ei gynnal ar sylfeini'r rhychwant gogleddol - ynghyd â gwaith sefydlogi'r arglawdd ger Y Rhodfa, ac atgyweiriadau i ategweithiau a waliau adain y bont.

Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal gymaint â phosibl, ond bydd raid cau'r bont weithiau o ganlyniad i natur y gwaith. Bydd y Cyngor yn rhannu'r trefniadau gyda thrigolion yn ystod pob cam o'r cynllun.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad parhaus wrth i'r gwaith hanfodol yma gael ei gwblhau i ddiogelu'r strwythur rhestredig ac i gynnal a chadw'r ffordd a'r llwybr troed dros y bont ar gyfer y dyfodol.

Wedi ei bostio ar 02/02/2023