Skip to main content

Sgiliau gwych ac ysbryd cymdogol yn Ysgol Gymuned y Porth

MS visit to Porth

Aeth Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, i Ysgol Gymuned y Porth ar 14 Rhagfyr i ymuno â'r disgyblion ar gyfer y diwrnod sgiliau 'Super Skills', gan gwrdd â rhai o'r disgyblion sy'n ymwneud â menter elusennol.

Bu disgyblion ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cymryd rhan mewn diwrnod 'Super Skills', lle cawson nhw'n her o ddod yn ddinasyddion y byd sy'n wybodus yn foesegol ac yn ddysgwyr gydol-oes. Yn rhan o'r cwricwlwm i Gymru, mae'r ysgol yn canolbwyntio'n gryf ar y sgiliau trawsgwricwlaidd sy’n ymwneud â llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, wrth hefyd ddatblygu sgiliau ehangach disgyblion o ran annibyniaeth, cydnerthedd a dawn greadigol.

Roedd y diwrnod yn canolbwyntio ar y thema 'Humans in Conflict', gan ymdrin â'r pwnc cyfredol o newid yn yr hinsawdd a sut y mae'n effeithio ar Awstralia.  Roedd y disgyblion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol, gan fynd ati i ysgrifennu araith am y problemau sy'n cael eu hachosi gan newid yn yr hinsawdd yn ystod y sesiynau llythrennedd. Yna, fe gyflwynodd y disgyblion eu canfyddiadau ynglŷn ag a oes angen i Awstralia ddod yn amgylchedd mwy cynaliadwy yn ystod y sesiynau rhifedd. Ar gyfer y sgiliau digidol, roedd gofyn i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau dylunio, cynhyrchu a golygu wrth hefyd hybu diogelwch ar-lein.

Yn ogystal â chael blas ar y sesiwn 'Super Skills', fe wnaeth y Gweinidog hefyd gwrdd â disgyblion sy'n cymryd rhan weithredol yn y gwaith o drefnu anrhegion i'w rhoddi i blant a phobl ifainc yn yr ardal leol sydd efallai heb anrheg i'w hagor ar Ddydd Nadolig. Mae'r caredigrwydd a'r ysbryd cymdogol yma'n dyst i'r gwerthoedd sy'n cael eu meithrin yn Ysgol Gymuned y Porth - cafodd dros 500 o anrhegion eu rhoddi!

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS: "Roedd yn braf iawn bod yn dyst i ymroddiad y disgyblion yn Ysgol Gymuned y Porth - a hynny tuag at eu haddysg a'u cymuned.

"Mae sicrhau bod ein pobl ifainc yn meithrin empathi, tosturi ac ymdeimlad o gymuned yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol, ac mae wedi bod yn galonogol gweld yr unigolion ifainc hyn yn mynd i'r afael â rhai o'r pynciau mawr byd-eang wrth hefyd gymryd y camau i ddod â llawenydd i eraill yn eu hardal leol yn ystod cyfnod y Nadolig.

Roedd Yvonne Jones, Pennaeth Ysgol Gymuned y Porth, yn falch iawn o ymdrechion y disgyblion: "Rydyn ni'n hynod o falch o'n disgyblion am eu tosturi a'u mentrusrwydd wrth roi yn ôl i'r gymuned. Mae ymweliad y Gweinidog, a'i gydnabyddiaeth o'u hymdrechion, yn anrhydedd mawr ac yn codi ysbryd ein disgyblion."  

Mae ymweliad y Gweinidog yn tynnu sylw at y canolbwynt deublyg yn Ysgol Gymuned y Porth ar gyflawniad addysgol a chyfranogiad cymunedol, gan baratoi disgyblion i fod yn ddinasyddion sy'n effro i faterion byd-eang. 

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Yn ystod y diwrnod 'Super Skills', aeth disgyblion ar daith y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, gan drawsnewid i fod yn ddinasyddion sy'n effro i faterion byd-eang ac yn ddysgwyr gydol-oes. Roedden nhw'n archwilio materion byd-eang allweddol a'r realiti enbyd a ddaw o newid yn yr hinsawdd.  

"Wrth iddyn nhw archwilio heriau amgylcheddol Awstralia, roedd eu siwrne yn ymwneud nid yn unig â dysgu, ond â defnyddio llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol i ddeall y byd o'u cwmpas. Nid dim ond dysgu am y byd roedd y disgyblion yn ei wneud - roedden nhw'n dysgu i'w newid, a hynny ag un cam ystyriol, gwybodus ar y tro."

Wedi ei bostio ar 22/12/2023