Skip to main content

Datblygu'r llwybr cerdded a beicio newydd drwy Gwm Rhondda Fach

Rhondda Fach Active Travel - phase one

Mae ail gam y gwaith i sefydlu Llwybr Teithio Llesol trwy Gwm Rhondda Fach ar y gweill. Mae cam un, llwybr newydd a rennir rhwng safle’r hen lofa a Chofeb Porth y Maerdy, i’w gwblhau cyn y Nadolig.

Bydd y prosiect cyffredinol yn creu llwybr 7 cilomedr a rennir i gerddwyr a beicwyr rhwng Maerdy a Thylorsotwn. Mae'r gwaith wedi'i rannu’n bum prif gam. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i adeiladu'r ddau gam cyntaf, ac i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddylunio a datblygu'r tri cham arall a fydd yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd y buddsoddiad yma ym mis Mehefin 2023 yn rhan o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru (2023/24). Bydd cynllun ar gyfer Cwm Rhondda Fach yn creu llwybr beicio 3 metr o led, ag arwyneb arno, sy’n cydymffurfio â safonau teithio llesol. Bydd hefyd yn sefydlu cysylltiadau cymunedol newydd mewn mannau penodol ar hyd y llwybr.

Cam Un ar fin cael ei gwblhau a Cham Dau ar y gweill

Dechreuodd y gwaith ar Gam Un ym mis Gorffennaf 2023 a bydd wedi'i gwblhau erbyn dydd Gwener, 22 Rhagfyr.Mae wedi creu rhan fwyaf gogleddol y llwybr drwy uwchraddio llwybr presennol – o leoliad i’r gogledd o’r ystad ddiwydiannol ger safle’r hen lofa, i bwynt ger Cofeb Porth y Maerdy. Cwblhawyd gwaith strwythurol uwch ar ddwy bont hefyd yn gynnar ym mis Tachwedd.

Bydd Cam Dau yn canolbwyntio ar ran nesaf y llwybr – o Gofeb Porth y Maerdy, gan fynd tua’r de am tua 1.5 cilomedr. Bydd y gwaith yn creu llwybr troed a rennir newydd sy'n teithio'n bennaf ar hyd aliniad yr hen reilffordd, sydd wedi'i lleoli ar ochr arall Afon Rhondda Fach i waith Cam Un. Dechreuodd Cam Dau yn ddiweddar, yn gynnar ym mis Rhagfyr 2023.

Penodwyd Horan Construction Ltd i gyflawni Cam Dau, y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn gynnar yng ngwanwyn 2024. Disgwylir ychydig iawn o aflonyddwch oherwydd lleoliad y gwaith ar yr hen reilffordd. Bydd compownd safle (uned les a swyddfeydd safle) yn cael ei leoli ym Mhlas y Parc, ar dir gyferbyn â'r cyrtiau tennis.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae creu cyfleoedd cerdded a beicio newydd yn ein cymunedau lleol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor – trwy gyflawni cynlluniau lleol fel y gwaith parhaus ym Maerdy. Mae teithio llesol yn dod â nifer o fanteision i gymunedau, gan fod modd i gerdded a beicio wella iechyd a lles trigolion, a helpu i warchod yr amgylchedd fel dewis amgen i yrru ar gyfer teithiau lleol.

“Croesawon ni ddyraniad sylweddol o £3.43 miliwn o’r Gronfa Teithio Llesol eleni ym mis Mehefin. Mae'r cyllid yma gan Lywodraeth Cymru yn talu am adeiladu dau gam cyntaf Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, ac am ddylunio a datblygu’r tri cham olaf.  Roedd hefyd yn cynnwys datblygu sawl cynllun allweddol arall – gan gynnwys adlinio Llwybr Taith Taf yn y Trallwn, sefydlu llwybr Teithio Llesol ffurfiol yng Nghwm-bach, gwella cysylltiadau amrywiol ym Mhentre’r Eglwys, a bwrw ymlaen â chynlluniau yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd.

“Mae cynnydd da wedi’i wneud dros yr ychydig fisoedd diwethaf i symud Cam Un Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach yn ei flaen, trwy ffurfioli llwybr troed presennol i’r gogledd o Gofeb Porth y Maerdy. Mae wedi creu llwybr gwell sy'n gwneud y llwybr yn hygyrch i bob cerddwr a beiciwr. Mae'r gwaith yma ar fin dod i ben, a bydd yn cael ei gwblhau cyn y Nadolig.

“Mae Cam Dau bellach wedi cychwyn hefyd, a bydd yn parhau â’r llwybr tua’r de o bwynt ger y gofeb. Bydd y rhan yma'n dilyn aliniad yr hen reilffordd, a bydd tua 1.5 cilomedr o hyd. Does dim disgwyl bydd y gwaith yma'n tarfu ar bobl leol, a bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’i gontractwr i sicrhau bod y rhan nesaf yma o’r llwybr yn cael ei sefydlu yn y misoedd i ddod.”

Wedi ei bostio ar 19/12/2023