Skip to main content

Y diweddaraf am waith ailddatblygu'r Miwni hyd at fis Rhagfyr

Muni Arts Centre, December update - Copy

Mae'r Cyngor wedi darparu adroddiad cynnydd o ran y cynllun parhaus mawr i ailddatblygu Canolfan Gelf y Miwni (Y Miwni) yn nhref Pontypridd.

Dechreuodd y gwaith yn yr adeilad, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ym mis Medi – a hynny er mwyn ailagor y Miwni y flwyddyn nesaf fel lleoliad achlysuron amlbwrpas a chwbl hygyrch.

Bydd y gwaith ailddatblygu'n cynnwys atgyweirio a chadw'r adeilad o'r 1890au, a diben y prosiect yw dangos elfennau o'i bensaernïaeth gothig syfrdanol.

Mae gwaith i'r darn mewnol o'r adeilad, sy'n cynnwys rhywfaint o waith dymchwel, yn parhau i fynd rhagddo – a hynny yn y cyntedd, ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf ac ar y grisiau.

Mae sgaffaldiau wedi'u gosod yn ddiweddar yn y prif awditoriwm er mwyn cyrraedd y nenfwd yn rhan o'r gwaith i'r darn mewnol.

Y tu allan i'r adeilad, mae ffiniau'r safle a sgaffaldiau wedi'u gosod yn barod ac mae cynnydd pwysig wedi'i wneud o ran sawl elfen o'r adeilad.

Mae hyn wedi cynnwys gosod fframiau ar gefn y to ar gyfer y paneli solar ffotofoltäig integredig newydd.

Mae gwaith atgyweirio cerrig hefyd wedi dechrau ar dŵr yr adeilad, ac mae gwaith glanhau cerrig allanol yr adeilad wrthi'n mynd rhagddo.

Mae'r lluniau'n dangos y ffenestri y tu mewn i'r awditoriwm (llun uchaf ar y chwith), cynnydd ar y llawr cyntaf (llun uchaf ar y dde), y sgaffaldiau allanol (llun isaf ar y chwith) a'r sgaffaldiau mewnol yn yr awditoriwm (llun isaf ar y dde).

Cliciwch yma i weld fersiwn fawr o'r llun uchod

Mae'r prosiect yma'n cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU gwerth £5.3miliwn wedi'i sicrhau gan y Cyngor.

Bydd y Cyngor yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect yn rheolaidd wrth i waith fynd rhagddo yn 2024.

Wedi ei bostio ar 15/12/23