Skip to main content

Strategaeth Canol Tref Aberdâr wedi'i chymeradwyo ar ôl ymgynghoriad cadarnhaol

Aberdare Town Centre CYM - Copy

Mae’r Cabinet wedi cymeradwyo mabwysiadu Strategaeth Canol Tref Aberdâr gan y Cyngor. Mae'r strategaeth yn amlinellu themâu buddsoddi a gweledigaeth ar gyfer y dref yn y dyfodol. Diwygiwyd y fersiwn ddrafft gan ddefnyddio adborth pwysig o ymgynghoriad diweddar.

Ym mis Gorffennaf 2023, cytunodd Aelodau'r Cabinet i ymgynghori â thrigolion ar strategaeth ddrafft ar gyfer Canol Tref Aberdâr, i nodi amcanion strategol a fydd yn ffurfio glasbrint ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol. Lluniwyd y drafft ar ôl gwaith ymgysylltu cychwynnol â thrigolion a busnesau lleol - a chynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ehangach wedi hynny rhwng 7 Awst a 18 Medi, 2023.

Ddydd Llun, 18 Rhagfyr, ystyriodd y Cabinet yr adborth i'r ymgynghoriad, gan adolygu diwygiadau arfaethedig swyddogion i'r strategaeth, a chymeradwyo'r fersiwn wedi'i diweddaru. Mae hon bellach wedi'i chytuno yn strategaeth fabwysiedig derfynol.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys chwe sesiwn ymgynghori mewn cymunedau lleol, arddangosfa yn Llyfrgell Aberdâr ac ymgysylltu â phedair ysgol leol. Yn ogystal, cynhaliwyd tudalen wybodaeth ac arolwg ar wefan y Cyngor. ​ Hyrwyddwyd yr ymarfer ar-lein (gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol), a thrwy daflenni a phosteri a anfonwyd at fusnesau canol tref. Dychwelwyd cyfanswm o 142 o arolygon, cwblhaodd 17 o bobl ‘arolwg cyflym’ ar-lein, ac roedd 50 o bobl yn bresennol mewn sesiwn ymgynghori.

Cafwyd adborth cadarnhaol o’r ymatebion i’r arolwg – roedd 69.3% yn cytuno â’r cyfleoedd a amlinellwyd yn y strategaeth, 86.4% yn ‘cytuno’ neu’n ‘cytuno’n gryf’ â gweledigaeth gyffredinol y strategaeth, 77.5% yn cefnogi’r themâu buddsoddi, ac 80.4% yn cytuno â’r heriau a nodwyd sy’n wynebu’r dref.

Roedd themâu allweddol o’r sesiynau ymgynghori'n cynnwys cefnogaeth gref ar gyfer gwella ymddangosiad canol y dref a’r hyn sy'n cael ei gynnig, canolbwyntio ar hunaniaeth y dref yn gyrchfan i dwristiaid a chysylltu ag atyniadau lleol, tyfu’r rhaglen o achlysuron, a chynyddu gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol presennol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, ymgymerodd swyddogion ag adolygiad terfynol o'r strategaeth i integreiddio rhai o'r pwyntiau allweddol a godwyd. Mae’r rhain yn cynnwys hyrwyddo ‘twristiaeth antur’ yn benodol i adeiladu ar rinweddau gwyrdd Aberdâr ac i hyrwyddo’r dirwedd naturiol sydd ar gael i ymwelwyr, gan gydnabod ymhellach yr angen i gefnogi’r Gymraeg drwy fentrau sy'n cael eu harwain yn lleol, a nodi’r potensial ar gyfer datblygiadau newydd ym Marchnad Aberdâr ac o'i chwmpas.

Mae diwygiadau eraill yn cynnwys hyrwyddo Gwlyptiroedd Cwm-bach yn dilyn gwaith cadarnhaol diweddar i warchod natur, cynefin a bywyd gwyllt yr ardal. Mae’r strategaeth ddiwygiedig hefyd yn cyfeirio at ddefnyddio ffenestri siopau gwag i hyrwyddo arlwy Aberdâr ac i adrodd ei hanes. Mae hefyd yn nodi gwelliannau i lwybrau cysylltedd presennol.

Mae’r adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet dydd Llun yn cynnwys crynodeb llawn o’r ymatebion i’r arolwg ymgynghori a’r adborth a dderbyniwyd yn ystod y sesiynau ymgynghori, yn ogystal â rhagor o fanylion am y diwygiadau a wnaed i fersiwn derfynol y strategaeth.

Mae crynodeb o Strategaeth Canol Tref Aberdâr – ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ei hamcanion strategol a’i themâu buddsoddi – wedi’i gynnwys ar waelod y diweddariad yma.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Mae Aelodau’r Cabinet wedi cytuno i gymeradwyo’r fersiwn wedi’i diweddaru o Strategaeth Canol Tref Aberdâr. Bydd hyn nawr yn cael ei mabwysiadu gan y Cyngor gan roi fframwaith clir ar gyfer cydgysylltu holl fuddsoddiadau’r dref yn y dyfodol. Mae prosesau tebyg wedi gweithio'n dda iawn ar gyfer trefi eraill Rhondda Cynon Taf megis Aberpennar, Porth a Phontypridd, i gynllunio a chyflawni camau nesaf y gweithgarwch adfywio.

“Roedd yr ymateb cadarnhaol i'r ymgynghoriad yn ei gwneud hi'n glir bod cefnogaeth gref i'r hyn rydyn ni am ei gyflawni yn Aberdâr. Rydw i’n falch bod swyddogion wedi gallu addasu’r strategaeth ddrafft ymhellach gan ddefnyddio’r adborth gan drigolion, a dod â fersiwn wedi’i diweddaru i’r Cabinet ei hystyried. Hoffwn ddiolch i’r trigolion a’r busnesau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, am ddarparu adborth adeiladol iawn sydd wedi helpu i lunio’r strategaeth derfynol, sydd bellach wedi'i chytuno.

“Rydyn ni'n gwybod bod yna heriau sylweddol yn wynebu Canol Tref Aberdâr, sy’n cael eu hailadrodd ar strydoedd mawr ledled y DU. ​Serch hynny, mae llawer o resymau i deimlo'n optimistaidd. Mae safleoedd adfeiliedig fel Gwesty’r Boot, Hen Neuadd y Dref a’r Llew Du wedi cael eu hailddefnyddio yn ddiweddar, ac ychydig y tu allan i ganol y dref bu buddsoddiad mawr yn safle Sobell, adeilad Coleg y Cymoedd a’r unedau busnes yn Nhresalem. Yn ogystal, mae Metro De Cymru a gwaith i ailwampio’r Rock Grounds ar y gorwel.

“Mae yna hefyd gymuned fusnes gref iawn yn lleol, wedi’i dwyn ynghyd gan Ardal Gwella Busnes ‘Caru Aberdâr’ y mae ei 250 o aelodau’n cydweithio i drafod mentrau, mynd i’r afael â heriau a chyflawni newid cadarnhaol yn y dref. Nawr, gyda Strategaeth Canol Tref Aberdâr yn ei lle, mae yna lasbrint y cytunwyd arno mae modd i'r Cyngor ei ddefnyddio i gynllunio a datblygu buddsoddiad ar gyfer y dyfodol, tuag at gyflawni set o nodau a rennir ar gyfer y dref.”

Mae Strategaeth Canol Tref Aberdâr, sydd wedi’i chytuno bellach, yn nodi’r weledigaeth a ganlyn:

"Adeiladu ar dreftadaeth unigryw a lleoliad strategol Aberdâr i greu cyrchfan mwy bywiog, deinamig a deniadol i drigolion lleol ac ymwelwyr". Mae'r amcanion strategol yn cynnwys:

  • Gwella cynaliadwyedd trwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a sicrhau cyfran fwy o wariant gan ymwelwyr.
  • Manteisio i'r eithaf ar safleoedd ac adeiladau yng nghanol y dref i amrywio'r ystod o wasanaethau ac amwynderau a ddarperir.
  • Gwella’r defnydd diogel o fannau cyhoeddus ar lefel y strydoedd, a darparu cysylltiadau gwell â chyrchfannau cyfagos.
  • Helpu i ddatblygu rhagor o amrywiaeth o ran busnesau yn y dref ar gyfer ymwelwyr ac anghenion lleol.
  • Gwella edrychiad cyffredinol a hunaniaeth canol y dref.

Mae chwe thema buddsoddi wedi’u cyflwyno er mwyn helpu i gyflawni’r amcanion yma:

  • Ailddatblygu ac ailddefnyddio adeiladau cyfredol i ddarparu bwytai o ansawdd uchel, llety i ymwelwyr, mannau gwaith, a safleoedd manwerthu unigryw.
  • Gweithio gyda busnesau a’r gymuned i ddod â stori Aberdâr yn fyw, gan wneud arlwy a threftadaeth y dref yn fwy gweladwy, ac atgyfnerthu ei hardal gadwraeth.
  • Atgyfnerthu hunaniaeth y dref fel lle dymunol i fyw a gweithio ynddi, yn ogystal ag ymweld â hi, drwy gyfoethogi profiad yr ymwelydd ac ehangu'r arlwy cyfredol i 'Dwristiaid Antur'.
  • Gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded/beicio a gosod rhagor o arwyddion, gan gynnwys rhai i gyrchfannau cyfagos.
  • Gwella mannau agored canol y dref ymhellach, cefnogi bioamrywiaeth, creu mannau o ansawdd uchel ar gyfer busnesau newydd a chyfleoedd hamdden, yn ogystal â chynnal rhagor o achlysuron.
  • Meithrin partneriaethau lleol ac adeiladu ar waith da Ardal Gwella Busnes Caru Aberdâr i sefydlu mentrau newydd a chefnogi busnesau ymhellach.
Wedi ei bostio ar 20/12/23