Skip to main content

Gosod pont droed newydd ym Mhant-y-brad er mwyn ailagor hawl tramwy cyhoeddus

Pantybrad footbridge, Llantrisant - Copy

Bydd gwaith gosod pont droed newydd oddi ar Bant-y-brad, rhwng Tonyrefail a Llantrisant, yn dechrau'r wythnos nesaf er mwyn ailagor hawl tramwy cyhoeddus sydd ar gau.

Bydd y Cyngor yn trwsio'r ategweithiau a gosod pont droed newydd (gweler y llun). Mae hawl tramwy cyhoeddus (ANT/172/1) yn mynd ar hyd y bont ond mae ar gau ar hyn o bryd o ganlyniad i gyflwr y bont.

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 21 Awst, ac mae disgwyl iddo bara oddeutu tair wythnos.

Bydd angen cau Pant-y-brad yn ystod y gwaith – o bwynt sydd ychydig i'r gogledd o Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned Llantrisant, am 550 metr.

Mae'r ffordd fydd ar gau, yn ogystal â’r llwybr amgen, i'w gweld ar y map canlynol.

Mae llwybr amgen ar gael ar hyd Heol Ddu, y ffordd ddienw sy'n arwain at Gomin Llantrisant, Heol-y-Sarn (Heol y Comin), a Ffordd Fynediad Parc Busnes Llantrisant.

Fydd dim mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, i gerddwyr, nac i eiddo lleol.

Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 15/08/23