Skip to main content

Yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnig ar gyfer ysgol arbennig newydd yn Rhondda Cynon Taf

Cabinet has received an update on proposals to create a special school in Rhondda Cynon Taf

Mae'r Cabinet wedi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynigion i adeiladu ysgol arbennig newydd yn Rhondda Cynon Taf, er mwyn helpu i leddfu'r pwysau presennol ar gapasiti a pharatoi ar gyfer y galw pellach am leoedd ysgol sy'n cael ei ragweld yn y dyfodol.

Roedd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun yn cyflwyno set o ddata wedi’i diweddaru, gan dynnu sylw at y pwysau cynyddol ar y pedair ysgol bresennol (Ysgol Arbennig Maesgwyn, Ysgol Arbennig Park Lane, Ysgol Hen Felin ac Ysgol Tŷ Coch).

Cytunodd yr Aelodau y byddai rhaglen ariannu ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r costau newydd rhagamcanol. Cytunodd yr Aelodau hefyd i dderbyn adroddiad yn y dyfodol yn amlinellu casgliadau’r broses arfarnu ar gyfer lleoliad yr ysgol.

Mae adroddiadau blaenorol i'r Cabinet wedi amlygu’r pwysau y mae ysgolion arbennig lleol yn eu hwynebu wrth i nifer y disgyblion gynyddu ac wrth i anghenion amlwg ddod yn fwy cymhleth.

Mae cyfyngiadau i’w cael ar bob safle ysgol ond i wneud y mwyaf o gapasiti, mae adeilad modiwlaidd newydd yn cael ei ddefnyddio yn Ysgol Hen Felin, ac mae gwaith ailfodelu hefyd wedi'i gynnal yn Ysgol Arbennig Park Lane, Ysgol Arbennig Maesgwyn ac Ysgol Tŷ Coch yn ddiweddar. Mae canolfan ategol Ysgol Tŷ Coch, Buarth-y-Capel, hefyd wedi cael ei hymestyn yn ddiweddar.

Nododd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun y byddai ysgol arbennig newydd gydag amgylchedd sy'n addas i'r 21ain ganrif yn darparu rhagor o gapasiti yn y dyfodol, gan gefnogi'r Cyngor i ddiwallu anghenion disgyblion gan gynnig mynediad gwell i gyfleusterau, offer ac adnoddau arbenigol.

Ychwanegodd yr adroddiad fod 678 o ddisgyblion bellach yn mynd i ysgolion arbennig lleol ym mis Medi 2022. Mae hyn yn gynnydd o 78 yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r data hefyd yn dangos cynnydd yn nifer y disgyblion ag anghenion cymhleth sydd angen cymorth a chymarebau staffio uwch. Mae cynnydd yn niferoedd y disgyblion a chynnydd o ran anghenion cymhleth yn amlwg ym mhob ysgol, ac yn enwedig yn Ysgol Hen Felin ac Ysgol Tŷ Coch.

Mae'r data diweddaraf yn cefnogi'r cynnig i greu pumed ysgol arbennig yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer hyd at 200 o ddisgyblion. Mae adroddiad diweddaraf y Cabinet yn nodi bod angen rhagor o waith cwmpasu ar y broses arfarnu safle ar gyfer yr ysgol, er mwyn sicrhau bod y safle gorau posibl yn cael ei ddiogelu.

Yn dilyn cytundeb gan y Cabinet ddydd Llun, bydd deilliant y broses yma'n cael ei adrodd i'r Aelodau mewn cyfarfod yn y dyfodol, ochr yn ochr ag adborth gan Lywodraeth Cymru a manylion am yr ymgynghoriad statudol sydd ei angen i greu'r ysgol newydd.

Ychwanegodd adroddiad y Cabinet y byddai adeiladu ysgol newydd o bosibl yn darparu cyfleoedd i gryfhau dulliau partneriaeth ar draws cyfadrannau er mwyn cefnogi plant ac oedolion ifainc sydd angen gofal preswyl neu ofal seibiant, y mae rhai ohonyn nhw'n defnyddio darpariaeth y tu allan i'r sir ar hyn o bryd.

Rhoddodd yr adroddiad hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar y rhagamcanion ariannol diweddaraf ar gyfer yr ysgol newydd, gan nodi bod y Cyngor eisoes wedi cyflwyno cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i gynnwys ysgol arbennig o fewn Rhaglen Amlinellol Strategol ar gyfer Band B. Mae hyn yn rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a fydd yn cyfrannu 75% o gyfanswm costau'r prosiect.

Yn sgil nifer o ffactorau allanol - yn amrywio o gostau cynyddol deunyddiau i effaith barhaol y pandemig a'r pwysau byd-eang ar gadwyni cyflenwi - mae costau'r prosiect wedi cynyddu, a hynny’n uwch na'r cyllid sydd ar gael. Cytunodd Aelodau'r Cabinet ag argymhelliad yr adroddiad, sef i'r Cyngor ofyn am gynnydd yn ei becyn ariannu Band B drwy gyflwyno cais ffurfiol am amrywiad i Lywodraeth Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Cytunodd y Cabinet ar gynigion cychwynnol i greu ysgol arbennig newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn ystod mis Hydref 2021, ac ers hynny mae gwaith pellach wedi’i gwblhau gan swyddogion i symud y cynnig yn ei flaen.

“Roedd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun yn rhoi'r wybodaeth a'r data diweddaraf ar y gofynion o ran capasiti yn y dyfodol ac yn nodi'r camau nesaf i greu pumed ysgol, a fyddai'n cynnig lleoedd i hyd at 200 o ddisgyblion.

“Er gwaethaf buddsoddiad sylweddol diweddar i greu rhagor o leoedd yn ein hysgolion presennol, mae’n amlwg bod angen darpariaeth bellach. Mae nifer y disgyblion wedi cynyddu o 139 dros chwe blynedd, ac mae cymhlethdod anghenion disgyblion yn parhau i gynyddu.

“Rhaid i’r Cyngor gyflawni ei ddyletswyddau statudol mewn perthynas â’i ddarpariaeth ysgolion arbennig, a byddai ysgol newydd hefyd yn helpu i sicrhau bod gofynion parhaus Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn cael eu bodloni.

“Byddai’r ysgol newydd arfaethedig yn helpu i ddarparu lleoliadau hynod arbenigol i ddiwallu anghenion rhai o’n disgyblion mwyaf agored i niwed. Byddai hyn yn caniatáu iddyn nhw elwa ar addysgu arbenigol, offer, adnoddau, therapïau ac ymyrraeth feddygol – a hynny mewn amgylchedd sy'n addas i'r 21ain ganrif y mae ein pobl ifainc yn ei haeddu.

“Mae’r cynnig yn cyflwyno rhywfaint o heriau ariannol yn sgil yr amgylchiadau byd-eang cyfredol a phwysau’r diwydiant adeiladu. Fodd bynnag, mae nifer o beryglon ynghlwm â pheidio â gweithredu nawr i gynyddu ein darpariaeth ysgolion arbennig yn Rhondda Cynon Taf.

“Ddydd Llun, cytunodd yr Aelodau i’r Cyngor gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig i Lywodraeth Cymru er mwyn cynyddu’r lefel bresennol o fuddsoddiad sydd wedi'i glustnodi ar gyfer y cynigion. Gofynnodd yr Aelodau hefyd i gasgliadau’r broses arfarnu safle a dogfen ymgynghori arfaethedig gael eu hadrodd i’r Cabinet maes o law.”

Wedi ei bostio ar 30/09/22