Skip to main content

'Y Sied' newydd yn agor yn swyddogol yn Aberdâr

Dyma newyddion gwych i drigolion Aberdâr wrth i siop ailddefnyddio newydd agor yn swyddogol yn 31/32 Stryd y Canon.

Mae trydedd gangen 'Y Sied', sydd ar y stryd fawr yng nghanol tref Aberdâr, wedi'i hagor yn swyddogol gan Aelod Cabinet y Cyngor ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, y Cynghorydd Ann Crimmings.

Nod y siop newydd, sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9.30am–4.30pm, yw cynnig cyfleusterau ailgylchu ac ailddefnyddio ychwanegol i drigolion ardal Cwm Cynon. Mae hyn bellach yn golygu bod 'Sied' ym mhob rhanbarth – Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái – i drigolion eu mwynhau.

Gyda chynlluniau ar y gweill i gynnal achlysuron atgyweirio dros dro yn rheolaidd, yn ogystal ag amrywiaeth o achlysuron ac arddangosfeydd i'r gymuned, nod y cyfleuster newydd yma yw dod yn ganolbwynt yng nghymuned Cwm Cynon. I ddathlu'r agoriad yn swyddogol bydd sesiwn caffi atgyweirio yn cael ei drefnu ar y diwrnod gan elusen ail-ddefnyddio leol o ardal. Mae'r elusen yma'n bwriadu ehangu’i wasanaethau i bob rhan o Rondda Cynon Taf a helpu i adnewyddu rhagor o eitemau fyth.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y ddwy gangen arall o'r 'Sied' sydd wedi'u lleoli rownd y gornel o Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned Llantrisant (Uned 2 Ffordd Prichard, Parc Busnes Llantrisant) a Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, cafodd cynlluniau eu cyhoeddi dros y gaeaf diwethaf i ail-greu'r llwyddiant ar raddfa fwy fyth yn Aberdâr.

Dyrannodd Llywodraeth Cymru dros £570,000 o'i Gronfa Economi Gylchol i greu'r siop stryd fawr newydd sydd â’r nod o ail-greu llwyddiant y canghennau eraill o'r 'Sied', a chaniatáu i drigolion fynd â'u heitemau diangen at 'Y Sied' fel bod modd eu gwerthu nhw i rywun arall i’w hailddefnyddio. Roedd y cyllid a gafodd ei ddyrannu yn golygu bod modd i'r siop wag ar y stryd fawr gael ei hailwampio a'i haddasu'n llwyr ac roedd arian hefyd am fan drydan newydd, sy'n cael ei defnyddio rhwng yr holl ganghennau i gasglu unrhyw roddion o ganolfannau eraill ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol.

Mae canghennau'r 'Sied' yn Llantrisant a Threherbert yn parhau i fynd o nerth i nerth, a gyda'i gilydd maen nhw wedi llwyddo i roi bywyd newydd i dunelli o wastraff a'u hatal rhag fynd i safleoedd tirlenwi. Mae hynny'n cyfateb i tua 175,000 o eitemau cartref sydd wedi'u hadnewyddu.

Mae'r Sied yn rhoi cyfle i drigolion brynu eitemau sy'n cael eu gadael gan y cyhoedd yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Bydd y siop yn adnewyddu eitemau megis llyfrau, teganau, beiciau, llestri, addurniadau, dodrefn a llawer o eitemau eraill byddai wedi cael eu taflu gan aelodau'r cyhoedd fel arall. Mae'r silffoedd a'r gofod llawr bob amser yn llawn eitemau amrywiol gyda llawer o drysorau yn barod i'w darganfod.

Ar ôl i weithwyr a gwirfoddolwyr Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Llantrisant ddewis yr eitemau ar gyfer eu hailddefnyddio, maen nhw'n cael eu gwirio gan staff a gwirfoddolwyr elusen Wastesavers i weld eu bod nhw'n ddiogel ac mewn cyflwr da.

Mae'r newyddion gwych bod modd efelychu'r llwyddiant yma yn Aberdâr yn golygu bod modd achub mwy o eitemau fyth rhag safleoedd tirlenwi a dod o hyd i gartrefi newydd iddyn nhw.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'r Sied yn hollol wych ac wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda thrigolion Rhondda Cynon Taf. Mae'n gyffrous i mi weld llwyddiant y Sied yn cael ei ail-greu yn fy nghymuned fy hun, Aberdâr. Bydd hyn yn arwain at hyd yn oed rhagor o eitemau'n mynd i gartrefi newydd ac yn y pen draw yn cael eu dargyfeirio o safleoedd tirlenwi. Byddaf i bendant yn ymweld yn rheolaidd!

"Hoffwn i longyfarch pawb yn Y Sied ar eu llwyddiant hyd yma ac rydw i'n hyderus iawn y bydd cysyniad Y Sied yn parhau i fynd o nerth i nerth, yn enwedig yn dilyn y cyhoeddiad yma ynglŷn ag agoriad swyddogol y cyfleuster newydd ar y stryd fawr yn Aberdâr."

Meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru:

“A ninnau’n wlad yn y drydedd safle o ran ailgylchu yn y byd, mae gan Gymru enw da yn fyd-eang am leihau gwastraff. Ein nod ni yw creu economi gylchol sy’n ailddefnyddio adnoddau ac yn osgoi creu sbwriel.

“Trwy ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu’r hyn rydyn ni’n ei ddefnyddio, mae modd i ni helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a rhoi bywyd newydd i gynhyrchion a deunyddiau, sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau ledled Cymru – yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.

“Rydw i’n falch iawn o weld Rhondda Cynon Taf yn cymryd camau mawr i helpu i adeiladu Cymru gryfach, decach a gwyrddach gydag agoriad Y Sied yn ganolfan atgyweirio ac ailddefnyddio newydd ar gyfer y stryd fawr. Bydd yn ategu’r canghennau llwyddiannus eraill o’r Sied yn Llantrisant a Threherbert.”

Dywedodd Alun Harries, Rheolwr yr elusen Wastesavers, sy'n rheoli cyfleusterau canghennau'r Sied yn weithredol: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at agoriad swyddogol Sied arall yn Aberdâr. Mae'r cyfleusterau mae'r Cyngor wedi eu darparu yn ddelfrydol. Rydyn ni'n siŵr bydd y siop newydd ar y stryd fawr yn boblogaidd iawn gyda thrigolion yn y rhan yma o RCT."

Mae'r Cyngor yn ymfalchïo yn nifer y Canolfannau Ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol a bydd y cyfleusterau yma'n ateb eu holl ofynion ail-ddefnyddio ac ailgylchu. Mae rhestr lawn o Ganolfannau Ailgylchu a'r deunyddiau maen nhw'n eu derbyn i'w gweld yma: www.rctcbc.gov.uk/canolfannauailgylchu

Mae staff ar gael ym mhob un o'r canolfannau, a byddan nhw'n barod i roi cyngor a chymorth neu gyfeirio trigolion wrth ailgylchu'r deunyddiau o'u cartrefi. 

Rhwng mis Ebrill a mis Hydref, mae'r canolfannau ar agor ar ddydd Llun i ddydd Sul, 8am–7.30pm. Rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth, mae'r canolfannau ar agor ar ddydd Llun i ddydd Sul, 8am–5.30pm.

Am ragor o wybodaeth am y canolfannau ailgylchu yn y gymuned a'r "Sied", ewch i www.rctcbc.gov.uk/YSied neu ddilyn "The Shed Community" ar Facebook/Twitter.

Wedi ei bostio ar 23/09/22