Skip to main content

Llyfrau Cydymdeimlo

Queen BOC

Ynghyd â gweddill y wlad a'r Gymanwlad, rydyn ni yma yn Rhondda Cynon Taf yn nodi ein galar yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II.

Er mwyn dangos ein parch, bydd y baneri ar adeiladau'r Cyngor yn cael eu chwifio ar hanner mast.

Llyfrau Cydymdeimlo

Mae modd llofnodi Llyfrau Cydymdeimlo yn y lleoliadau canlynol o ddydd Gwener 9 Medi: 

  • Llyfrgell Aberdâr
  • Llyfrgell Treorci
  • Llyfrgell Llys Cadwyn

Bydd modd i chi lofnodi'r llyfrau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn hyd at y diwrnod ar ôl angladd y Frenhines. Gweler amseroedd agor y Llyfrgell.

Yn ogystal â hynny, mae modd i drigolion lofnodi Llyfr Cydymdeimlo ar-lein yma

Mae modd i'r rhai sy'n dymuno gosod blodau er cof am y Frenhines wneud hynny yn:

  • Llys Cadwyn, Pontypridd
  • Abercynon (ger y Cloc)
  • Aberpennar (Sgwâr Guto)
  • Aberdâr (Sgwâr y Llyfrgell)
  • Porth (ger y Gofeb Ryfel)
  • Tonypandy (ger y Gofeb Ryfel)
  • Treorci (tu allan i Theatr y Parc a'r Dâr)
  • Glynrhedynog (Parc Darren)

Bydd Cynghorau Tref a Chymuned ledled Rhondda Cynon Taf hefyd yn nodi rhagor o leoliadau lle mae modd i drigolion adael blodau.

Y Proclamasiwn

Yfory (dydd Sadwrn, 10 Medi) fydd Diwrnod y Proclamasiwn, pan fydd enw’r brenin newydd yn cael ei gyhoeddi.

Ar Ddiwrnod y Proclamasiwn, bydd baneri ar adeiladau'r Cyngor yn cael eu codi i'r mast llawn o 11am, cyn i'r Prif Broclamasiwn gael ei ddarllen. Am 1.45pm y diwrnod canlynol, dydd Sul 11 Medi, byddan nhw'n yn cael eu gostwng i hanner mast unwaith eto. Byddan nhw'n aros ar hanner mast tan 8am ar y diwrnod ar ôl Angladd Gwladol y Frenhines.   

Ddydd Sul 11 Medi, 1.30pm, bydd Maer Rhondda Cynon Taf yn darllen y Proclamasiwn Lleol ar y sgwâr y tu allan i Lys Cadwyn, Pontypridd.

Wedi ei bostio ar 15/09/2022