Skip to main content

Sgrinio TB ar gyfer cysylltiadau yn Nhonypandy

Public Health Wales logo blue Transparent

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i sgrinio cysylltiadau agos a nodwyd yn dilyn cadarnhau un achos o dwbercwlosis (TB) gweithredol mewn unigolyn sy'n gysylltiedig â thafarn y Welcome Inn yn Nhonypandy.

Mae ymchwiliadau wedi nodi nifer o gysylltiadau agos yr unigolyn, ac mae'r bobl hyn wedi'u gwahodd i gael eu sgrinio. 

Mae'r risg i'r cyhoedd yn isel, ac nid oes achos brigiad o achosion wedi'i ddatgan.

Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod y person wedi dal TB yn y dafarn, yn hytrach credir iddynt fynychu'r dafarn pan oedd ganddynt yr haint yn ddiarwybod iddynt.  Fel rhagofal, mae tua 70 o gysylltiadau agos wedi cael cynnig profion.

Meddai Elizabeth Marchant, Ymgynghorydd Meddygol Locwm Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'n anodd trosglwyddo TB. Mae'n gofyn am gyswllt agos ac estynedig ag unigolyn heintus, fel byw yn yr un aelwyd, i berson gael ei heintio.

“Byddwn yn pwysleisio bod y risg o haint â TB i'r cyhoedd yn parhau'n isel iawn.

 “Mae'r sgrinio sy'n cael ei gynnal yn Nhonypandy yn rhan arferol o weithdrefnau rheoli heintiau sefydledig, ac mae'r bobl sy'n cael gwahoddiad i gael eu sgrinio wedi'u nodi fel rhan o'r ymchwiliadau i'r achos hwn o TB gweithredol.

“Er mwyn hwyluso'r broses sgrinio, caiff ei chynnal yn y Welcome Inn.  Hoffwn ddiolch i'r Welcome Inn am eu cymorth yn hyn o beth.

“Os caiff heintiau TB positif eraill eu nodi o ganlyniad i hyn, bydd triniaeth briodol yn cael ei chynnig. Mae modd gwella TB gyda chwrs llawn o driniaeth.”

Ceir rhagor o wybodaeth am dwbercwlosis o wefan GIG 111 Cymru

 

Wedi ei bostio ar 28/10/2022