Skip to main content

Cefnogi Diwrnod Gwisgo Coch

Wear Red

Mae’r Cyngor yn cefnogi ymgyrch ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth' a'i achlysur 'Gwisgo Coch' blynyddol, a gaiff ei gynnal ddydd Gwener 21 Hydref. 

Rydyn ni'n annog staff y Cyngor, yn ogystal â thrigolion a busnesau ledled y Fwrdeistref Sirol, i wisgo dillad coch ar y diwrnod yma er mwyn dangos eu cefnogaeth. Hwn fydd yr wythfed tro i'r diwrnod gael ei nodi yng Nghymru. 

Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, neu Show Racism the Red Card, yn un o brif elusennau'r DU sy'n arwain y frwydr yn erbyn hiliaeth. Mae'n cynnal gweithdai addysgol, sesiynau hyfforddi, pecynnau amlgyfrwng, ac amrywiaeth o adnoddau defnyddiol eraill, er mwyn helpu i fynd i'r afael â hiliaeth yn ein cymdeithas a rhoi terfyn arni unwaith ac am byth.

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth 

Cafodd yr elusen ei sefydlu ym 1996, ac mae'n defnyddio unigolion adnabyddus ym maes chwaraeon a thu hwnt i hyrwyddo'i neges, gan annog pawb i chwarae'i ran a helpu i roi terfyn ar hiliaeth yn ein cymunedau a'n cymdeithas. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber: "Unwaith eto rydyn ni'n dangos ein cefnogaeth i Ddiwrnod Gwisgo Coch ac yn annog ein trigolion a busnesau lleol i ymuno â ni a sefyll gyda'n gilydd yn erbyn hiliaeth. 

"Mae gan bob un ohonon ni ran i'w chwarae wrth gael gwared ar hiliaeth o'n cymdeithas unwaith ac am byth. Mae modd profi hiliaeth mewn nifer o ffyrdd gwahanol, a ni sy'n gyfrifol am ei hatal rhag dod yn rhan o'n bywydau beunyddiol, a diogelu'r cymunedau rydyn ni'n byw, yn gweithio ac yn ymlacio ynddyn nhw. 

“Rydw i'n falch iawn bod y Cyngor yn cefnogi achlysur Diwrnod Gwisgo Coch eto eleni, ac rydw i'n annog pawb i gymryd rhan a chodi llais er ein budd ni a chenedlaethau'r dyfodol."

 

Wedi ei bostio ar 21/10/2022