Skip to main content

Cadw'n Ddiogel y Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt Yma

Nos Galan 2018-214

Mae'r Cyngor yn annog ei holl drigolion i fwynhau Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni, ond i gadw'n ddiogel a bod yn ystyrlon o eraill, gan gynnwys Cyn-filwyr y Lluoedd arfog, yr henoed, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt.  

Tra bod nifer yn edrych ymlaen at Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt mae eraill, fel ein cyn-filwyr sy'n byw â chyflwr Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn teimlo'n orbryderus yn y cyfnod sy'n arwain at 31 Hydref a 5 Tachwedd.  

Cofiwch, fod yr unigolion hynny'n byw â chyflwr PTSD bob dydd. Mae angen cefnogaeth ychwanegol ar nifer o bobl yn ein cymunedau yr adeg yma o'r flwyddyn, ac mae angen gofal a chariad ychwanegol ar anifeiliaid.  

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Mae nifer o bobl yn edrych ymlaen at ddathliadau Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt bob blwyddyn. Serch hynny, dyma ddau achlysur sy'n gallu codi ofn, ac mae rhai yn cael trafferth ymdopi yr adeg yma o'r flwyddyn.  

"Unwaith eto eleni rydyn ni eisiau gweithio gyda'n cymunedau a gyda Heddlu De Cymru yn rhan o'r Ymgyrch Bang blynyddol, i sicrhau bod y rhai sy'n mwynhau Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn gallu gwneud hynny mewn modd diogel. 

"Ond rydyn ni'n annog ein trigolion i fod yn ystyriol o eraill yr adeg yma o'r flwyddyn. Gall cnocio ar ddrysau, tân gwyllt yn ffrwydro, goleuadau llachar a synau uchel sydyn achosi trawma personol i nifer.

 "Byddwch yn ystyrlon o'ch cymdogion, a hefyd meddwl am yr holl anifeiliaid rydyn ni'n eu caru sy'n byw yn yr ardal. Gall y cyfnod yma achosi llawer o straen iddyn nhw, a gall y synau uchel a fflachiadau o olau o'u hamgylch eu drysu. 

"Mae'n syniad da rhoi digon o rybudd i'ch cymdogion os ydych chi'n bwriadu cynnau tân gwyllt neu goelcerth, neu'n ystyried cael parti. Fel hyn, gall y rheiny sydd ag anifeiliaid anwes neu sy'n byw gyda PTSD baratoi ymlaen llaw." 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio'n agos â chymuned y Lluoedd Arfog a Heddlu De Cymru drwy gydol y flwyddyn, ac unwaith eto eleni rydyn ni'n cefnogi'r Ymgyrch Bang 2022.  

Cofiwch, dyw Calan Gaeaf na Noson Tân Gwyllt ddim yn hwyl i bawb.  Mae'r cyfnod yma, fel arfer, yn hynod brysur ar gyfer ein Gwasanaethau Brys. Gall tân gwyllt a choelcerthi fod yn hwyl, ond maen nhw hefyd yn hynod o beryglus heb eu rheoli na'u trin yn gywir.  Peidiwch â chreu risg ar gyfer eich teulu, ffrindiau na chymuned. 

Mae modd i danau ledaenu tu hwnt i reolaeth mewn eiliadau, gan achosi difrod i eiddo, anafiadau a marwolaeth.  Mae digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio tân gwyllt a choelcerthi yn golygu bod dim modd i'n hymladdwyr tân gyrraedd argyfyngau eraill mewn pryd.  

Meddyliwch hefyd am yr holl anifeiliaid.  Gall synau uchel a fflachiadau sydyn eu cynhyrfu a chodi ofn arnyn nhw. Gallai'r cynnwrf hwnnw beri iddyn nhw grynu, cnoi ac ymddangos yn aflonydd.  Mae chwydu a chuddio yn ymatebion cyffredin.  

Mae'n hawdd rhoi braw i geffylau ac anifeiliaid fferm hefyd, a gallan nhw anafu eu hunain ar ffensys, offer neu, os ydyn nhw mewn stabl neu dŷ, ar osodiadau a ffitiadau sydd o'u hamgylch.  

RSPCA – How to Keep Your Pets Safe

 #YmgyrchBang

Wedi ei bostio ar 04/11/2022