Skip to main content

Dewch i Siarad am Ailgylchu a Gwastraff

Rydyn ni angen eich help chi i ddarganfod sut mae modd i ni ddod at ein gilydd i ailgylchu rhagor ledled Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni i gyd yn deall pwysigrwydd ailgylchu a does dim ots pa mor fawr yw ein hymdrechion, mae rhaid i ni roi ambell i eitem yn y bag du.  OND a wyddoch chi mai dim ond tua 20% o'ch gwastraff y cartref sydd wir yn ddeunydd does dim modd ei ailgylchu?!

Mae'n amser i ni fynd i'r afael â hyn! Mae'n amser i ni siarad am ailgylchu a gwastraff!

Er mwyn ceisio cynyddu'n cyfraddau ailgylchu ymhellach ledled Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n gofyn i drigolion gymryd rhan yn yr arolwg Dewch i Siarad diweddaraf.

Mae'r arolwg yn ceisio dod ag arferion ailgylchu a gwastraff ein Bwrdeistref Sirol i'r amlwg, ac yn holi sut mae modd i ni lywio gwasanaethau'r Cyngor i helpu trigolion i ailgylchu mwy.

Mae modd i ni i gyd wneud rhagor i sicrhau ein bod ni'n ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl, o gewynnau i wastraff bwyd a phlastigau, caniau, gwydr a phapur.  Mae modd ailgylchu'r rhan fwyaf o wastraff y cartref unai wrth ymyl y ffordd neu mewn canolfan cyfagos. 

Fel Cyngor, rydyn ni'n falch o'n gwasanaethau ailgylchu. Rydyn ni'n ymdrechu i sicrhau bod ein gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu mor hawdd â phosibl i drigolion, wrth gynnal lefelau ailgylchu da. Rydyn ni bob amser yn monitro'r hyn sy'n cael ei ailgylchu, ac yn ystyried ffyrdd o wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig.

Cyngor RhCT oedd un o'r Cynghorau cyntaf i gyflwyno gwasanaeth ailgylchu cewynnau. Rydyn ni'n parhau i fod yn awdurdod arweiniol yn y maes yma trwy brosiect Dyfodol Gwyrdd Glân Llywodraeth Cymru. 

Yn ddiweddar, mae'n hymdrechion ni wedi golygu bod miliynau yn llai o fagiau plastig clir untro wedi cael eu defnyddio, a hynny o ganlyniad i gyflwyno'r sachau gwastraff gwyrdd mae modd eu hailddefnyddio. 

Cyngor RhCT oedd un o'r Cynghorau cyntaf yng Nghymru i symud i ffwrdd o gasgliadau bagiau du wythnosol, a chyfyngu ar nifer y bagiau du sy'n cael eu casglu.  Mae'r newidiadau yma wedi cyfrannu at y cynnydd sylweddol yn ymdrechion ailgylchu'r Fwrdeistref Sirol gyfan.

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg newydd, byddwch chi'n ein helpu ni i weld sut mae'r cyfan yn mynd a'ch barn chi am sut y bydd y rhain yn ein helpu ni i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25.

Os na fyddwn ni'n bodloni'r targed yma, byddwn ni'n wynebu dirwyon mawr gwerth £140,000 am bob canran rydyn ni'n methu â'i gyflawni. Mae'n bosibl y byddai'r symiau mawr o arian yma yn arwain at doriadau neu newidiadau i wasanaethau er mwyn talu'r dirwyon.

Er mwyn dangos ein hymrwymiad i faterion newid yn yr hinsawdd, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo at fodloni targed ailgylchu o 80% erbyn 2024/25. Y gyfradd ailgylchu bresennol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yw 67% (2021/22). Mae rhaid felly i'r Cyngor weithio'n galed i gyrraedd y targed ac annog trigolion RhCT i ailgylchu cymaint o wastraff ag sy'n bosibl.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae ein hymdrechion ailgylchu yn y Fwrdeistref Sirol wedi bod yn wych.   Rydyn ni bob amser wedi gweithio gyda'n gilydd i lywio'r gwasanaethau i fodloni anghenion ein trigolion. O'r herwydd, mae ailgylchu yn ail natur i'r mwyafrif.  

"Fel Cyngor, rydyn ni'n ceisio sicrhau bod ailgylchu yn hawdd a hygyrch.  Mae Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned o fewn ychydig filltiroedd i bob preswylydd.  Mae'r canolfannau ar agor 7 diwrnod yr wythnos, hyd yn oed ar wyliau banc.

"Mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n ailgylchu ac yn gwneud newidiadau syml i'n ffyrdd o fyw er lles y blaned a chenedlaethau'r dyfodol.  

"Rydyn ni'n holi trigolion am eu harferion ailgychu a pha rwystrau maen nhw'n eu hwynebu er mwyn i ni geisio hwyluso'r broses lle bo hynny'n bosibl.  Treuliwch 5 munud yn llenwi'r arolwg yma er mwyn bod yn rhan o'r dyfodol a fydd yn arwain newid ar gyfer ein planed."

Mae'r arolwg ar gael ar-lein am pedwar wythnos rhwng 21 Hydref a 18 Tachwedd.  Bydd hefyd nifer o achlysuron ôl-gerbyd yn cael eu cynnal i helpu trigolion i lenwi'r arolwg a chael yr holl wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael.

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu, e-bostiwch Ailgylchu@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425001.  

Wedi ei bostio ar 21/10/2022