Skip to main content

Trawsnewid eiddo gwag er mwyn rhoi cartref diogel i bobl ifainc

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ar y cyd â chwmni RHA Wales, wedi derbyn cyllid gan Gynllun Cyfalaf Digartrefedd Cam 2 Llywodraeth Cymru i adeiladu eiddo preswyl y mae galw mawr amdano er mwyn diwallu anghenion pobl ifainc yn ein cymunedau sydd angen manteisio ar gynllun byw â chymorth.

Mae'r cynllun wedi'i leoli ar Stryd Hughes, Tonypandy, gyda mynediad rhwydd i ganol y dref a chyfleusterau lleol cyfagos. Bydd y cynllun yn darparu 4 fflat stiwdio hunangynhwysol 1 ystafell wely ar y ddau lawr isaf a llety i staff ar y llawr cyntaf. Bydd y cynllun yn cael ei reoli gan Hafan Cymru, sy'n arbenigwr ym maes darparu cymorth i bobl ifainc.

Yn wreiddiol, cafodd y cynllun ganiatâd cynllunio yn ystod tymor yr hydref 2020. Serch hynny, roedd rhaid gohirio'r gwaith o ganlyniad i'r pandemig a'r effaith ar gadwyni cyflenwi, ac felly mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn gynnar yn 2023.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Dyma gynllun hynod o bwysig sy'n fodd o ddatrys nifer o broblemau.

“Yn gyntaf, rydyn ni'n darparu cartref cynnes, diogel a sefydlog i rai o'n trigolion mwyaf bregus, fydd yn cael cymorth parhaus wrth fynd ati i fyw bywyd annibynnol.

“Yn ail, mae adeilad nad oedd yn addas i fyw ynddo, ac yn creu problem yn y gymuned, bellach wedi'i adnewyddu. Mae eiddo gwag yn wastraff llwyr, a dydyn nhw ddim yn ychwanegu gwerth i'r cymunedau o'u cwmpas.

“Mae'n wych gweld Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio â RHA Wales eto er mwyn rhoi bywyd newydd i'r eiddo gwag yma.”

Bydd y cynllun arloesol yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern ac mae disgwyl iddo gostio £722,000. Mae RHA Wales wedi derbyn £411,000 yn rhan o gyllid Cam 2 y Cynllun Ddigartrefedd. Bydd y cwmni'n darparu'r £311,000 sy'n weddill.

Wedi ei bostio ar 31/10/22