Skip to main content

Dathlu Arwr y Gymuned!

Cafodd un arwr yn y gymuned leol ddiolch enfawr yr wythnos diwethaf i ddathlu ei waith caled a’i ymroddiad anhygoel i gadw strydoedd Aberdâr yn lân ac yn ddi-sbwriel. 

Mae Roger Davies o Aberdâr, sy'n 87 oed, wedi treulio'r 13 blynedd diwethaf yn helpu i gadw'r strydoedd o amgylch canol y dref yn lân a thaclus. Roedd Roger i'w weld yn gynnar yn y bore, bob dydd, yn codi'r sbwriel cyn i'r lonydd brysuro gyda cheir a cherddwyr.

Mae Roger wedi byw yn y dref ers dros 70 mlynedd ac mae wir yn teimlo'n angerddol dros yr ardal. Ym mhob tywydd dan haul, mae'n casglu sbwriel o'i stryd, ar hyd y ffordd osgoi ac o amgylch tir Eglwys Sant Ioan. Mae'n chwilio am sbwriel rhwng ceir ac yn y gordyfiant er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud y dasg yn iawn! 

Gyda help Cynghorwyr lleol, y Cynghorydd Steve Bradwick, y Cynghorydd Ann Crimmings, a y Cynghorydd Victoria Dunn, fe wnaeth Roger drefnu bod biniau gwastraff ychwanegol yn cael eu gosod fel bod llai o wastraff yn cael ei ollwng ar lawr – gan sicrhau bod neb ag esgus i ollwng sbwriel. 

Dros y blynyddoedd, mae Roger wedi casglu, ar gyfartaledd, 3 bag o sbwriel bob dydd, ac unwaith y mae wedi gorffen, mae'n gadael y bagiau wrth y ffordd i Garfan Glanhau Strydoedd RhCT eu casglu.

Yn fwy diweddar, mae Roger wedi ei chael hi'n anodd parhau â'r gwaith anhygoel yma, a hynny gan fod ei iechyd yn gwaethygu a bod gyda fe fwy o ymrwymiadau teuluol. Bydd Roger, felly, yn rhoi ei ffon codi sbwriel i gadw. I ddathlu a dangos gwerthfawrogiad y gymuned o'i ymdrechion, cafodd Roger ymweliad arbennig yr wythnos ddiwethaf gan Gynghorwyr lleol, y Cynghorydd Crimmings, y Cynghorydd Bradwick a y Cynghorydd Victoria Dunn, a gyflwynodd sawl anrheg a chardiau i Roger i ddiolch am ei wasanaeth i Aberdâr dros y blynyddoedd. 

Meddai'r Cynghorydd Steve Bradwick: “Mae Roger yn gaffaeliad gwych i'n cymuned, ac rydw i'n falch ei fod wedi bod yn drysor yn ein tref dros y degawd diwethaf. Mae Roger wedi bod yn ffrind da i'n tref ac mae'n haeddu cael ei ddiolch a gweld ein gwerthfawrogiad. Rydw i'n dymuno seibiant dymunol a haeddiannol iddo ef  – Diolch am bopeth!”

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, sy'n Gynghorydd lleol ac yn Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae Roger wedi bod yn amddiffynnydd arbennig dros yr amgylchedd dros y blynyddoedd ac mae wedi ennill ein gwobr glodfawr Bro-garwyr Tra Mad am ei ymdrechion sylweddol. Roeddwn i'n falch iawn o ymweld â Roger a chael y cyfle i ddiolch iddo am ei holl waith caled ac anhygoel. Rydw i'n meddwl bod Roger yn haeddu ymlacio bellach a phasio'r ffon codi sbwriel ymlaen i rywun arall. Diolch, Roger, gan bawb yma yn RhCT.”

Mae gyda Rhondda Cynon Taf sawl hwb codi sbwriel ac mae'r Cyngor yn gweithio gyda 'Cadwch Gymru'n Daclus' a 'Caru Cymru' i sicrhau eu bod nhw o fewn cyrraedd i bawb. Os hoffech chi ragor o wybodaeth neu barhau â gwaith da  Roger , ewch i https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/hybiau-codi-sbwriel/.  

Mae rhagor o wybodaeth am sbwriel yn Rhondda Cynon Taf i'w gweld yma: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/StreetCareandCleaning/StreetCareandCleaning.aspx.  

Wedi ei bostio ar 27/10/2022