Skip to main content

DAL DAU BERCHENNOG CŴN ANGHYFRIFOL

Mae DAU berchennog cŵn brwnt wedi mynd ‘am dro' i'r llys, gan adael yno gyda dirwyon a chostau o bron i £1,000!

Cafodd y ddau berchennog anghyfrifol eu dal wrth iddyn nhw adael i'w cŵn faeddu mewn man cyhoeddus a methu â'i godi, gan adael y baw fel malltod ffiaidd ar Rondda Cynon Taf.

Gadawodd y fenyw o Rydfelen i'w chi hi grwydro'r strydoedd ar ei ben ei hun ble'r oedd e'n rhydd i faeddu ble bynnag a faint bynnag y dymunai yn yr ardal leol. Roedd rhaid i'r fenyw dalu dirwy o £330, costau o £120 a gordal dioddefwr o £34, sef cyfanswm o £484.

Gwnaeth yr ail berchennog, dyn o Ddinas, Cwm Rhondda, fethu â chodi baw ei gi'n syth ar ôl iddo faeddu a gwrthododd gydweithredu â Swyddogion Gorfodi y Cyngor. Roedd rhaid i'r dyn dalu dirwy o £330, costau o £120 a gordal dioddefwr o £34 – cyfanswm o £484.

Mae ein neges ni i berchnogion anghyfrifol yn syml – 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU'. Mae'r negeseuon yma wedi cael eu paentio mewn melyn llachar ar y strydoedd, heolydd, caeau ac mewn mannau poblogaidd i fynd â chŵn am dro.

Mae neges y Cyngor yn glir – os bydd Swyddog Gorfodi yn dal perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau llym y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO), bydd y Cyngor yn gweithredu ac yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100.

Os dyw'r hysbysiad ddim yn cael ei dalu, bydd modd i hyn arwain at achos llys a chael dirwy llawer yn fwy, rhywbeth mae'r perchnogion cŵn anghyfrifol yma wedi sylweddoli. Mae'n bosibl y caiff manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Cafodd y Gorchymyn Mannau Cyhoeddus ac Amddiffyn ei gyflwyno yn Rhondda Cynon Taf bum mlynedd yn ôl (Hydref 2017) ac un o'r prif bryderon yw baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed ar ôl codi baw cŵn oddi ar arwyneb y cae, mae darnau ohono yn glynu at y gwair a'r pridd. Mae hyn yn ffiaidd ac yn beryglus – gallai arwain at oblygiadau iechyd difrifol all newid byd i unrhyw un sy'n dod mewn cysylltiad â'r baw.

Fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf DDIM yn goddef perchnogion anghyfrifol sy'n gadael i'w cŵn faeddu ar ein caeau chwaraeon! Ein cyngor ni oedd y cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran cadw cŵn dan reolaeth ac fel y gwelwch chi yn yr achos yma, mae'r gwaith caled yn parhau wrth i'r garfan orfodi ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac eu dwyn i gyfrif BOB TRO.

Bydd staff Gorfodi Gofal y Strydoedd hefyd yn gweithio oriau estynedig i sicrhau y bydd dim modd i berchnogion cŵn anghyfrifol ddod o hyd i unrhyw le i guddio – hyd yn oed ar ôl iddi dywyllu!

Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i glybiau roi gwybod am unrhyw broblemau ac achosion o faw cŵn ar y caeau trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni eu cefnogi a chydweithio er diogelwch y chwaraewyr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Mae'r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond yn anffodus, dyw rhai perchnogion cŵn ddim i'w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon. Mae'n ddolur llygad ar ein Bwrdeistref Sirol yn ogystal â'r goblygiadau iechyd difrifol i'r gymuned sy'n deillio o'r broblem ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu'r broblem yma. 

"Ar ôl derbyn cwynion gan drigolion lleol a gweld y broblem â fy llygaid fy hun, bydd y Wardeiniaid Cymunedol a'r garfan orfodi yn uno i gynyddu'r presenoldeb ar ein strydoedd i fynd i'r afael â phroblem sy'n cael effaith fawr ar ein caeau chwaraeon. Cafodd nifer o glybiau eu heffeithio'n wael gan Covid-19 a dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw gael eu gorfodi i ganslo sesiynau oherwydd bod perchnogion anghyfrifol a diog yn methu â dilyn rheolau.

“Byddai'n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os bydd pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu'n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx

Wedi ei bostio ar 30/11/2022