Skip to main content

Ymgynghoriad ar Wasanaethau Llyfrgell o Bell

Books

Hoffen ni gael barn ein trigolion ar ein Gwasanaethau Llyfrgell o Bell yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus. Fe gewch chi ddweud eich dweud tan ddydd Iau, 1 Rhagfyr.

O ganlyniad i'r angen i addasu gwasanaethau’r Cyngor yn ystod pandemig byd-eang COVID-19, cafodd Gwasanaeth y Llyfrgelloedd gyfle i archwilio ffyrdd eraill o gynnig gwasanaethau. Tynnodd hyn sylw at y ffaith bod modd i wasanaethau amgen gynnig lefelau gwasanaeth gwell am gost lai. 

Mae'r ddarpariaeth Gwasanaeth 'Gartref' bresennol yn effeithiol ac effeithlon o’i chymharu â chost uchel a defnydd cyhoeddus gostyngol o wasanaethau cyfredol y Llyfrgell Deithiol.   

Hoffai'r Cyngor ymgynghori ar gynnig gwasanaethau'r llyfrgell deithiol yn y dyfodol gan gynnwys darpariaeth y gwasanaeth 'Gartref' a gwasanaethau ar-lein ac e-lyfrau. 

Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud drwy gwblhau a chyflwyno ein harolwg ar-lein. 

Arolwg y Gwasanaethau Llyfrgell o Bell 

Mae croeso ichi gyflwyno'ch sylwadau yn Gymraeg neu'n Saesneg, naill ai trwy'r post, trwy e-bost neu dros y ffôn. Cysylltwch â ni

Daw’r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ddydd Iau, 1 Rhagfyr.

Wedi ei bostio ar 10/11/22