Skip to main content

Cerdyn coch i berchnogion cŵn ANGHYFRIFOL

Mae dyn o Bontypridd wedi derbyn cerdyn coch a dirwy fawr gan lys am adael i'w gi grwydro o amgylch rhan gyfyngedig o Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.

Gadawodd i'w gi redeg yn rhydd ar y cae chwaraeon aml-ddefnydd ac yn y parc prysur gan arwain ato'n derbyn bil o £374 oedd yn cynnwys dirwy gwerth £240, costau gwerth £120 a gordal i ddioddefwyr gwerth £34.

Cyflwynwyd pryderon allweddol y Gorchymyn Mannau Cyhoeddus ac Amddiffyn (PSPO) yn Rhondda Cynon Taf bum mlynedd yn ôl (Hydref 2017) ac un o'r prif bryderon yw baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed ar ôl codi baw cŵn oddi ar arwyneb y cae, mae darnau ohono yn glynu at y gwair a'r pridd. Mae hyn yn ffiaidd ac yn beryglus – gallai arwain at oblygiadau iechyd difrifol all newid byd i unrhyw un sy’n dod mewn cysylltiad â’r baw.

Fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf DDIM yn goddef perchnogion anghyfrifol sy'n gadael i'w cŵn faeddu ar ein caeau chwaraeon! Ein cyngor ni oedd y cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran cadw cŵn dan reolaeth ac fel y gwelwch chi yn yr achos yma, mae'r gwaith caled yn parhau wrth i'r garfan orfodi ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac eu dwyn i gyfrif BOB TRO.

Wrth i'n clybiau pêl-droed, rygbi a chwaraeon ddechrau ar dymhorau'r hydref/gaeaf, mae'r Cyngor yn cynyddu nifer y patrolau ledled y Fwrdeistref Sirol a byddwn ni'n canolbwyntio ar leoliadau allweddol. Yn ogystal â'n Swyddogion Gorfodi Gofal y Strydoedd, bydd ein Wardeiniaid Cymunedol newydd yn cadw llygad am droseddau amgylcheddol – gan gynnwys gadael baw cŵn, a pheidio â chydymffurfio â rheolau'n gwahardd cŵn rhag ardaloedd chwarae i blant a chaeau chwaraeon. Bydd ein swyddogion yn rhoi dirwyon pan fydd galw am hynny.

Ym mis Mehefin, cytunodd cabinet Cyngor RhCT i gyflogi carfan newydd o Wardeiniaid Cymunedol. Bydd y Wardeiniaid Cymunedol yma'n bresenoldeb clir i dawelu meddwl trigolion ein cymunedau a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ganolbwyntio ar leoliadau allweddol megis canol trefi a pharciau. Dyletswydd graidd y wardeiniaid yw rhoi cysur a thawelwch meddwl i drigolion lleol a'r gymuned ehangach trwy greu amgylchedd mwy diogel a phleserus. Bydd y wardeiniaid yn gweithio oriau estynedig o'u cymharu â swyddogion gorfodi ac yn sicrhau bod perchnogion anghyfrifol yn atebol am eu gweithredoedd anghyfreithlon.

Mae ein neges i berchnogion anghyfrifol yn syml – 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU'. Mae'r negeseuon yma wedi cael eu paentio mewn melyn llachar ar y strydoedd, heolydd, caeau ac mewn mannau poblogaidd i gerdded cŵn.

Mae neges y Cyngor yn glir – os bydd Swyddog Gorfodi yn dal perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn gweithredu ac yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100.

Os na chaiff yr Hysbysiad ei dalu, bydd modd i hyn arwain at achos llys, a dirwy llawer yn fwy. Mae'r dyn dan sylw bellach wedi sylweddoli hyn. Mae'n bosibl y caiff manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i glybiau roi gwybod am unrhyw broblemau ac achosion o faw cŵn ar y caeau trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni eu cefnogi a chydweithio er diogelwch y chwaraewyr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond yn anffodus, dyw rhai perchnogion cŵn ddim i’w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio ar ôl baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon. Mae’n ddolur llygad ar ein Bwrdeistref Sirol yn ogystal â'r goblygiadau iechyd difrifol i’r gymuned sy'n deillio o'r broblem ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu’r broblem yma.

"Ar ôl derbyn cwynion gan drigolion lleol a gweld y broblem â fy llygaid fy hun, bydd y Wardeiniaid Cymunedol a'r garfan orfodi yn uno i gynyddu'r presenoldeb ar ein strydoedd i fynd i'r afael â phroblem sy'n cael effaith fawr ar ein caeau chwaraeon. Cafodd nifer o glybiau eu heffeithio'n wael gan Covid-19 a dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw gael eu gorfodi i ganslo sesiynau oherwydd bod perchnogion anghyfrifol a diog yn methu â dilyn rheolau.

“Rydyn ni'n ffodus iawn i gael carfan Gofal y Strydoedd mor rhagweithiol a brwdfrydig sy’n parhau’n ymroddedig i ddefnyddio cynlluniau a mentrau arloesol i frwydro yn erbyn y malltodau yma ar ein trefi a’n pentrefi.

“Y gobaith yw y bydd negeseuon diweddaraf yr ymgyrch yn fodd i’ch atgoffa i lanhau ar ôl eich ci – rhowch y baw mewn bag a’i roi yn y bin, a pheidio â gadael i’ch cŵn gerdded ar gaeau.

“Yn 2020 estynnwyd rheolau GDMC/PSPO oherwydd eu llwyddiant a byddwn ni'n parhau i ddefnyddio’r gorchymyn yma i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol – gan gynnwys ar feysydd fel ardaloedd chwarae i blant a chaeau wedi’u marcio lle mae preswylwyr yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon.

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os bydd pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/bawcwn.

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch ci am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/ciamdro.

 

Wedi ei bostio ar 03/11/2022