Skip to main content

Yn Angof Ni Chânt Fod

War-Memorial

Ar Ddiwrnod y Cadoediad 2022, rydyn ni'n cofio am y rheiny a fu farw yn ystod y ddau ryfel byd a'r holl wrthdaro sydd wedi bod ers hynny. Byddwn ni'n ymunod â gweddill Cymru a’r DU mewn dwy funud o dawelwch am 11am ddydd Gwener, 11 Tachwedd. 

Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi ei gymuned Lluoedd Arfog a'i gyn-filwyr, a hynny drwy Wasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, sydd wrth law yn cynnig cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Dyma'r cyswllt cyntaf i lawer o gyn-filwyr a'u teuluoedd sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. 

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae’r Cyngor hwn yn falch o’i gysylltiad â chymuned y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw. Mawr yw ein dyled ni i bob un ohonyn nhw. 

"Mae'r adeg yma o'r flwyddyn yn gyfle i ni fyfyrio ar aberthau y bobl hynny a chofio'r rhai na ddychwelodd o ryfel at gariad eu teuluoedd. Dyma ein ffordd ni o nodi bywydau pob un ohonyn nhw. Fe gofiwn ac ni fyth anghofiwn." 

“Mae’n bwysig bod pob un o’n cyn-filwyr o bob oed, a’u teuluoedd, yn gwybod bod Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yno i gynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad iddyn nhw pryd bynnag maen nhw'u hangen yn ystod eu bywydau." 

Mae Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog yn cynnig cymorth ac arweiniad cyfrinachol i gyn-filwyr sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â'u teuluoedd, drwy gydol y flwyddyn. Mae'r grŵp yn cynnig ystod eang o gymorth gyda materion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma, Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth. 

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor 

Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff aelodau'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfon e-bost i GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Wedi ei bostio ar 11/11/22