Skip to main content

Amser i Ddathlu Ailgylchu fel Brenhines!

Rhowch ddiwrnod i'r Frenhines i'ch gwastraff ailgylchu yn ystod Gŵyl Banc y Jiwbilî ac ailgylchwch fel y brenhinoedd a'r breninesau yr ydych chi yn Rhondda Cynon Taf.

Eleni, rydyn ni'n nodi 20 mlynedd o ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf ac mae mwy a mwy o breswylwyr yn ailgylchu i safon uchel iawn o hyd.

Yn 2002 cyflwynodd Rhondda Cynon Taf gynllun peilot ailgylchu mewn cartrefi ar draws y Fwrdeistref Sirol ar ôl iddi gael ei rhestru yn un o’r ardaloedd gwaethaf o ran ailgylchu yng Nghymru. Diolch i fuddsoddiad parhaus, gwaith caled, ymroddiad, ymrwymiad, a’i phreswylwyr anhygoel yn ymuno â’r frwydr yn erbyn gwastraff, mae'r ardal bellach yn y rhestr o’r 10 ardal orau o ran ailgylchu ac wedi bod ers blynyddoedd lawer.

Cyrhaeddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf darged ailgylchu Llywodraeth Cymru o 64% yn 2016/17 cyn y terfyn amser yn 2019/20, ac mae'n symud tuag at darged 2024/25 o 70% a mwy.

Fel Cyngor, mae Rhondda Cynon Taf wedi arwain y ffordd mewn llawer o fentrau arloesol dros yr 20 mlynedd diwethaf, megis ailgylchu matresi, agor Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned (y cyntaf o'u math), a bod yn un o'r ardaloedd cyntaf i gyflwyno cynllun ailgylchu cewynnau!

Yn rhan o'i ymrwymiad parhaus i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd ac i gynyddu'r cyfraddau ailgylchu, mae'r Cyngor wedi newid y ffordd y mae'n casglu gwastraff gwyrdd yn ddiweddar. Mae cyflwyno sachau gwyrdd mae modd eu hailddefnyddio yn golygu bydd y Cyngor yn defnyddio tua 3 miliwn yn llai o fagiau ailgylchu clir bob blwyddyn. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor wedi gofyn i breswylwyr gofrestru ar gyfer y gwasanaeth fel bod modd i'r carfanau osgoi teithiau diangen a lleihau ôl troed carbon cyffredinol y Cyngor. Cofrestrwch yma: www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd.

Er gwaetha'r llwyddiant hyd yn hyn, fel Bwrdeistref Sirol mae angen i ni barhau â'n hymdrechion o ran ailgylchu i helpu i gyrraedd y targed nesaf o 70%. Trwy GOFIO am yr hyn mae modd ei ailgylchu ai peidio, gallwn ni i gyd wneud y mwyaf o’n gwaith caled yn y gorffennol a sicrhau dyfodol gwyrddach i’r genhedlaeth nesaf, felly #COFIWCHAilgylchu.

Bydd DIM NEWIDIADAU i gasgliadau ar y dydd Iau (02/06/2022) na’r dydd Gwener (03/06/2022) felly mae'r Cyngor yn gofyn i'n preswylwyr godi eu bagiau ailgylchu CLIR a bagiau gwastraff bwyd 'brenhinol', ac ailgylchu eu holl wastraff ychwanegol yn ystod eu partïon stryd ac achlysuron bendigedig.

Mae’r Cyngor yn atgoffa preswylwyr i sicrhau eu bod nhw’n rhoi eu gwastraff ac ailgylchu I GYD (gan gynnwys cewynnau, gwastraff gwyrdd a bwyd) yn y mannau casglu arferol cyn 7am ar y diwrnodau casglu arferol a bydd modd eu casglu’n gynt na’r arfer er mwyn caniatáu partïon stryd.

Os nad ydyn ni wedi casglu eich gwastraff/deunyddiau i'w hailgylchu pan ddylen ni fod wedi gwneud hynny, gadewch nhw ar ymyl y palmant. Mae'n bosibl y byddwn ni'n gweithio oriau ychwanegol ac yn eich cyrraedd cyn gynted â phosibl. Weithiau bydd y carfanau'n gweithio'n hwyr yn ystod cyfnodau prysur ac weithiau caiff staff ychwanegol eu galw i mewn i gael gwared â'r eitemau y diwrnod canlynol.

Os ydych chi'n cynnal parti stryd, byddwch yn effro i'r cerbydau casglu ailgylchu sydd angen cyrraedd y strydoedd. Parciwch eich ceir (neu gerbydau brenhinol) mewn ffordd addas a sicrhewch fod addurniadau neu faneri yn y stryd ddim yn achosi rhwystr i gerbydau'r gwasanaethau brys, a rhaid bod modd eu symud nhw yn syth.

Mae'r carfanau'n cynllunio eu llwybrau casglu gan ystyried partïon lle bo modd ac mae amseroedd casglu'n debygol o fod yn wahanol i'r arfer, felly ystyriwch beidio â gosod eich byrddau ac ati ar y briffordd tan yn hwyrach yn y dydd neu ar ôl i'ch gwastraff/ailgylchu gael eu casglu.

Gall preswylwyr fwynhau gŵyl banc di-wastraff drwy ailgylchu eu holl wastraff bwyd anochel, poteli plastig ychwanegol, tybiau a hambyrddau, caniau metel, poteli gwydr, jariau, pecynnau cardbord a rhagor.

Mae ailgylchu'n allweddol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac mae'n ffordd hawdd iawn i bawb wneud gwahaniaeth mawr. Yn sicr, mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i aelwydydd RhCT ond mae ein preswylwyr wedi bod yn sicrhau eu bod nhw'n ailgylchu doed a ddelo, sy'n newyddion da i'r Fwrdeistref Sirol, i Gymru ac wrth gwrs, i'r amgylchedd – rhywbeth rydyn ni’n siŵr y byddai’n derbyn sêl bendith y Frenhines.

Bydd POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar agor o 8am tan 7.30pm bob dydd dros ŵyl banc y Jiwbilî.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden:

"Hoffwn i ddymuno gŵyl banc frenhinol di-wastraff i'n holl breswylwyr ni a diolch i bob un ohonyn nhw am gefnogi dyfodol gwyrddach ar gyfer RhCT drwy gydol y flwyddyn.

“Mae cyfnod gŵyl y banc yn golygu gwastraff ychwanegol ac mae’n amser gwych i feddwl yn wyrdd ac ailgylchu’r holl becynnau ychwanegol, bwyd, plastigion, caniau ac ati.

"Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi pobl ac yn annog preswylwyr i barhau â'u gwaith da drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu hygyrch ac arloesol, ac mae hyn yn mynd law yn llaw â'r gwaith parhaus o addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn ei blith.

"Mae cefnogaeth ein preswylwyr tuag at bopeth i wneud ag ailgylchu dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol, a hoffwn i ddiolch i'n preswylwyr am chwarae eu rhan. Yn y dyfodol, rhaid i ni ddal ati â'r gwaith arbennig o dda yma a gadewch i ni i gyd gymryd y camau bach i helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.”

Hoffech chi ragor o wybodaeth ac awgrymiadau ynghylch ailgylchu eich gwastraff gŵyl banc a pharti brenhinol? Dilynwch ni ar Facebook neu Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

Wedi ei bostio ar 25/05/22