Skip to main content

Cyn-filwr Gwrthdaro Ynysoedd Falkland Bellach yn Helpu Eraill yn eu Bywyd Bob Dydd

Paul-Bromwell

Tua 40 o flynyddoedd wedi gwrthdaro Ynysoedd Falkland, mae Paul Bromwell yn dal i gofio ei gyfnod yn ne'r Iwerydd, yn enwedig y diwrnod bu farw 48 o'i Gymrodyr a ffrindiau.

Ag yntau bellach yn Brif Weithredwr Valley Veterans, mae Mr Bromwell yn gweithio'n agos â Gwasanaeth Cyn-filwyr Lluoedd Arfog y Cyngor er mwyn rhoi cymorth a chefnogaeth i gyn-filwyr.

Mae Mr Bromwell, a oedd yn rhan o'r Gwarchodlu Cymreig yn ystod gwrthdaro Ynysoedd Falkland 40 mlynedd yn ôl yn effro i'r heriau sy'n wynebu cyn-filwyr wrth iddyn nhw ddychwelyd i fywyd bob dydd.

Dychwelodd Mr Bromwell i'w gartref yng Nghwm Rhondda yn 1982 heb dderbyn unrhyw gymorth proffesiynol wedi iddo wasanaethu yn Ynysoedd Falkland. Fyth ers hynny mae Mr Bromwell wedi dioddef o Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD).

Meddai Mr Bromwell, derbynnydd cyntaf Gwobrau GIG Pobl Aneurin Bevan: "Rwy'n ddiolchgar iawn am y cymorth rydw i bellach yn ei dderbyn gan Wasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Mae gwybod bod cymorth mor arbennig ar gael i gyn-filwyr yn gysur mawr.

"Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog. Gosododd hynny esiampl i bob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru ac am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd mae cymorth a chefnogaeth ar gael imi ac i gyn-filwyr eraill.

"Mae'r cymorth rydw i'n ei dderbyn gan Wasanaethau Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog yn wych. Mae llwyth o gymorth ar gael erbyn hyn, cyn belled â’ch bod chi'n gwybod i ble i droi.

"Bu nifer o aelodau Valleys Veterans yn gwasanaethu yn Affganistan, Irac ac yn Ynysoedd Falkland. Mae'n sefydliad i gyn-filwyr o bob oed dderbyn cymorth wrth ddychwelyd gartref.

"Collais i 48 o ffrindiau mewn un digwyddiad yng ngwrthdaro'r Ynysoedd Falkland. Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint o effaith cafodd y diwrnod hynny arna i.

"Roedd dychwelyd gartref yn anodd iawn ac roeddwn i'n dioddef yn arw wedi'r profiadau erchyll. Dim ond 18 oeddwn i yn ymuno â'r Lluoedd Arfog a chyn imi droi rownd, roedd fy ffrindiau wedi'u lladd.

"Pan ddychwelais i gartref roeddwn i'n arfer mynd am dro a gweld dynion ifainc yn chwarae pêl-droed yn y parc lleol yn gwbl ddi-bryder. Roeddwn i'n gweld pawb arall yn mwynhau ond roeddwn i’n dal i deimlo fel fy mod i ar faes y gad. Parhaodd y teimlad hynny am amser hir."

Roedd Rhyfel Ynysoedd Falkland 1982 wedi para 10 wythnos, ac fe gollodd dros 900 o bobl eu bywydau. Bu farw 255 o bersonél Prydeinig, 3 o drigolion lleol, a 649 o filwyr o'r Ariannin yn y gwrthdaro.

Mae sefydliad Valley Veterans yn cael ei arwain gan gyn-filwyr yn Rhondda Cynon Taf, ac mae'r Cyngor yn falch iawn o'i gefnogi. Cafodd ei sefydlu dros 10 mlynedd yn ôl yn grŵp cymorth anffurfiol ar gyfer y sawl a oedd yn dioddef o Straen Wedi Trawma (PTSD). Erbyn hyn mae'r sefydliad yn hwb cymunedol bywiog sydd â mwy na 140 o aelodau. Maen nhw'n cynnal Clwb Brecwast Cyn-filwyr bob dydd Iau ac mae hyd at 60 o gyn-filwyr yn mynychu.

Mae Gwobrau GIG Pobl Aneurin Bevan yn cydnabod a dathlu gwaith yr holl arwyr di-glod sy'n cael effaith enfawr ar gymunedau ledled Cymru a dywedodd Mr Bromwell ei fod yn anrhydedd ac yn falch iawn o fod yn dderbynnydd.

Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, a chadarnhawyd yr ymrwymiad yma yn 2018.

Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddedig am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau  gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor: https://www.rctcbc.gov.uk/CyfamodLluoeddArfog

Derbyniodd yr Awdurdod Lleol Wobr Aur fawreddog y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2017 i gydnabod y cymorth y mae'n ei roi i gymuned y Lluoedd Arfog yn lleol.

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr Rhondda Cynon Taf ar gael i holl bersonél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd. E-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07747 485 619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am-5pm). 

Wedi ei bostio ar 25/05/22