Skip to main content

Contractwyr yn paratoi'r safle i adeiladu Cynllun Tai â Gofal Ychwanegol y Porth

An artist's impression of the Porth Extra Care scheme

Mae gwaith bellach wedi dechrau ar y safle i adeiladu cynllun gofal ychwanegol newydd â 60 gwely yn y Porth – wrth i gontractwr cyn-gychwyn y Cyngor a Linc Cymru (Linc) wneud cynnydd gyda'r gwaith rhagarweiniol cyn y prif gam adeiladu.

Bydd y cynllun newydd yn trawsnewid hen safle Cartref Gofal Dan y Mynydd yn ddatblygiad pedwar llawr o’r radd flaenaf gyda 60 o fflatiau gofal ychwanegol ac amwynderau – gan gynnwys ardal fwyta, salon trin gwallt, ystafell weithgareddau, canolfan ofal oriau dydd a swyddfeydd. Yn allanol, bydd 33 o leoedd parcio ynghyd â mannau i gadw beiciau a bygis, tra bydd y fynedfa bresennol i'r safle yn cael ei hail-lunio ychydig.

Doedd hen adeiladau'r cartref gofal ddim wedi cael eu defnyddio ers peth amser, a gyda chefnogaeth y Cabinet cafodd y safle ei glustnodi ar gyfer un o bum cynllun gofal ychwanegol newydd sy'n cael eu hadeiladu gan y Cyngor a Linc ar draws Rhondda Cynon Taf er mwyn moderneiddio llety a chynyddu'r opsiynau llety â gofal lleol ar gyfer pobl hŷn.

Mae cyfleusterau tai â gofal ychwanegol yn darparu llety modern â chymorth 24 awr ar gyfer pobl hŷn ag anghenion asesedig, gan roi'r modd iddyn nhw fyw mor annibynnol â phosibl.

Cwblhawyd y gwaith o ddymchwel yr hen gartref gofal yn hwyr yn 2021, a chynhaliodd Linc ymgynghoriad cymunedol i ganiatáu i’r cyhoedd gael dweud eu dweud cyn i gais cynllunio ar gyfer y prif ddatblygiad gael ei gyflwyno. Derbyniodd Linc ganiatâd cynllunio yn ystod mis Rhagfyr 2021.

Mae'r contractwr yn gwneud gwaith galluogi ar y safle ar hyn o bryd, i baratoi ar gyfer y brif raglen waith – y rhagwelir y bydd yn dechrau yn yr wythnosau nesaf. Mae'r rhaglen yn cael ei chwblhau, a bydd trigolion yn cael gwybod manylion pellach am weithgareddau ar y prif safle maes o law.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae datblygiad tai gofal ychwanegol y Porth yn brosiect cyffrous iawn sy’n edrych i adeiladu ar lwyddiant Maes-y-ffynnon a Chwrt yr Orsaf – ein dau gynllun tai â gofal ychwanegol newydd sbon cyntaf a adeiladwyd yn Aberaman a Phontypridd yn ddiweddar. Mae wedi bod yn wych gweld preswylwyr yn ymgartrefu yn eu cartrefi newydd, ac yn manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil gofal ychwanegol.

“Mae tai gofal ychwanegol yn darparu llety modern sy’n bodloni disgwyliadau newidiol y boblogaeth hŷn sy’n tyfu. Mae'n caniatáu i breswylwyr fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain, gyda chymorth bob awr o’r dydd ar gyfer eu hanghenion sydd wedi'u hasesu. Mae pob cynllun yn hyrwyddo ymdeimlad o gymuned yn yr adeilad, gan fanteisio ar y cyfleusterau gwych ar y safle, tra hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio ystyrlon yn y gymuned ehangach.

“Gyda’r prif gam adeiladu yn mynd rhagddo’n fuan yn y Porth, mae’r Cyngor yn parhau i gyflawni ei ymrwymiad i ddarparu 300 o welyau gofal ychwanegol ar draws y Fwrdeistref Sirol mewn buddsoddiad o £50 miliwn – sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Linc. Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad ehangach y Cyngor i foderneiddio ei lety sy'n addas i bobl hŷn yn y Fwrdeistref Sirol.

“Mae'n bosib bod y gymuned leol wedi sylwi ar weithgarwch contractwyr sydd wedi dechrau ar y safle yn ddiweddar. Mae'r gwaith yma'n cael ei wneud i baratoi'r ardal ar gyfer y prif gam adeiladu a fydd yn dechrau yn y dyfodol agos.”

Meddai Rheolwr Datblygu Linc, Richard Hallett: “Rydyn ni wrth ein boddau gyda sut mae gwaith ar hen safle cartref gofal Dan y Mynydd wedi datblygu yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddechrau ar y prif waith adeiladu cyn gynted ag y bydd y gwaith o baratoi’r tir wedi’i gwblhau. Mae rhaglen o waith adeiladu wedi'i drafftio a chyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.

“Mae ein partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dangos ei ymrwymiad i gynnig cartrefi sy’n diwallu anghenion pobl leol.” Bydd y 60 o fflatiau gofal ychwanegol o ansawdd uchel yn galluogi preswylwyr i fyw’n annibynnol, gan wybod bod cymorth wrth law os bydd ei angen arnyn nhw.”

Wedi ei bostio ar 31/05/2022