Skip to main content

Contractwr bellach wedi'i benodi i gyflawni cynllun deuoli'r A4119

The A4119 and the South Wales Fire and Rescue HQ

Mae’r Cyngor bellach wedi penodi contractwr i gyflawni cynllun deuoli’r A4119 o Goed-elái i Ynysmaerdy. Bydd y prif waith adeiladu yn dechrau ar y safle ddiwedd haf 2022.

Mae prosiect yr A4119 yn gynllun trafnidiaeth sylweddol i gysylltu ardaloedd yn well ac annog gweithgaredd economaidd i ddod i'r cymoedd. Bydd yn darparu ffordd ddeuol 1.5 cilomedr o hyd o gylchfan Coed-elái i Barc Busnes Llantrisant. Bydd pont teithio llesol newydd i'r de o gylchfan Coed-elái yn caniatáu i gerddwyr a beicwyr groesi'r ffordd o lwybr cymunedol newydd i'r pentref.

Cafodd ei gadarnhau ym mis Hydref 2021 fod y Cyngor wedi cael cyllid gwerth £11.4 miliwn oddi wrth Gronfa Ffyniant Bro llywodraeth y DU tuag at gyflawni’r cynllun. Bydd y dyraniad yma, ar ben cyllid y mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i gael, yn ariannu cam adeiladu'r cynllun pwysig yma.

Ar y safle mae Dŵr Cymru wedi dargyfeirio'r system garthffosiaeth yng Nghoed-elái. Hefyd, mae BT eisoes wedi cwblhau gwaith gwella'r seilwaith. Ers mis Ionawr 2022 mae'r Cyngor wedi bod yn torri coed ar y safle rhwng pencadlys y Gwasanaeth Tân a chylchfannau Coed-elái. Mae'r gwaith paratoi yma bellach wedi'i gwblhau.

Heddiw, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei fod wedi penodi cwmni Alun Griffiths (Contractors) Ltd i gyflawni'r gwaith adeiladu.

Yn ogystal â hyn, cafodd y Gorchymyn Prynu Gorfodol a’r Gorchymyn Cau eu cadarnhau ar 11 Mai. Dyma gamau olaf y broses prynu tir a oedd eu hangen i gyflawni’r cynllun. Mae hyn wedi sicrhau y bydd modd i gontractwr y Cyngor ddechrau gwaith ar y safle ddiwedd yr haf.

Cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle, bydd y Cyngor yn cynnal achlysur lleol i'r cyhoedd, trigolion a'r rheiny sy'n defnyddio'r ffordd i deithio i'r gwaith ac yn ôl. Bydd y Cyngor yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf a'r cynnydd hyd yma yn rhan o'r achlysur. Bydd y Cyngor yn ei hyrwyddo maes o law a bydd croeso i bawb.

Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae’r Cyngor wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth gyflawni cynllun deuoli’r A4119, a hynny drwy benodi contractwr ar gyfer y prif waith adeiladu. Mae'n dod yn sgil gwaith paratoi ar y safle yn ystod y misoedd diwethaf. Mae hyn yn cynnwys Dŵr Cymru yn dargyfeirio'r system garthffosiaeth a BT yn cynnal gwaith cyfleustodau. Yn fwyaf diweddar, mae'r Cyngor wedi cynnal gwaith yno ddechrau'r flwyddyn.

“Mae’r cynllun deuoli yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor, a hynny er mwyn cysylltu ardaloedd yn well yn rhanbarth Porth Cymoedd y Rhondda. Mae'r rhanbarth yma eisoes wedi’i nodi’n Ardal Cyfle Strategol gyda’r potensial ar gyfer twf economaidd. Bydd yn gwella llif y traffig yn yr ardal brysur yma, yn enwedig ar yr adegau pan mae unigolion yn teithio i'r gwaith ac yn ôl. Bydd cymuned Coed-elái hefyd yn elwa ar lwybr newydd i'r pentref i gerddwyr a beicwyr yn rhan o ddarpariaeth bwysig y fenter teithio llesol.

“Yn ogystal â hyn, yng Nghoed-elái, bydd gwaith deuoli’r A4119 yn helpu i gysylltu hen safle’r pwll glo yn well. Parc Coed-elái yw uned fusnes modern newydd y Cyngor sydd yno, sy'n rhan o safle ehangach sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw am benodi contractwr unwaith eto'n dangos ymrwymiad y Cyngor i gyflawni’r cynllun yma. Cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle ddiwedd yr haf, bydd swyddogion y Cyngor yn cynnal achlysur i'r cyhoedd a fydd yn croesawu’r gymuned i ddysgu rhagor am y rhaglen waith. Mae achlysuron tebyg mewn perthynas â’n prosiectau seilwaith mawr wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol. Mae'r achlysur yn rhoi cyfle i gyflwyno’r contractwr, rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â thrigolion ac iddyn nhw ofyn cwestiynau’n uniongyrchol i’r rheiny sy’n gwneud y gwaith.”

Wedi ei bostio ar 18/05/2022