Skip to main content

Sioe Ceir Clasur 2022

Classic Car Show 2022

Bydd Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn llawn bwrlwm y mis nesaf wrth i drefnwyr baratoi ar gyfer Sioe Ceir Clasur 2022.

Mae penwythnos Sul y Tadau yn addo bod yn brysur yn Nhaith Pyllau Glo Cymru.

Bydd y Sioe Ceir Clasur, a gynhelir ar y cyd â Chlwb Ceir Clasur Morgannwg. yn cyrraedd y lleoliad arobryn ddydd Sadwrn 18 Mehefin.

Ar yr un diwrnod hefyd bydd Craft of Hearts yn cynnal ffair grefftau o'i gartref yn Nhaith Pyllau Glo Cymru. Mae'r siop yma'n gyn-enillwyr gwobr siop grefftau ledled y DU.

Bydd modd prynu nwyddau wedi'u gwneud â llaw, yn ogystal â gweld arddangosiadau byw o waith celf a chrefft Crafts of Hearts.

Ar ôl treulio amser yn edmygu'r ceir clasur a mwynhau'r ffair grefftau, beth am ymuno â ni ar gyfer Taith yr Aur Du? Dewch i gwrdd â’r dynion oedd yn lowyr. Byddan nhw'n eich tywys ar daith dan ddaear ac yn ôl mewn amser.

Ar ôl cael eich helmed glöwr, cewch gerdded o gwmpas safle hen lofa Lewis Merthyr, reidio DRAM i ben yr wyneb a chymryd rhan yn yr arddangosiadau rhyngweithiol. Yma, byddwch chi'n dysgu sut roedden ni’n arfer byw, gweithio, gwisgo ac ymlacio yng Nghwm Rhondda yn ystod cyfnod llewyrchus y pyllau glo.

Cewch ddysgu rhagor yn yr arddangosfa rad ac am ddim cyn mynd i Gaffi Bracchi am bryd o fwyd blasus neu damaid i aros pryd. Rhaid i chi flasu’r cacennau a'r coffi!

Bydd y Sioe Ceir Clasur yn cael ei chynnal rhwng 10am a 4.30pm. Mae'n costio £2 ac mae mynediad am ddim i blant dan 5 oed. 

Prynwch eich tocynnau ar gyfer y Sioe Ceir Clasur yma

Cadwch le ar daith dan ddaear yma

Wedi ei bostio ar 26/05/22