Skip to main content

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2022

Armed Forces Day 2018-99rrr

Rydyn ni'n gwahodd cymunedau Rhondda Cynon Taf i achlysur sy'n nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2022. 

Bydd yr achlysur sy'n nodi a choffáu pwysigrwydd cymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf yn dechrau gyda gorymdaith o amgylch Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, a seremoni codi'r faner am 11am ddydd Sadwrn 18 Mehefin. 

Mae croeso i bawb ymuno i wylio’r orymdaith a’r seremoni a mwynhau atyniadau i'r teulu cyfan. Mae'r rhain yn cynnwys wal ddringo, profiad ogof symudol, ffair fach, sŵ bach ac adloniant gan y DB Big Band. 

Mae mynediad am ddim ac mae’r dathlu'n parhau tan 4pm, felly mae digon o amser i gymryd rhan a dangos eich cefnogaeth! 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ddiwrnod pwysig iawn i Rondda Cynon Taf ac rydyn ni’n falch o’n hymrwymiad i gymuned ein lluoedd arfog, boed y bobl hynny'n gwasanaethu neu wedi ymddeol. 

“Mae’r achlysur yma'n gyfle i ni ddangos y gefnogaeth honno, ei dathlu a dod â chynifer o’n cymunedau ynghyd ag sy'n bosibl i wneud yr un peth hefyd. Mae’n achlysur ffurfiol sydd hefyd â gweithgareddau i’r teulu cyfan fel bod cyfle i bawb ddysgu rhagor am y pwnc dan sylw.” 

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog 2022 wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd. 

Roedd cwmni Nathaniel Cars yn awyddus i gymryd rhan a dangos ei gefnogaeth i’n cymunedau ac mae wedi noddi holl achlysuron 'Be' Sy Mlaen' RhCT yn 2022. Rhagor o wybodaeth yma 

Os hoffech chi noddi un neu fwy o achlysuron 'Be' Sy Mlaen' 2022, mae modd dysgu rhagor a chysylltu â ni yma. 

Union 10 mlynedd yn ôl eleni, Rhondda Cynon Taf oedd un o’r Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog. Dyma gytundeb ar y cyd rhwng y Fwrdeistref Sirol a’i chymuned Lluoedd Arfog, boed y bobl hynny'n gwasanaethu neu wedi ymddeol. 

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn nodi ystod o wahanol gymorth sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys cymorth i deuluoedd unigolion sy'n gwasanaethu, cymorth â materion cyllid, cyflogaeth a thai, Cronfa Grant y Cyfamod a’r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr. Mae modd dysgu rhagor yma www.rctcbc.gov.uk/lluoedd arfog.

Wedi ei bostio ar 17/06/22