Skip to main content

Eich gwastraff chi, eich cyfrifoldeb chi!

Yn gynt y mis yma daliwyd menyw yn atebol am fethu â chael gwared ar ei gwastraff mewn ffordd gyfrifol. Arweiniodd hyn at ddirwy o dros £650.

Dyma atgoffa trigolion fod dyletswydd gofal arnyn nhw i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol, ac i sicrhau bod eitemau'n cael eu gwaredu'n gywir. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn, efallai bydd y gost yn fwy na theithio ychydig filltiroedd ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned agosaf!

Talodd y fenyw yma rywun i gael gwared ar 25 bag yn llawn gwastraff a daethpwyd o hyd i'r bagiau yma ar Heol Burma yn y Porth.

Cafodd y bagiau du eu gadael wedi'u gwasgaru yng nghefn gwlad. Roedden nhw'n cynnwys gwybodaeth a arweiniodd at olrhain y troseddwr a'i ddal! Y rhan waethaf yw bod y bagiau wedi'u gadael hanner milltir o Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas.

Dyma ddisgrifiad o dipio'n anghyfreithlon yn Adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990: “Anyone who produces, imports, keeps, stores, transports, treats or disposes of waste must take all reasonable steps to ensure that waste is managed properly”. Bydd unrhyw un sy'n methu â glynu at y ddeddf yma'n wynebu dirwy fawr!

Fydd achosion o dipio'n anghyfreithlon, taflu sbwriel neu beidio â chodi baw cŵn mewn man cyhoeddus ddim yn cael eu goddef yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r achos diweddaraf yn dangos y bydd y Cyngor yn defnyddio pob un o'i bwerau i ddal unigolion sy'n gyfrifol am ddifetha ei drefi a'i ardaloedd gwledig.

Yn ogystal â chynnal gwiriadau rheolaidd ledled y Fwrdeistref Sirol ac ymateb i bryderon sy'n dod i law, mae gan y Cyngor nifer o gamerâu cudd, symudol sy'n cael eu gosod mewn lleoliadau ble mae achosion o dipio'n anghyfreithlon.

Mae gan y Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol, sy'n casglu sbwriel sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Fyddwn ni ddim yn goddef tipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.

"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion.

"Mae cael gwared ar dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y byddai modd eu gwario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.

“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn i gyfrif y rheini sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu waredu yn y Canolfannau Ailgylchu  yn y Gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd – heb unrhyw gost ychwanegol."

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 25/03/2022