Skip to main content

Cydweithio i amddiffyn ein cefn gwlad a'n Bwrdeistref Sirol

999_Facebook Dawnsglaw
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf unwaith eto'n cefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn rhan o Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu a sefydlwyd i leihau nifer y tanau glaswellt.

Bwriad Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu amlasiantaethol o arbenigwyr asiantaethau allweddol ledled Cymru, yw lleihau, a lle bo modd, dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn 2016 yn wreiddiol i fynd i'r afael â digwyddiadau o danau glaswellt bwriadol ledled Cymru, hefyd yn troi ei sylw at y cynnydd yn nifer y tanau damweiniol. Achosir y rhain yn aml o ganlyniad i ymddygiad diofal pobl wrth iddyn nhw fwynhau yng nghefn gwlad Cymru.

Yn ystod 2021, deliodd Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru â 2,089 o danau glaswellt. Er bod hyn yn ostyngiad bach o'i gymharu â 2020, roedd cynnydd o 24% yn nifer y tanau damweiniol yn 2021.

Bob blwyddyn, mae tanau'n gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt. Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a'i gymunedau i adeiladu cefn gwlad gwydn ac iachach, ac i ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer y dyfodol.

Mae gweithio gyda’n cymunedau a rhannu gwybodaeth yn gwella dealltwriaeth o’r hyn mae modd i ni i gyd ei wneud i gyfyngu ar y difrod y mae tanau damweiniol yn ei achosi i’n hamgylchedd.

Meddai Peter Greenslade, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw: “Rydym yn lansio ein hymgyrch eto eleni, a hynny gyda phle gwladgarol ein bod i gyd yn parhau i gydweithio i adeiladu tirwedd Gymreig iachach a mwy gwydn trwy ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol.

“Rydym am barhau i amddiffyn ein tirweddau, ein glaswelltir a’n cefn gwlad y mae pob un ohonom mor ffodus eu bod gennym ar garreg ein drws. Rydym am weithio gyda’n cymunedau, ein ffermwyr a’n tirfeddianwyr i rannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r effaith y mae tanau bwriadol a thanau damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau.  

“Rydym yn deall y gall llosgi rheoledig gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy, ac rydym ar gael i roi cyngor am ddim ar sut i fynd ati i wneud hyn yn ddiogel.

“Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu ein neges: er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai yn ein cymunedau sy’n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â throseddau o’r fath i ffonio 101, neu i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”

Dysgwch ragor am Ymgyrch Dawns Glaw 2022

Os ydych chi'n mwynhau cefn gwlad a golygfeydd prydferth Rhondda Cynon Taf ac yn dod ar draws unrhyw weithgaredd amheus, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.

Gyda'n gilydd gallwn ni i gyd helpu i atal tanau glaswellt ac amddiffyn ein cefn gwlad a'n Bwrdeistref Sirol.

Wedi ei bostio ar 12/07/22