Skip to main content

Ailgylchwch Wastraff Gwyrdd y Gwanwyn yma

Torrwch wair y Gwanwyn yma ond cofiwch fod bag newydd i'ch helpu chi!

Ar ôl gaeaf oer a gwlyb, mae'n bosibl bod trigolion Rhondda Cynon Taf yn gobeithio cael bach o heulwen i helpu eu gerddi i flodeuo.

Bydd llawer o drigolion yn dechrau mynd i'w gerddi am y tro cyntaf ers misoedd a rhoi bach o sylw iddyn nhw – ond beth fyddwch chi'n ei wneud â thoriadau'r llwyni, toriadau'r lawnt a'r darnau o blanhigion?

Adolygwyd y cynllun ailgylchu gwastraff gwyrdd y llynedd yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i ymladd y newid yn yr hinsawdd ac i ailgylchu. Bydd cyflwyno sachau gwyrdd cynaliadwy ac ailddefnyddiadwy newydd yn golygu bod y Cyngor yn defnyddio tua 3 miliwn yn llai o fagiau plastig bob blwyddyn.  

Mae'r Cyngor yn atgoffa ei drigolion y bydd y garfan Gofal y Strydoedd yn dechrau casglu eu holl wastraff gwyrdd o ymyl y ffordd yn wythnosol. Bydd hyn yn rhan o'i gasgliad ailgylchu wythnosol yr haf, o ddydd Llun 28 Mawrth ymlaen.

Mae bellach modd i drigolion ailgylchu'r holl wastraff o'u gerddi, gan gynnwys toriadau, llwyni, blodau a brigau. Y cyfan y mae angen i drigolion ei wneud yw rhoi'r gwastraff gwyrdd yn y bagiau gwyrdd, aml-ddefnydd a'u gadael nhw wrth ochr y ffordd ar eu diwrnod casglu arferol.

Mae dros 36,000 o gartrefi eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ac mae bron i 76,000 o sachau wedi’u dosbarthu. Amcangyfrifir bod bron i 85% o drigolion RhCT sy'n ailgylchu gwastraff gwyrdd bellach wedi cofrestru ac yn barod am eu casgliadau wythnosol ar gyfer y Gwanwyn. Fydd bagiau ailgylchu clir DDIM yn cael eu casglu, a rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer y cynllun.

Os dydych chi ddim wedi cofrestru eto, mae amser o hyd ac mae modd i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth AM DDIM, yn gyflym ac yn hawdd ar-lein yn www.rctcbc.gov.uk/BagNewyddSbon. Os nad oes modd i chi ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, mae modd i chi ffonio 01443 425001 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd trigolion wedyn yn cael eu DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'u gwastraff gwyrdd.

Mae bagiau ychwanegol ar gael ond byddan nhw'n costio £3 yr un. Mae'r tâl yma am y sach yn unig. Mae pob sach yn cyfateb o ran maint i ddau fag ailgylchu clir a hanner.

Cyn i'r sachau newydd gael eu cyflwyno, roedd y Cyngor yn casglu tua 8,200 tunnell o wastraff gwyrdd gan drigolion yn flynyddol ar gyfartaledd – mae hyn yn cyfateb i 2,739,000 o fagiau ailgylchu llawn!

Peidiwch â rhoi pridd yn eich gwastraff gwyrdd oherwydd nad oes modd i ni ei ailgylchu yn rhan o'n cynllun casglu gwastraff gwyrdd wrth ochr y ffordd ar hyn o bryd.

Bydd modd defnyddio'r sachau ar gyfer gwastraff gwyrdd megis glaswellt, tocion, brigau bach wedi'u torri i faint addas a gwastraff anifeiliaid bach sy'n bwyta llysiau yn unig. FYDD y Cyngor DDIM yn casglu rwbel, tywarch (blociau mwd) neu bren yn rhan o'r casgliad yma. Dylai gwastraff anifeiliaid gynnwys blawd llif / gwair yn unig ac nid gwastraff anifeiliaid arall fel baw cŵn a chathod. RHAID PEIDIO â gorlenwi'r sachau.

Mae modd mynd â gwastraff gwyrdd/o'r ardd i un o'r nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, ond RHAID iddo BEIDIO â bod mewn bag ailgylchu clir. Bydd rhaid, yn hytrach, ei arllwys yn rhydd i mewn i'r cynhwysydd sydd ar gael. Mae pob Canolfan Ailgylchu bellach yn gweithredu yn ôl oriau agor y gaeaf – 8am tan 5.30pm.

Mae trigolion yn cael eu hatgoffa i labelu eu sachau'n glir a bod pob sach wedi'i chofrestru i eiddo unigol ac y bydd y Cyngor ond yn casglu nifer y sachau sydd wedi'u cofrestru i eiddo. Bydd criwiau yn gwneud pob ymdrech i ddychwelyd y sachau i eiddo mor ddiogel â phosibl.  

Meddai Steve Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Gofal y Strydoedd:

“Hoffwn ddiolch i drigolion am ymuno â’r cynllun ac ymuno â ni yn ein brwydr yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd. Bydd y newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor ac yn dod â ni yn nes at ein nod o ailgylchu 80% o'r holl wastraff sy'n dod o'n cartrefi erbyn 2024/25.

“Mae rhagor o drigolion yn manteisio ar ein gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu wythnosol wrth ochr y ffordd. Mae'n wych bod cynifer o'n trigolion ni'n frwdfrydig ynglŷn â'n hamgylchedd.

“Rwy’n annog ein holl drigolion nad ydyn nhw'n ailgylchu ar hyn o bryd i newid eu harferion ac ymuno â’u cymdogion a ffrindiau trwy ymdrechu i ailgylchu gwastraff o'r ardd hefyd.”

"Mae'r newidiadau bychain rydyn ni'n eu rhoi ar waith yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn lleol ac yn fyd-eang.

Mae'r gwasanaeth gwell newydd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf y tu mewn i gerbydau i wella llwybrau casglu a galluogi gwasanaeth awtomataidd a lleihau ôl-troed carbon y carfanau trwy deithio dim ond pan mae'n rhaid."

Nodwch: Does dim modd i'r Cyngor gasglu celfi patio na siediau sy'n hen neu sydd wedi'u difrodi. Serch hynny, mae modd mynd â'r rhain, ynghyd â gwastraff arall o'r ardd gan gynnwys pridd, i un o'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Bydd y canolfannau ar agor rhwng 8am a 7.30pm (oriau agor tymor y gwanwyn/yr haf) o ddydd Llun 28 Mawrth. Ar hyn o bryd, maen nhw ar agor rhwng 8am a 5.30pm (oriau agor tymor y gaeaf) tan y dyddiad uchod.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/BagNewyddSbon, e-bostiwch ailgylchu@rhondda-cynon-taf.gov.uk, ffoniwch 01443 425001 neu ddilyn cyfrifon y Cyngor ar Facebook/Twitter. 

Wedi ei bostio ar 25/03/22