Skip to main content

Canaitâd cynllunio i ddatblygu ysgolion yn y Beddau a Rhydfelen

Planning approval is received for school developments in Beddau and Rhydyfelin

Mae'r Cyngor wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau yn y Beddau a Rhydfelen i ddarparu cyfleusterau newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £60 miliwn ar draws Ardal Ehangach Pontypridd.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau, 24 Mawrth, cytunodd aelodau i gymeradwyo'r ddau brosiect i ddarparu cyfleusterau chweched dosbarth a champfa newydd yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog yn y Beddau, ac Ysgol Gynradd Gymraeg newydd ar safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn Rhydfelen. Ystyriwyd y ddau adroddiad ddydd Iau ac mae'r pwyllgor wedi argymell bod swyddogion yn rhoi caniatâd cynllunio.

Bydd y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gyflawni'r prosiectau yma trwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (gynt Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain). Mae modd i drigolion ddod o hyd i ragor o wybodaeth a mynegi eu barn am y prosiectau yn rhan o ymgynghoriadau y Cyngor yn ystod yr hydref 2022.

Bydd pob datblygiad yn brosiect Carbon Sero-Net ac yn cydymffurfio ag ymrwymiadau y Cyngor mewn perthynas â Newid Hinsawdd.

Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Beddau

Mae caniatâd cynllunio'r Cyngor yn cynnwys adeiladu campfa newydd, bloc newydd i'r chweched dosbarth, cae chwarae newydd, dymchwel pedwar adeilad presennol, maes parcio newydd a gwaith cysylltiedig ar draws y safle, gan gynnwys tirlunio. Bydd y gwaith yn digwydd yn ystod 2023.

Bydd bloc y chweched dosbarth yn adeilad tri llawr ac yn agos at ffin ddwyreiniol y safle, wrth ochr y cae chwarae presennol. Bydd y bloc yn cynnwys ystafelloedd addysgu pwrpasol, gofodau cymdeithasol a darpariaeth ar gyfer arlwyo a storfeydd. Bydd y safle gyfagos ar Heol Penycoedcae (yn arwain at y trac athletau) yn cael ei ddiweddaru a bydd 23 o leoeydd parcio ac ardal cadw beiciau yn cael eu creu yno.

Bydd campfa dau lawr yn cael ei hadeiladu yng nghanol y safle presennol, ble mae'r cyrtiau tenis ar hyn o bryd. Bydd y llawr gwaelod yn cynnwys neuadd, ystafelloedd newid a storfeydd. Bydd yr ail lawr yn cynnwys campfa a stiwdio.

Bydd y datblygiad ehangach yn cynnwys tirlunio'r ardal tu ôl i'r adeilad rhestredig, lle bydd adeilad modern sydd eisoes yno yn cael ei ddymchwel i ddarparu ardal i ddisgyblion, sy'n cynnwys glaswelltir planhigion a choed. Bydd adeilad yn cael ei ddymchwel er mwyn ehangu'r maes parcio sydd yn y de, a bydd mynedfa arall i'r maes parcio o Heol Castellau fel bod system un ffordd o amgylch y maes parcio. Bydd y maes parcio yn nwyrain y safle hefyd yn cael ei ad-drefnu.

Wrth argymell y cais i gael ei gymeradwyo, nododd adroddiad y swyddog y byddai'r datblygiad yn darparu cyfleuster cyfoes ac addas i'r chweched dosbarth a chyfleusterau campfa/chwaraeon fydd yn fuddiol i holl ddisgyblion yr ysgol. Nododd yr adroddiad y byddai cynnal gwaith tirlunio a thynnu hen strwythurau yn fuddiol i amgylchedd y safle, a byddai adoygu'r trefniadau parcio a bysiau yn gwella llif traffig yn lleol ac ar y safle.

Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen

Mae caniatâd cynllunio y Cyngor yn cynnwys ailddatblygiad llwyr o safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn er mwyn adeiladu ysgol newydd. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon, maes parcio,  a bydd gofyn am waith tirlunio a gwaith cysylltiedig. Bydd yr ysgol yn agor yn 2024 ac yn croesawu disgyblion cyfrwng Cymraeg Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn ogystal â disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton.

Bydd yr adeilad newydd ar ochr orllewinol y safle a bydd yr ysgol bresennol yn cael ei dymchwel. Bydd 16 ystafell ddosbarth a dau lawr (chwech ystafell ar bob llawr). Bydd y datblygiad yn cynnwys ystafelloedd aml-ddefnydd, gofodau cymdeithasol, swyddfeydd, toiledau, ystafelloedd newid, coridor, cegin a storfeydd. Bydd celloedd ffotofoltäig ar do yr ysgol er mwyn menteisio ar ynni solar.

Bydd ardaloedd eraill safle yr ysgol newydd yn cael eu hailddatblygu i ddarparu mynediad cylchol a pharcio. Bydd 41 o fannau parcio a lle i chwe bws ar y safle. Bydd mynediad i'r safle o'r ffin gogledd-ddwyreiniol (yn uniongyrchol o Stryd y Celyn) a bydd ramp yn arwain at fynedfa'r ysgol. Bydd gweddill y safle yn cynnwys cae pêl-droed bach ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd, a bydd gwaith tirlunio yn darparu systemau draenio cynaliadwy a gwelliannau cynefin.

Wrth argymell y cais yma i'w gymeradwyo, nododd adroddiad y swyddog bod y datblygiad yn cydymffurio'n llawn â pholisi cynllunio.

Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: "Mae penderfyniad y pwyllgor i roi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiadau yma yn y Beddau a Rhydfelen yn nodi carreg filltir bwysig o ran darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i'n disgyblion ni. Mae'r datblygiadau yma'n rhan o fuddsoddiad gwerth £60 miliwn ar draws Ardal Ehangach Pontypridd, sydd hefyd yn cynnwys buddsoddiadau helaeth ar gyfer ysgolion yn y Ddraenen-wen a Chilfynydd.

"Bydd y prosiect yn Ysgol Heol y Celyn yn darparu amgylchedd dysgu symbyliol mewn adeilad newydd sbon. Bydd y datblygiad yn  gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac yn cydymffurfio â'r deilliannau sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor. Bydd datblygiad Ysgol Bryncelynnog yn hwb rhagorol i'r chweched dosbarth a bydd y cyfleusterau chwaraeon newydd o fudd i'r ysgol gyfan. Roeddwn i'n falch iawn o gael ymweld â'r ysgol yr wythnos yma a chael cipolwg ar y cynlluniau cyffrous gyda'r pennaeth.

"Mae swyddogion wedi canolbwyntio ar faterion allweddol mewn perthynas â ddiogelwch ar y ffordd a threfniadau codi a chasglu disgyblion o'r ysgol yn y ddau gynllun. Mae'r materion yma wedi'u hamlinellu yn y cynlluniau trafnidiaeth sydd hefyd wedi'u hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau.

"Mae prosiectau Ardal Ehangach Pontypridd yn rhan o fuddsoddiad ehangach parhaus gan Lywodraeth Cymru trwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Es i i safle'r gwaith yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yng Nghwmdâr hefyd yr wythnos yma er mwyn gweld y cynnydd yn y gwaith tuag at ddarparu cyfleusterau newydd yn 2022. Bydd y prosiect yma, ynghyd â phrosiect ar wahân yn Ysgol Rhydywaun ym Mhen-y-waun yn ateb y galw am ragor o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn lleol.

"Derbyniodd y Cyngor ganiatâd cynllunio yn gynharach y mis yma ar gyfer prosiectau y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref. Mae prosiectau eraill ar waith yn defnyddio cyllid ychwanegol gwerth £85 miliwn a gyhoeddwyd yn Hydref 2021, gan gynnwys cynigion gwerth £9 miliwn ar gyfer cymuned Glyn-coch. Mae'r prosiectau yma'n golygu bod buddsoddiadau gwerth £252 miliwn yn digwydd mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau cyffrous yma yn y Beddau a Rhydfelen yn datblygu dros yr wythnosau a misoedd nesaf, ac at weld y gwaith yn dechrau ar y safleoedd."

Wedi ei bostio ar 25/03/22