Skip to main content

Achlysuron yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf yn 2022

Whats On RCT Events Calendar A5 FLYER - WELSH

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi bod achlysuron yn dychwelyd i'n parciau, canol trefi ac atyniadau i dwristiaid yn 2022. 

Yn ogystal â'n hen ffefrynnau megis Gŵyl Cegaid o Fwyd Cymru, Rasys Nos Galan ac Ogof Teganau Siôn Corn, bydd tri achlysur newydd yn digwydd eleni. Un o'r achlysuron hynny fydd rhoi Rhyddid y Fwrdeistref i bob un o weithwyr allweddol RhCT am eu gwaith caled ac ymroddiad trwy bandemig COVID-19.

Bydd Gŵyl Aberdâr yn digwydd dros benwythnos gŵyl y banc ym mis Mehefin yn hytrach na mis Mai er mwyn dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu aelodau'r cyhoedd i fwynhau achlysuron ledled y Fwrdeistref Sirol wedi dwy flynedd o gyfyngiadau.

"2019 oedd y tro diwethaf inni gael calendr llawn ac mae'n wych cael trefnu'r hen ffefrynnau unwaith eto. Bydd modd dathlu'r Pasg yn Nhaith Pyllau Glo Cymru a chroesawu'r Flwyddyn Newydd yn Rasys Nos Galan. Mae llawer i edrych ymlaen ato eleni! 

"Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn i bob un o'n gweithwyr allweddol a weithiodd yn ddiflino trwy gydol pandemig Covid-19 ac yn edrych ymlaen at eu hanrhydeddu nhw â Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol. Bydd tri achlysur gwahanol yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Chwm Taf.

Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth bellach am yr achlysuron yma ar ein cyfryngau cymdeithasol yn y man.  Dilynwch @whatsonrct ar Facebook, Twitter ac Instagram i weld y newyddion diweddaraf
Wedi ei bostio ar 25/03/22