Skip to main content

Wyau Pasg yn dychwelyd i Brofiad Glofaol Cymru

easter

Bydd yr ŵyl boblogaidd yn ei hôl ddydd Gwener y Groglith 15 Ebrill a dydd Sadwrn 16 Ebrill. Bydd yr achlysur yn cynnwys Helfa Wyau Pasg traddodiadol A HEFYD Antur Tanddaearol newydd y Bwni Pasg!

Yn ystod deuddydd yr ŵyl, bydd gweithgareddau megis Helfa Wyau Pasg a chelf a chrefftau. Y gost yw £3 y plentyn, ac mae am ddim i oedolion. Bydd ffair fach yno hefyd ac fe fydd y reidiau am ddim gyda'r tocyn mynediad.

Dyma alw ar yr holl helwyr wyau i ddod i grwydro drwy un o atyniadau mwyaf poblogaidd Rhondda Cynon Taf. Chwiliwch am yr wyau mawr, ac wrth gwrs bydd wy siocled i chi ar y diwedd.

Eleni, rydyn ni wedi ychwanegu atyniad cyffrous, sef Antur Tanddaearol y Bwni Pasg. Gwisgwch eich clustiau bwni ac ewch i lawr i'w gartref i weld beth mae e wedi bod yn ei wneud.   Brysiwch bwnis bach! Bydd y tocynnau, sy'n costio £3, yn siŵr o werthu'n gyflym.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a'r Gwasanaethau Treftadaeth: Gwych yw gweld achlysuron yn dychwelyd i atyiad Taith Pyllau Glo Cymru, gan ddod â'n cymunedau ynghyd a chynnig diwrnod allan bendigedig ar adeg bwysig y flwyddyn.

"Ac yntau'n un o brif atyniadau Rhondda Cynon Taf, mae achlysuron fel Ŵy-a-sbri y Pasg yn Nhaith Pyllau Glo Cymru yn helpu i atynnu math newydd o ymwelwyr. Rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n dychwelyd i fwynhau'r holl atyniadau eraill sydd ar gael yma drwy gydol y flwyddyn fel Teithiau Tywys Tanddaearol yr Aur Du, profiad rhithwir DRAM!, arddangosfeydd a theithiau rhyngweithiol, Caffi Bracchi, Crafts of Hearts a mwy!"

Rydyn ni'n falch iawn hefyd i groesawu'n noddwyr ni, Nathaniel Cars. 

Bydd ein hachlysur Ŵy-a-sbri y Pasg yn Nhaith Pyllau Glo Cymru ar agor o 10am tan 5pm ddydd Gwener 16, a dydd Sadwrn 17 Ebrill.  Sul y Pasg - AR GAU 
Bydd Taith Pyllau Glo Cymru ar agor ddydd Llun y Pasg, sef Gŵyl y Banc, ar gyfer Teithiau Tanddaearol yr Aur Du. 

Gobeithio cewch chi amser Pasg-tastig yn Nhaith Pyllau Glo Cymru!

Nodwch:

Fydd Taith Tywys Tanddaearol yr Aur Du ddim ar gael trwy gydol achlysur Ŵy-a-sbri y Pasg.

Mae'r helfa Wyau Pasg ac Antur Tanddaearol y Bwni Pasg ill dau'n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.  Dydy hi ddim yn bosibl mynd â phraimau dan ddaear gan nad oes digon o le.

Wedi ei bostio ar 23/03/2022