Skip to main content

Datganiad Arweinydd y Cyngor ar yr Argyfwng Costau Byw

Roeddwn i wedi fy siomi â'r mesurau cyhoeddodd y Canghellor yn ei ddatganiad yr wythnos yma. Dydw i ddim yn credu ei fod yn gwneud digon i gefnogi teuluoedd ac aelwydydd yn ystod y cyfnodau anos yma ac mae'r sefyllfa'n debygol o waethygu cyn iddo wella.

Dydy'r Canghellor, yn fy marn i, ddim yn deall difrifoldeb y sefyllfa i deuluoedd ac aelwydydd cyffredin, megis y rheini sy'n byw ledled Rhondda Cynon Taf.

Yn sgil y datganiad mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymchwilio i sut mae modd iddo gefnogi ei drigolion trwy ddefnyddio pwerau disgresiwn a chyllid gan Lywodraeth Cymru ac rwy'n cyhoeddi cyfres o fesurau i ddarparu cymorth pellach i drigolion y Fwrdeistref Sirol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd pob aelwyd sydd ym mandiau A-D Treth y Cyngor a'r rhieni sy'n rhan o Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor yn derbyn £150 tuag at gostau byw. Bydd 92,884 o aelwydydd yn manteisio ar y mesur yma a fydd yn costio £13,932,600 i'r Llywodraeth. Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn darparu:

  • Taliad £100 tuag at gostau byw i aelwydydd sydd ym mandiau E-F Treth y Cyngor. Bydd 9,749 o aelwydydd pellach yn manteisio ar y mesur yma a fydd yn costio £974,900 i'r Cyngor.
  • Taliad £150 tuag at gostau byw i aelwydydd sydd wedi'u heithrio rhag talu Treth y Cyngor ac sy'n gartref i bobl sydd wedi gadael gofal, pobl sydd â salwch meddyliol difrifol a phobl sy'n derbyn/rhoi cymorth.
  • Bydd y Cyngor hefyd yn darparu £50 ychwanegol tuag at gostau byw i deuluoedd sydd â phlant rhwng 4 ac 16 oed. Bydd 22,700 o gartrefi yn manteisio ar y mesur yma.
  • Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i wneud taliadau i'r teuluoedd hynny sy'n derbyn prydau ysgol am ddim trwy gydol gwyliau'r ysgol hyd at ddechrau mis Medi. O fis Medi ymlaen bydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno prydau ysgol am ddim i BOB disgybl cynradd.
  • Mae Cyngor RhCT yn deall bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar sawl teulu a bod rhagor o deuluoedd yn gorfod dibynnu ar fanciau bwyd. Bydd y Cyngor yn rhoi taliad £50,000 i'r banciau bwyd er mwyn sicrhau bod modd iddyn nhw barhau â'u gwaith hollbwysig.

Bydd rhagor o fanylion am y cynlluniau yma ar gael dros yr wythnosau nesaf.

Rwy'n gobeithio bod y mesurau pellach yma'n fuddiol i unigolion a theuluoedd yn ein cymunedau ni. Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi trigolion a lleddfu sgil effeithiau'r argyfwng costau byw hyd eithaf ei allu.

Councillor Andrew Morgan, Leader of Rhondda Cynon Taf Council

Wedi ei bostio ar 25/03/2022