Skip to main content

Pedwar Prosiect yn cael budd o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Mae'n bleser gan Rondda Cynon Taf gyhoeddi bod pedwar prosiect treftadaeth sy'n caniatáu i ni ddiogelu, dathlu ac ymgysylltu â threftadaeth gyfoethog ein hardal ni, yn mynd i elwa o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

Yn ddiweddar, dechreuodd y prosiect Altered Images ar raglen weithgarwch dair blynedd, gyda'r nod o gysylltu'n cymunedau gyda'u treftadaeth a'u hanes lleol. Diben y prosiect yw dysgu sut mae’r ffordd rydyn ni’n ystyried y gorffennol newid â threigl amser, a sut mae deall y gorffennol yn herio ein rhagdybiaethau ynglŷn ag o ble rydyn ni'n dod a sut ddatblygodd ein cymunedau.

Mae'r prosiect yn gweithio gyda phobl o bob oed a gallu i gofnodi ac ymchwilio i hanes cofebion a chofadeiladau yn ein hardal. Mae'r prosiect hefyd yn gweithio i gasglu straeon ac atgofion o’n cymunedau i'w rhoi ar gof a chadw mewn archif ddigidol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r prosiect wedi cael modd i fyw diolch i £250,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae gwelliannau mawr yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd yn Mharc Coffa Ynysangharad ers i gais ar gyfer ail rownd y rhaglen Parciau i Bobl gael ei gymeradwyo. Mae cyfanswm cyfunol gwerth £1.9 miliwn wedi'i ddyfarnu i'r prosiect, sy'n cynnwys cyllid Parciau i Bobl gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniadau ychwanegol gan y Cyngor.

Bydd y prosiect yn adfywio tirnodau treftadaeth y parc, sy'n barc rhestredig Gradd II, er mwyn denu rhagor o ymwelwyr a darparu cyfleoedd y mae dirfawr eu hangen yn y gymuned o ran dysgu, ymgysylltu a chyfrannu. Mae'r gwaith yn cynnwys:

  • Canolfan hyfforddi/gweithgareddau newydd o'r enw Canolfan Calon Taf
  • Adnewyddu ardal safle'r seindorf.
  • Adnewyddu ardal yr ardd isel.
  • Gosod arwyddion a byrddau gwybodaeth.
  • Cynllun gweithgarwch i annog cyfranogiad y gymuned yn ystod y gwaith ac ar ôl i'r gwaith ddod i ben.

Bydd y prosiect yn gweddu'n dda â'r Lido hynod a ail agorodd yn 2015, prosiect arall a gafodd ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dyfarnodd yr Awdurdod Lleol £51,760 i gefnogi prosiect Arwyr Gorffennol a Phresennol y Byd Chwaraeon, ac mae'r prosiect hwnnw bron â dirwyn i ben. Dyma brosiect sy'n coffáu arwyr lleol y byd chwaraeon o’r gorffennol hyd heddiw – a hynny drwy osod byrddau gwybodaeth mewn ystafelloedd newid ledled yr ALl. Cafodd yr arwyr eu dewis trwy ddefnyddio proses enwebu ar-lein. Ymchwiliwyd i bob un o'r enwebiadau, a chafodd bob un ei gofnodi. Roedd modd i'r cyhoedd gael yr wybodaeth drwy god QR.

 

Derbyniodd prosiect Lleisiau Olaf Cwm Rhondda, sef prosiect dan arweiniad Vision Fountain, £31,500 mewn cydweithrediad â'r Oral History Society, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r prosiect yn cyfuno hanesion llafar cyn lowyr â phortreadau 3D, ac mae plant ysgolion lleol wedi bod yn rhan o'r broses hefyd. Mae'r prosiect yn defnyddio technoleg y byd gemau fideo i dynnu sylw disgyblion at dreftadaeth a'r celfyddydau. Trwy weithio â chymunedau BAME ym Mae Caerdydd, nod y prosiect oedd ymchwilio i gysylltiadau hanesyddol rhwng y 'pwll a'r porthladd' a chymunedau Bae Teigr a Chymoedd y Rhondda. Gwrandawodd blant yn y ddwy gymuned ar hanesion llafar y glowyr lleol am ysbrydoliaeth a defnyddion nhw dechnoleg 3D i greu portreadau deniadol drwy gyfryngau cymysg. Uchafbwynt hyn i gyd yw arddangosfa ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, sydd ar gael i bawb ei mwynhau tan 23 Mai 2022

https://www.visionfountain.com/2022/03/01/opening-of-the-last-voices-of-the-rhondda/

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth: “Rydw i wrth fy modd bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn cyllid i ariannu 4 prosiect sy'n canolbwyntio ar dreftadaeth, fel bod modd i ni barhau â'r gwaith gwych sydd eisoes wedi mynd rhagddo ledled y Fwrdeistref Sirol. 

"Mae llwyddo i sicrhau'r cyllid yn dangos pa mor ymroddedig ydyn ni i ddiogelu a hyrwyddo’n treftadaeth gyfoethog ac unigryw ni, sydd wedi creu'r cymunedau rydyn ni'n byw ynddyn nhw heddiw. 

"Bydd y cyllid yma'n caniatáu i ni wneud gwelliannau pellach i rai o'n hoff ardaloedd i ymwelwyr, megis Parc Coffa Ynysangharad, a chyflwyno rhai atyniadau newydd, fel Canolfan Calon Taf, a fydd yn cynnig llawer o weithgareddau amrywiol y gall pobl fod yn rhan ohonyn nhw.

Rydw i wir yn edrych ymlaen i weld y gwahaniaeth y bydd y cyllid yma'n ei wneud ledled ein Bwrdeistref Sirol."

Wedi ei bostio ar 24/03/2022