Skip to main content

Ras Gyfnewid Baton y Frenhines yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf.

Aberdare Festival and Commonwealth Baton Relay 2014-132

Ras Gyfnewid Baton y Frenhines yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf.

Mae Ras Gyfnewid Baton y Frenhines 2022 yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf!

 

Yn 2018 oedd y tro diwethaf i ni ei chroesawu i'n Bwrdeistref Sirol. Bryd hynny, daeth torf fawr i Barc Goffa Ynysangharad ym Mhontypridd i ddymuno'n dda i'r raswyr wrth i'r baton barhau ar ei daith i Arfordir Aur Awstralia ar gyfer Gemau'r Gymanwlad. 

 

Ar drothwy Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham eleni, bydd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn teithio drwy Gymru unwaith eto, a byddwn ni'n ei chroesawu i Rondda Cynon Taf ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf.

 

Yna, bydd yn gwneud ei ffordd drwy Loegr, gan orffen ei thaith yn Birmingham ar gyfer Seremoni Agoriadol Gemau'r Gymanwlad yn Stadiwm Alexander ddydd Iau, 28 Gorffennaf.

 

Meddai'r Cynghorydd Wendy Treeby, Maer Rhondda Cynon Taf: "Mae'n anrhydedd enfawr i groesawu Ras Gyfnewid Baton y Frenhines 2022 yn ôl i Rondda Cynon Taf.

"Cyn i Gemau'r Gymanwlad ddechrau, mae Ras Gyfnewid Baton y Frenhines yn mynd ar daith anhygoel, gyda'r baton yn cyfnewid dwylo dro ar ôl tro gan gysylltu cymunedau ledled y Gymanwlad.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at Gemau'r Gymanwlad eleni. Hoffwn i ddymuno'r gorau i'r holl athletwyr o Gymru sy'n cystadlu.

Bydd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn dechrau ei thaith drwy Gymru ar Ynys Môn ddydd Mercher 29 Mehefin, ar ôl teithio draw o Iwerddon. Bydd yn teithio drwy Gymru dros gyfnod o bum diwrnod gan alw heibio i drefi, pentrefi a thirnodau ledled Gogledd, Gorllewin a De Cymru.  

Am oddeutu 4pm ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf, pan fydd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn Rhondda Cynon Taf, mi fydd yn cyrraedd atyniad twristiaid poblogaidd Zip World Tower yn Hirwaun. Dyma gartref y Phoenix, gwifren wib gyflymaf y byd, a Tower Coaster, yr unig un o'i fath yn Ewrop. Mae Zip World Tower ar safle hen Lofa'r Tŵr ynghanol mynyddoedd y Rhigos yn Hirwaun.

Zip World Tower https://www.zipworld.co.uk/location/tower?gclid=EAIaIQobChMIjL3Yvq3p9wIVwp7tCh0CcAtpEAAYASAAEgKf1fD_BwE

Ar ôl gadael Zip World Tower, bydd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn mynd yn ei blaen i Drac Athletau Brenin Siôr V, yng Nghwm Clydach, Cwm Rhondda gan gyrraedd am oddeutu 5pm. I groesawu'r baton i'r cyfleuster chwaraeon yma, bydd Chwaraeon RhCT, Athletau Cymru a Chlwb Athletau Cwm Rhondda'n cynnal gweithgareddau athletau hwyliog i blant ar y safle.   Rhagor o fanylion i ddilyn...

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae trac athletau Brenin Siôr V wedi elwa o gyllid #buddsoddiadRhCT gwerth £800,000 sydd wedi'i wario ar gyfres o waith gwella – gan gynnwys wyneb trac athletau newydd a gwell, gwelliannau i ardaloedd y cystadlaethau maes, gwelliannau draenio i'r cae pêl-droed presennol a gosod llifoleuadau.

Trac Athletau Brenin Siôr V https://southwalessportsgrounds.co.uk/projects/king-george-athletics-track-clydach-vale/

Yr unigolion fydd yn cario'r baton yn ystod ei daith gyfnewid o gwmpas Trac Athletau Brenin Siôr V yw Brooke Nicholas (Ysgol Gynradd Llwynypia); Max Owen (Ysgol Gynradd Llwynypia); Harvey Jones (Ysgol Gynradd Cwm Clydach); Nile Williams (Ysgol Gynradd Cwm Clydach); Jesse Cope (Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain); Finley Griffiths (Ysgol Gynradd Trealaw); Levi Blaken (Ysgol Gynradd Trealaw); Agatha Bess (Ysgol Gyfun y Pant); Jack Jones (Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen); Ffion Lightfoot (Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru) ynghyd â phedwar o wirfoddolwyr Clwb Athletau Cwm Rhondda, Catherine Alford; Glyn Pugh; Pauline Dobbs a Wayne Hughes; a phara-athletwr o ardal Rhondda Cynon Taf, Rhys Jones.

 

Mae Rhys, sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, yn cystadlu mewn achlysuron sbrintio categori T37. Cynrychiolodd e Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 a Rio 2016. Mae hefyd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad ddwywaith ac enillodd fedal efydd yng Ngemau Glasgow 2014.

 

Dechreuodd Rhys ei daith athletau yng Nghwm Clydach gyda Chlwb Athletau Cwm Rhondda a bydd e'n cynrychioli Cymru unwaith eto yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 yn ninas Birmingham dros yr haf.

 

Cafodd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 ei lansio gan y Frenhines ym mis Hydref y llynedd, mewn seremoni ym Mhalas Buckingham. Mae'r Baton yn ymweld â'r 72 o genhedloedd a thiriogaethau'r Gymanwlad dros gyfnod o 294 diwrnod, gan deithio dros 140,000 o filltiroedd.

Cafodd Ras Gyfnewid Baton y Frenhines gyntaf ei chynnal cyn Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd, ym 1958.

Dilynwch daith Ras Gyfnewid Baton y Frenhines https://www.birmingham2022.com/queens-baton-relay

Wedi ei bostio ar 29/06/2022