Skip to main content

Adroddiadau llifogydd Adran 19 yn ymwneud ag Abercwmboi, Fernhill a'r Porth

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi dau adroddiad yn unol ag Adran 19 y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn dilyn Storm Dennis. Mae bellach wedi cyhoeddi cyfanswm o 15 adroddiad o'r fath. Mae'r adroddiadau diweddaraf yn canolbwyntio ar Abercwmboi, Fernhill, a'r Porth, yn y drefn honno.

Mae'n rhaid i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, sef Cyngor Rhondda Cynon Taf, ddarparu adroddiad ffeithiol yn esbonio unrhyw ddigwyddiadau pwysig yn ystod y llifogydd. O dan Ddeddf 2010, bydd y Cyngor yn cyhoeddi cyfanswm o 19 adroddiad yn canolbwyntio ar gymunedau penodol yn dilyn tywydd digynsail Storm Dennis (15-16 Chwefror, 2020). Maen nhw'n dilyn ymchwiliad cychwynnol i 28 o ardaloedd gafodd eu heffeithio.

Hyd yn hyn yn 2022, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi adroddiadau ar gyfer Ffynnon Taf, Glyn-taf, Trefforest, Pontypridd, Nantgarw, Hirwaun, Treorci, Ynys-hir, Trehafod a Chwm-bach. Roedd adroddiadau a gyhoeddwyd yn 2021 yn canolbwyntio ar Bentre, Cilfynydd a Threherbert, yn ogystal ag Adroddiad Trosolwg yn rhoi sylw i Rondda Cynon Taf i gyd. Mae'r holl adroddiadau ar gael i'w gweld yn llawn ar-lein.

Mae adroddiadau Adran 19 yn cydnabod yr Awdurdodau Rheoli Risg, nodi'r swyddogaethau maen nhw wedi'u cyflawni ac yn amlinellu eu cynigion gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiadau wedi cael eu llywio gan archwiliadau a chasglu data a gynhaliwyd gan Garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor ar ôl y storm – yn ogystal â gwybodaeth a gasglwyd gan drigolion, Carfan Iechyd y Cyhoedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.

Mae'r ddau gyhoeddiad diweddaraf ddydd Mawrth, 28 Mehefin, yn canolbwyntio ar Abercwmboi a Fernhill yng Nghwm Cynon (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 05) a'r Porth yng nghwm Rhondda (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 19) yn y drefn honno.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor, yma.

Abercwmboi a Fernhill (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 05)

Mae'r adroddiad yn nodi, yn ystod glawiad eithafol Storm Dennis, bod cyfanswm o 68 eiddo preswyl a phum eiddo sydd ddim yn eiddo preswyl wedi'u heffeithio gan lifogydd. Yn ogystal â hyn, cafwyd llifogydd helaeth ar y briffordd. Mae’n ychwanegu yr achoswyd y llifogydd mewnol o ganlyniad i ddŵr ffo sylweddol yn llifo dros y tir ar ôl llifo i lawr llethrau serth uwchben Abercwmboi a Fernhill, gan ddraenio i dir is trwy gyfres o gyrsiau dŵr – llawer ohonyn nhw wedi’u gorlethu â dŵr a malurion.

Darganfu adolygiad cyflwr a chyflawniad hydrolig o'r ceuffosydd a nodwyd eu bod yn ffynonellau llifogydd bod cilfachau sy'n gysylltiedig â Dwyrain Teras Bronallt a Stryd Mostyn ddim yn darparu safonau digonol o amddiffyniad mewn amodau o lif rhydd. Roedd cilfachau sy'n gysylltiedig â rhwydweithiau Clos Cwm Alarch, Fernhill a Glenboi yn darparu amddiffyniad digonol. Ystyrir bod pob un o'r pump wedi ymchwyddo'n bennaf oherwydd rhwystrau a achoswyd gan falurion o ochr y bryn.

Aseswyd bod chweched cwlfert, a gynhelir gan CNC, rheolwr ystad tir Ystad Coetir Llywodraeth Cymru, yn annigonol ar gyfer y llifoedd disgwyliedig o ochr y bryn. Nodwyd llifogydd dŵr wyneb sy’n gysylltiedig â dŵr ffo o ochr y bryn, a rhan o’r rhwydwaith draenio priffyrdd sydd wedi dymchwel, yn ffynonellau llifogydd i eiddo. Mae Dŵr Cymru wedi’i nodi'n Awdurdod Rheoli Risg perthnasol mewn perthynas â llifogydd carthffosydd a welwyd ar Deras Masarn.

Fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yr Awdurdod Draenio Tir a'r Awdurdod Priffyrdd, mae'r Cyngor wedi cymryd 16 o gamau gweithredu ac wedi cynnig chwech arall. Mae wedi gwneud gwaith clirio i'r cilfachau cwlfert a nodwyd, wedi cynnal gwaith arolygu, jetio a glanhau i 868 metr o gwrs dŵr cyffredin a 749 metr o rwydwaith draenio dŵr wyneb yn yr ardal ymchwilio. Mae gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud i gilfachau cwlfert a nodwyd yn ffynonellau llifogydd.

Mae'r adroddiad yn dweud y bydd y Cyngor yn ceisio deall y dalgylch uwchlaw'r ardal ymchwilio yn well, trwy ddatblygu Asesiad Perygl Llifogydd Strategol. Bydd yn gweithio gyda CNC fel y rheolwr ystad tir i nodi mecanweithiau rheoli i leihau’r risg o sgwrio yn y dalgylchoedd uchaf.

Porth (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 19)

Mae'r adroddiad yn dweud bod llifogydd mewnol wedi digwydd mewn 45 eiddo preswyl ac 16 eiddo sydd ddim yn eiddo preswyl, ochr yn ochr â llifogydd sylweddol ar y priffyrdd. Mae’n nodi tair ffynhonnell sylfaenol – gorlifo’r Rhondda a’r Rhondda Fach, gorlifo dwy gilfach cwlfert sy’n gysylltiedig â chwrs dŵr cyffredin Nant Llwyncelyn, a chroniad dŵr wyneb yn lleol.

Gorlifodd yr afonydd dros eu hargloddiau dwyreiniol a gorllewinol mewn sawl lleoliad yn dilyn glaw trwm parhaus. Ystyrir hefyd bod malurion arnofiol wrth bontydd wedi cyfrannu at hyn, drwy achosi i lefelau dŵr godi y tu ôl i rwystrau. Dangosodd data mesurydd CNC yn Nhrehafod fod Afon Rhondda fwy na theirgwaith ei lefel arferol yn ystod Storm Dennis, gan gyrraedd 3.977 metr ar ei hanterth. Mae gwaith mapio CNC yn nodi bod y rhan fwyaf o’r eiddo sy'n cael ei effeithio mewn perygl mawr a chanolig o lifogydd prif afonydd, a’u bod yn ‘ddiamddiffyn’ ar hyn o bryd.

Fel yr Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer llifogydd prif afonydd, mae CNC wedi cynnal dadansoddiad ôl-ddigwyddiad i ddeall y mecanwaith ar gyfer llifogydd, ac wedi clirio malurion o brif sianeli'r afonydd. Mae hefyd wedi comisiynu Prosiect Modelu Llifogydd Cwm Rhondda i asesu opsiynau rheoli perygl llifogydd, ac wedi datblygu cynllun gweithredu manwl i fynd i’r afael â meysydd i’w gwella ar gyfer llifogydd yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cyflawniad Gwasanaeth Rhybuddio am Lifogydd CNC.

Meddai'r adroddiad fod gorlenwi dwy gilfach cwlfert sy'n gysylltiedig â chwrs dŵr Nant Llwyncelyn wedi'i achosi gan groniad ar sgriniau malurion, a achoswyd gan ddadleoli malurion yn y cyrsiau dŵr uchaf. Ystyrir bod strwythur cwlfert heb ganiatâd a nodwyd wedi cyfrannu at lifogydd, oherwydd y gostyngiad yng nghapasiti hydrolig y rhwydwaith. Nodwyd bod dŵr wyneb yn casglu oherwydd glaw trwm hefyd yn brif ffynhonnell llifogydd.

Mae'r Cyngor, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yr Awdurdod Draenio Tir a'r Awdurdod Priffyrdd, wedi cynnal gwaith arolygu, jetio a glanhau tua 445 metr o rwydwaith cwlfert yn lleol. O dan ddeddfwriaeth berthnasol, mae’r Cyngor wedi gorfodi cael gwared ar y strwythur cwlfert oedd heb ganiatâd ac wedi ymgysylltu â CNC a Dwr Cymru mewn perthynas â’u cyfrifoldebau fel Awdurdodau Rheoli Risg.

Nododd y ddau adroddiad mewn perthynas ag Abercwmboi, Fernhill, a'r Porth, fod y Cyngor wedi arwain ar ddatblygu Ystafell Reoli i ategu ei Ganolfan TCC a'i Ganolfan Gyswllt yn ystod llifogydd yn y dyfodol. Nodwyd hefyd bod y Cyngor wedi cychwyn prosiect Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo dros dro sy'n cynnig clwydi llifogydd y gellir eu hehangu ar gyfer yr eiddo hynny yr ystyrir eu bod mewn perygl mawr.

Mae'r ddau adroddiad yn nodi bod Storm Dennis yn eithafol, ac mae’n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Maen nhw’n ychwanegu bod Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau’n foddhaol mewn ymateb i’r llifogydd, ond eu bod wedi cynnig swyddogaethau pellach i baratoi’n well ar gyfer  llifogydd yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae cyhoeddi adroddiadau Adran 19 heddiw sy’n ymdrin ag ardaloedd Abercwmboi, Fernhill a Phorth, yn cynrychioli cynnydd pellach gan y Cyngor i ddogfennu’r hyn a ddigwyddodd i achosi’r llifogydd sylweddol yn ystod Storm Dennis. Maen nhw'n seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan nifer o sefydliadau, ac mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau 15 o'r 19 adroddiad yn ymwneud â chymunedau penodol.

“Mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn mesurau lliniaru llifogydd wedi'u targedu a gwelliannau i'r system ddraenio fel blaenoriaeth. Yn ogystal â hyn, mae dros £6.4 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â Storm Dennis eleni, yn ogystal â £3.9 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer lliniaru llifogydd ar draws rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith Graddfa Fach. Yn ogystal, mae £440,000 yn cael ei ddyrannu i ddatblygu 10 cynllun Ffyrdd Cydnerth pellach drwy gydol y flwyddyn yma.

“Mae’r holl adroddiadau Adran 19 sydd wedi'u cyhoeddi ar gael yn llawn ar wefan y Cyngor. Mae'r adroddiadau diweddaraf ar gyfer Abercwmboi, Fernhill a'r Porth wedi nodi'r Awdurdodau Rheoli Risg, eu gweithredoedd ers y digwyddiad, a pha gamau y byddan nhw'n eu cymryd yn y dyfodol. Cyhoeddodd y Cyngor yn ddiweddar hefyd fod gwaith i gyflawni Cynllun Lliniaru Llifogydd Bronallt Uchaf yn Abercwmboi wedi dechrau ar 27 Mehefin, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd yn y gymuned leol.”

Wedi ei bostio ar 29/06/2022