I nodi 40 mlynedd ers Gwrthdaro’r Falklands, mae carfan o’r Môr-filwyr Brenhinol wedi talu teyrnged wrth Gofeb y Falklands ym Mharc Coffa Ynysangharad.
Daeth cynrychiolwyr o Unedau Comando ar draws y DU i Bontypridd yn ystod eu gorymdaith pedwar diwrnod, 56 milltir o hyd, mewn ymdrech i godi £56,000 er cof am eu Cymrodyr a ymladdodd ac a gollodd eu bywydau yn ystod Gwrthdaro’r Falklands.
Elusen y Môr-filwyr Brenhinol: I wneud cyfraniad, ewch i
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Roedd hi'n braf croesawu'r Môr-filwyr Brenhinol aton ni. Mae ein dyled yn fawr i’n holl Luoedd Arfog, ddoe a heddiw.
"Fe gollon ni nifer o fywydau yn ystod Gwrthdaro'r Falklands, gan gynnwys trigolion lleol, ac fe gofiwn ni nhw i gyd. Bydd y Cyngor yn parhau i wneud popeth y gallwn ni i roi cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog."
Yn ystod Gwrthdaro’r Falklands ym 1982, gorymdeithiodd y Môr-filwyr Brenhinol 56 milltir ar draws Dwyrain Ynysoedd Falkland i ryddhau’r ynysoedd rhag meddiannaeth yr Ariannin, gan wynebu amodau llwm a gwrthwynebiad ar hyd y ffordd.
Ar 2 Ebrill 1982, ymosododd yr Ariannin ar Ynysoedd Falkland, tiriogaeth dramor Brydeinig yn Ne'r Iwerydd, gan arwain at ryfel byr ond chwerw, a barodd 72 niwrnod.
Yn ystod y frwydr a ddilynodd, bu farw 649 o filwyr yr Ariannin a 255 o filwyr Prydain, yn ogystal â thri pherson o Ynysoedd Falkland. Llwyddodd Byddin Prydain i gael meddiant ar Ynysoedd Falkland ar 14 Mehefin 1982.
Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, a chadarnhaodd y Cyngor yr ymrwymiad yma yn 2018. Derbyniodd yr Awdurdod Lleol Wobr Aur fawreddog y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2017 i gydnabod y cymorth y mae'n ei roi i gymuned y Lluoedd Arfog yn lleol.
Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth arbennig, yn ddiduedd ac am ddim, i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys budd-daliadau, gofal cymdeithasol i oedolion, cyllid, cyflogaeth a thai.
Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor.
Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr Rhondda Cynon Taf ar gael i holl bersonél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd. E-bostiwch GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07747 485 619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am–5pm).
Wedi ei bostio ar 16/06/2022