Skip to main content

Panto 'Jack & The Beanstalk' yn theatrau RhCT y Nadolig yma

Jack beanstalk

Yn dilyn llwyddiant aruthrol panto digidol Aladdin y llynedd, mae theatrau RhCT yn falch o gyhoeddi y bydd cynhyrchiad newydd sbon, Jack & The Beanstalk, yn cael ei berfformio'n fyw yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, a Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, y Nadolig yma.

Bydd modd i gynulleidfaoedd ymgolli yn hwyl a hudoliaeth panto byw wrth ddilyn hanes Jack druan, sy'n cael ei anfon i'r farchnad gan ei fam i werthu buwch werthfawr y teulu. Dydy e ddim yn gwybod y bydd cyfnewid Daisy annwyl am fag o ffa yn arwain at antur fythgofiadwy!

Gyda'r castell yn y cymylau, iâr euraidd, a choeden ffa enfawr gyda chawr cas iawn ar ei brig, dyma banto teuluol traddodiadol sy’n llawn effeithiau arbennig hudol, golygfeydd ysblennydd a chomedi heb ei ail.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o’r Cabinet a’r faterion lechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Rydw i'n falch iawn y bydd pantos byw yn gallu dychwelyd i'r llwyfan unwaith eto eleni yn theatrau RhCT. Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu teuluoedd yn ôl trwy’n drysau.

"Roedd ein pantos digidol a dangosiadau sinema Aladdin y llynedd yn llwyddiant ysgubol. Cafodd y cynhyrchiad ei enwebu'n rhan o wobr flynyddol Cymdeithas Pantomeim y DU. Roedd hyn yn gaffaeliad i bob aelod a weithiodd mor galed i sicrhau llwyddiant y panto o dan amgylchiadau anodd.

"Does dim byd gwell na mwynhau panto byw yn y theatr, yn enwedig adeg y Nadolig. Mae'n brofiad hudol.

"Mae ein dwy theatr yn lleoedd arbennig. Maen nhw'n llawn hanes, wedi'u hen sefydlu yn eu cymunedau lleol, ac yn cynnig rhaglen adloniant lawn ac amrywiol bob blwyddyn.

Mae cynhyrchiad newydd sbon Jack & The Beanstalk, sydd wedi'i ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Richard Tunley, yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol a chast cyfarwydd sy’n siwr o godi gwen ar wynebau'r gynulleidfa!

Cewch weld Jack & The Beanstalk yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, ddydd Gwener, 2 Rhagfyr hyd at ddydd Sul, 11 Rhagfyr ac yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, ddydd Gwener ,16 Rhagfyr hyd at ddydd Sadwrn, 24 Rhagfyr.

Er mwyn sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u hanghenion, yn gallu mwynhau rhyfeddod panto byw, bydd perfformiad hygyrch ar gael yn y ddwy theatr. Cewch hefyd weld perfformiad Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn Theatr y Parc a'r Dâr a pherfformiad â disgrifiad clywedol yn Theatr y Colisëwm.   

Pris tocyn oedolyn yw £16, £13 ar gyfer aelodau hŷn ac iau, myfyrwyr llawn amser a'r rhai sydd ar fudd-daliadau cymwys, a £49 am docyn teulu o 4. Mae cost ein tocynnau'r un peth â chost tocynnau 2018, felly dewch i fwynhau panto byw y Nadolig yma. 

Am ragor o wybodaeth neu i archebu tocynnau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444, neu ewch i www.rct-theatres.co.uk/cy/

Wedi ei bostio ar 14/10/22