Skip to main content

Buddsoddiad pellach er mwyn cyflawni gwelliannau i fannau chwarae

19 play areas will be improved this year across Rhondda Cynon Taf

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'i raglen i wella 19 man chwarae i blant yn ystod 2022/23. Mae'r Cyngor eisoes wedi adnewyddu dros 100 o gyfleusterau yn ystod y saith mlynedd diwethaf, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £4.8miliwn.

Mae'r rhaglen eleni yn cynnwys 13 cynllun newydd ynghyd â chwe phrosiect ar wahân sydd eisoes wedi sicrhau cyllid. O ganlyniad i hyn, bydd 19 man chwarae yn elwa o waith gwella eleni, yn rhan o fuddsoddiad gwerth cyfanswm o £672,000.

Dyma restr o’r 13 man chwarae fydd yn elwa o gyllid yn 2022/23, ynghyd â disgrifiad byr o’r gwelliannau sydd ar y gweill eleni:

  • Man chwarae Brenin Siôr V, Tonypandy – gwelliannau i'r ardal ffitrwydd.
  • Man chwarae Blaen-cwm, Treherbert – bydd y man chwarae yn cael ei adnewyddu'n llwyr
  • Man chwarae Teras Morgan, Cymer – mae gwaith adnewyddu'n cael ei gynnal ar hyn o bryd
  • Man chwarae Bryn Hyfryd, Porth - adnewyddu'n rhannol.
  • Man chwarae Gerddi Lee, Penrhiwceiber - adnewyddu'n rhannol.
  • Man chwarae Ynysybwl – offer chwarae newydd.
  • Man chwarae Stryd Phillip, Tresalem - adnewyddu'n llwyr.
  • Man chwarae Cefn Don, Hirwaun - adnewyddu'n llwyr.
  • Man chwarae Parc Canol, Llanilltud Faerdref - adnewyddu'n rhannol.
  • Man chwarae Cae Faerdref, Llanilltud Faerdref - adnewyddu'n rhannol.
  • Man chwarae Coed Isaf – gwelliannau i'r man chwarae ar gyfer plant bach.
  • Man chwarae Barry Sidings (cyfleuster BMX) - gosod wyneb newydd
  • Man chwarae Parc Ffynnon Taf - adnewyddu'n rhannol.

Dyma'r cynlluniau sydd eisoes wedi sicrhau cyllid; man chwarae Dan y Cribin, Ynysybwl (gosod wyneb newydd ar lwybr beicio’r cyfleuster BMX), man chwarae Gerddi Lee ym Mhenrhiwceiber (adnewyddu’r uned i blant bach), man chwarae’r Stryd Fawr, Gilfach-goch (mae'r cynllun yma wedi cyrraedd y cam dylunio), parc sglefr fyrddio Gilfach-goch (gwaith adnewyddu), parc sglefr fyrddio Beddau, Tyn-y-Nant (gwaith adnewyddu) a man chwarae Pant y Seren yn Nhonyrefail (gwella'r cyfleusterau).

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae'r Cyngor wedi cyflawni rhaglenni buddsoddi sylweddol i wella cyfleusterau chwarae i'n pobl ifainc bob blwyddyn ers 2015.  Mae dros 100 o fannau chwarae wedi elwa o waith gwella yn ystod y cyfnod hwn, a hynny mewn cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwaith yma'n hyrwyddo gweithgareddau awyr agored gan ddefnyddio offer modern sy'n addas i'r diben.

“Rwy’n falch iawn bod y rhaglen eleni'n cynnwys cynlluniau adnewyddu newydd ar gyfer 13 man chwarae – bydd y Cyngor yn cwblhau cyfanswm o 19 prosiect. Mae’r buddsoddiad o £672,000 wedi’i gynnwys yn rhan o'r cynlluniau gwerth £4.8miliwn sydd eisoes wedi’u cyflawni yn ystod y saith mlynedd diwethaf a’r rhai sydd wedi’u cynllunio ar gyfer eleni, er budd ein pobl ifanc a’n teuluoedd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y rhaglen waith yn cael ei chyflawni yn yr 19 safle, a hefyd at weld ein pobl ifainc yn mwynhau'r mannau chwarae awyr agored newydd ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn nesaf."

Wedi ei bostio ar 10/06/2022