Skip to main content

Dysgwch ragor am gynllun deuoli'r A4119 mewn arddangosfeydd lleol

The A4119 at the SW Fire and Rescue HQ roundabout

Bydd y Cyngor yn cynnal arddangosfeydd i'r cyhoedd yng Nghoed-elái ac Ynysmaerdy yr wythnos nesaf, gan roi'r cyfle i drigolion gael rhagor o wybodaeth am raglen waith cynllun deuoli'r A4119, a fydd yn dechrau yn ddiweddarach yn yr haf eleni.

Ym mis Mai, cyhoeddodd y Cyngor mai Alun Griffiths (Contractors) Ltd sydd wedi'i benodi i gyflawni'r cynllun trafnidiaeth mawr. Bydd y prosiect yn cyflawni 1.5km o ffordd ddeuol a llwybr i'r gymuned ar wahân o Gylchfan Coed-elái i Barc Busnes Llantrisant, ynghyd â phont teithio llesol newydd yn croesi’r A4119 i’r de o gylchfan Coed-elái i ddarparu llwybr newydd i'r gymuned i’r pentref.

Mae croeso i drigolion 'alw heibio' i'r ddwy arddangosfa leol i'r cyhoedd. Bydd modd i swyddogion y Cyngor a chynrychiolwyr o'r cwmni contractio siarad â thrigolion am y cynlluniau, gan esbonio sut y bydd y prosiect yn cael ei adeiladu, a sut y bydd yn effeithio ar y gymuned leol. Bydd y ddau achlysur yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:

  • Canolfan y Gymuned Coed-elái (Dydd Mercher, 6 Gorffennaf, 2pm-7pm)
  • Canolfan y Gymuned Ynysmaerdy (Dydd Iau, 7 Gorffennaf, 10am-3pm)

Sylwch y bydd y Cyngor yn rhannu rhagor o wybodaeth am ddechrau'r gwaith a'r cynllun rheoli traffig angenrheidiol maes o law.

Yn ystod cyfnod y gwaith, mae'r Cyngor yn cadarnhau mai dim ond yn ystod y nos y bydd angen cau lonydd, felly bydd yr A4119 yn cynnal traffig dwy ffordd ar ôl 6am a chyn 9pm bob dydd. Bydd hyn yn osgoi cyfnodau teithio brig ac yn lleihau aflonyddwch ar y gymuned leol yn sylweddol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd yr arddangosfeydd i'r cyhoedd yng Nghoed-elái ac Ynysmaerdy yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned gwrdd â charfan y prosiect yn bersonol, clywed manylion am y gwaith sydd i ddod, a gofyn unrhyw gwestiynau am sut y bydd gwaith y prif gam adeiladu yn cael ei gyflawni.

“Bydd y Cyngor a’i gontractwr yn gwneud pob ymdrech i leihau aflonyddwch wrth gyflawni’r cynllun, ac mae hyn yn flaenoriaeth wrth lunio’r rhaglen waith.  Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith aflonyddgar yn digwydd gyda’r nos, gan drefnu cau unrhyw lonydd ar yr A4119 rhwng 9pm a 6am. Bydd hyn yn caniatáu trigolion a chymudwyr i deithio yn ystod y dydd heb gael eu tarfu.

“Mae'r cynllun deuoli yn fuddsoddiad â blaenoriaeth er mwyn gwella cysylltedd lleol yn sylweddol i ranbarth strategol Porth Rhondda, a hynny drwy wella llif traffig yn yr ardal brysur yma. Bydd yn sbardun ar gyfer safle'r hen bwll glo, Parc Coed-elái, sef lleoliad uned fusnes modern newydd y Cyngor, sy'n rhan o safle ehangach sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun hefyd yn gwella'r ddarpariaeth teithio llesol ar gyfer y gymuned leol yng Nghoed-elái.

“Byddwn i'n annog trigolion lleol a’r rhai sydd â diddordeb yn y cynllun i fynd i’r arddangosfeydd yng Nghoed-elái ac Ynysmaerdy ar 6 a 7 Gorffennaf. Bydd modd i chi weld ein cynlluniau ar gyfer cyflawni'r cynllun, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda chi, gan fod y cam adeiladu yn dechrau yn ddiweddarach yn yr haf eleni.”

Cafodd ei gadarnhau ym mis Hydref 2021 fod y Cyngor wedi cael cyllid gwerth £11.4 miliwn oddi wrth Gronfa Ffyniant Bro llywodraeth y DU tuag at gyflawni’r cynllun. Bydd y dyraniad yma, ar ben cyllid y mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i gael, yn ariannu cam adeiladu'r cynllun pwysig yma.

Ar y safle mae Dŵr Cymru wedi dargyfeirio'r system garthffosiaeth yng Nghoed-elái. Hefyd, mae BT eisoes wedi cwblhau gwaith gwella'r seilwaith. Ers mis Ionawr 2022 mae'r Cyngor wedi bod yn torri coed ar y safle rhwng pencadlys y Gwasanaeth Tân a chylchfannau Coed-elái. Mae'r gwaith paratoi yma bellach wedi'i gwblhau.

Wedi ei bostio ar 30/06/22