Skip to main content

Llwyddiant Grantiau Cartrefi Gwag yn RhCT

Housing in communities

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Cyngor am lwyddiant parhaus y cynllun i aildefnyddio cartrefi gwag yn RhCT.

Yn ystod cyfnod yr haf, 2019, gwnaeth cynllun Tasglu'r Cymoedd gan Lywodraeth Cymru ymrwymo £10 miliwn i ariannu'r gwaith o adfywio cartrefi gwag, gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi'i benodi'n Awdurdod arweiniol yn dilyn llwyddiant cynllun arloesol y Cyngor yn y maes.

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i weinyddu a chwblhau ceisiadau dilys ar ran yr wyth Awdurdod Lleol hyd at 31 Mawrth 2023. Er gwaethaf yr heriau rydyn ni wedi'u hwynebu o ganlyniad i argyfwng cenedlaethol y Coronafeirws, rydyn ni wedi gwneud cynnydd ardderchog ac wedi cyflawni'n deilliannau hyd yn hyn.

Rydyn ni wedi derbyn 485 cais, gyda 263 (54%) o'r ceisiadau yn dod gan drigolion RhCT. Mae cyfanswm o £7 miliwn wedi'i ymrwymo ar draws yr wyth Awdurdod Lleol, gyda £3.9 miliwn (43%) o'r cyllid wedi'i ymrwymo o fewn Rhondda Cynon Taf. Mae 328 o gartrefi wedi'u hadfywio hyd yn hyn, gyda 193 (59%) o'r cartrefi yma yn RhCT.

Gan adeiladu ar lwyddiant y cynllun, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau gyda'i gynllun Grant Cartrefi Gwag, gan gynnig cymorth ariannol i drigolion ledled y Fwrdeistref Sirol er mwyn parhau i adfywio cartrefi gwag.

Ers mis Ebrill 2021, mae'r Cyngor wedi cefnogi mwy na 130 cais dilys a buddsoddi mwy na £2 filiwn er mwyn adfywio cartrefi gwag. Mae pob grant yn mynd rhagddo’n dda ar hyn o bryd gyda chymorth yr Awdurdod Lleol. 

Mae'r grant yn cael ei adolygu'n barhaus ac mae'r Gwasanaeth Strategaeth Tai a Buddsoddi yn ceisio ystyried opsiynau amrywiol a'r ffrydiau cyllido sydd ar gael i gynnig y grant i drigolion ac ailddefnyddio cartrefi gwag ledled RhCT.

Pe hoffech chi gael gwybod am gyfleoedd yn y dyfodol, llenwch y ffurflen mynegiant o ddiddordeb.  Mynegiant o ddiddordeb - Gwneud cais am Grant Cartrefi Gwag (rctcbc.gov.uk)

Pe hoffech chi dderbyn rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: GrantiauCartrefiGwag@rctcbc.gov.uk

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i gymryd camau i leihau cartrefi gwag drwy raglen buddsoddi cyfalaf 5 mlynedd, yn unol â blaenoriaethau'r weinyddiaeth yma, gan gynnig cymorth ariannol i drigolion ledled y Fwrdeistref Sirol i barhau i adfywio cartrefi gwag.

"Yn ogystal ag adfywio cartrefi gwag, mae'r cynllun yma hefyd wedi cefnogi'n heconomïau lleol drwy ddarparu gwaith i fusnesau bach lleol yn y sector adeiladu. Mae'r elfen o ychwanegu elfennau at y tai yma hefyd yn golygu ei bod yn cefnogi ein hagenda o ran datgarboneiddio ac yn lleihau biliau ynni ar gyfer y dyfodol, sy'n hanfodol bwysig.

Wedi ei bostio ar 14/07/22