Skip to main content

Cyflogi Carfan Wardeiniaid y Gymuned newydd wedi'i gytuno gan y Cabinet

Cabinet will consider the Council employing a team of Community Wardens

Cyflogi Carfan Wardeiniaid y Gymuned newydd wedi'i gytuno gan y Cabinet

Cytunodd y Cabinet ar 22 Mehefin y bydd y Cyngor yn cyflogi carfan o Wardeiniaid y Gymuned.

Trafododd y Cabinet gynigion i'r Cyngor gyflogi carfan newydd o Wardeiniaid y Gymuned er mwyn sicrhau presenoldeb gweladwy, sy'n tawelu meddwl, yng nghanol ein trefi, ein parciau a'n cymunedau – yn ogystal ag ariannu 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol i weithio yn Rhondda Cynon Taf.

Argymhellodd adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher, 22 Mehefin y byddai Wardeiniaid y Gymuned yn sicrhau presenoldeb gweladwy, mewn gwisg swyddogol, mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem, gan ganolbwyntio ar barciau a chanol trefi. Bydd y garfan yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys patrolau gyda'r nos. Eu prif ddyletswydd fydd tawelu meddwl a helpu'r gymuned ehangach i greu amgylchedd byw mwy diogel a dymunol i bawb.

Byddan nhw'n helpu Carfan Cymunedau Diogel y Cyngor i ymateb i adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gorfodi'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) sy'n gwahardd yfed alcohol yng nghanol trefi a defnyddio sylweddau meddwol eraill mewn cymunedau lleol.

Rhagwelir hefyd y bydd y wardeiniaid newydd yn rhan o Garfan Gorfodi ac Ymwybyddiaeth Materion yr Amgylchedd ar ei newydd wedd, gan weithio'n agos gyda'r Garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd. Yn rhan o'u rôl, bydd modd iddyn nhw roi dirwyon am droseddau amgylcheddol o ddydd i ddydd fel cŵn yn baeddu neu droseddau rheoli cŵn eraill o dan Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus y Cyngor, gan gynnwys y gwaharddiad ar gŵn o bob maes chwarae i blant a chaeau chwaraeon wedi'u marcio a gynhelir gan y Cyngor.

Mae'n bwysig nodi na fydd y wardeiniaid yn disodli presenoldeb na gweithgarwch yr Heddlu yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf. Yn lle hynny, bydden nhw'n ategu'r gwasanaethau presennol, gan weithio gyda holl sefydliadau sy'n aelodau o'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel, yn ogystal â sefydliadau cymunedol a gwirfoddol.

Cytunodd aelodau y bydd y Cyngor yn darparu cyllid ar gyfer 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol. Bydd y swyddogion yma'n cael eu lleoli dan gyfarwyddyd Heddlu De Cymru, ond byddan nhw'n adnodd ychwanegol pwrpasol i weithio yn Rhondda Cynon Taf. Bydd hyn ar ben yr holl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu presennol, ac yn ychwanegol at gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ariannu 100 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol ledled Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd cyflogi carfan o 10 Warden y Gymuned newydd yn golygu bydd swyddogion yn cynnal patrolau mewn gwisg swyddogol mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem, gan ganolbwyntio ar barciau a chanol trefi. Rydyn ni'n gwybod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig, a bwriad y wardeiniaid yw darparu presenoldeb sy'n tawelu meddwl trigolion.

“Eu prif nod fydd helpu trigolion i deimlo'n ddiogel yn ein cymunedau, ond bydd eu rôl yn amlochrog. Er enghraifft, byddan nhw'n helpu'r Garfan Cymunedau Diogel i ymateb i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn gweithredu'n adnodd ychwanegol i fynd i'r afael â sbwriel a throseddau amgylcheddol eraill fel cŵn yn baeddu. Mae'r Garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd yn delio â'r achosion yma ar hyn o bryd.

"Wrth gynyddu nifer y wardeiniaid ar lawr gwlad, bydd modd iddyn nhw sicrhau cysylltiadau agos ar draws nifer o wasanaethau eraill y Cyngor – o'r adran TCC i Ymgysylltu ag Ieuenctid a Safonau Masnach, yn ogystal ag Aelodau Etholedig. Bydd y garfan hefyd yn helpu i gryfhau gwaith ar y cyd ymhellach â sefydliadau allanol sy'n rhan o'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel.

 

"Argymhellodd yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ar 22 Mehefin bod Aelodau'n cytuno i'r Cyngor ddarparu cyllid i’r Heddlu ar gyfer 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol ychwanegol, a fydd yn gwasanaethu cymunedau lleol yn Rhondda Cynon Taf. Unwaith eto, bwriad hyn yw sicrhau bod swyddogion mewn gwisg swyddogol ar ein strydoedd yn fwy aml ac yn fwy gweladwy, a chryfhau’r plismona amhrisiadwy mewn ardaloedd lle mae problemau, a hynny er budd trigolion ac ymwelwyr."

Wedi ei bostio ar 30/06/22