Skip to main content

Ailgyflwyno cais am gyllid y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer safle Ffatri Cyw Iâr Mayhew

The derelict former Chicken Factory site in Trecynon

Mae'r Cabinet wedi clywed yr wybodaeth ddiweddaraf am fwriad y Cyngor i gyflwyno cais am ragor o gyllid gan Gronfa Ffyniant Bro'r DU. Cytunodd y Cabinet y bydd cais gwell sy'n ymwneud â safle hen Ffatri Cyw Iâr Mayhew yn cael ei ailgyflwyno.

Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod ei gyfarfod ddydd Mercher, 22 Mehefin, yn argymell y dylid cyflwyno cais ar gyfer y prosiect yn rhan o ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno prosiectau i Lywodraeth y DU yw 6 Gorffennaf. Bydd cynigion ar gyfer y safle yn Nhrecynon yn manteisio ar yr adnoddau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer Etholaeth Seneddol Cwm Cynon.

Mae'r meysydd blaenoriaeth sy'n cael eu hystyried gan y Gronfa yn cynnwys trafnidiaeth, canol trefi ac adfywio, a buddsoddiad diwylliannol. Mae Awdurdodau Lleol yn arwain ar geisiadau ar gyfer eu hardaloedd priodol. Caiff cyfanswm y cynigion mae modd iddyn nhw'u cyflwyno eu pennu gan yr etholaethau seneddol sydd o fewn eu ffiniau.

Cyflwynodd y Cyngor bedwar cynnig yn ystod rownd gyntaf y Gronfa ym mis Gorffennaf 2021. Roedd y cynigion yma'n ymwneud â Hwb Trafnidiaeth Porth (etholaeth Cwm Rhondda), safle Ffatri Cyw Iâr Mayhew yn Nhrecynon (Cwm Cynon) a Chanolfan Gelf y Miwni (Pontypridd), ynghyd â chynnig ychwanegol sy'n gysylltiedig â chynllun deuoli'r A4119. Roedd pob cais yn llwyddiannus, ar wahân i'r cais ar gyfer safle hen Ffatri Cyw Iâr Mayhew yn Nhrecynon. Mae'r tri phrosiect arall wrthi'n cael eu datblygu.

Roedd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher yn awgrymu y dylai'r Cyngor ailgyflwyno’r cynnig yma ar gyfer etholaeth Cwm Cynon – gan ychwanegu y byddai prosiect sydd wedi'i ddatblygu yn fwy tebygol o fodloni gofynion y Gronfa na phrosiect newydd sbon, gan nodi y bydd angen i waith ar y safle ddechrau yn 2022/23.

Darparodd Llywodraeth y DU adborth manwl ynglŷn â'r cynnig yn y rownd gyntaf – ac ers hynny mae'r Cyngor wedi datblygu'r cynnig ymhellach. Mae'r adroddiad i'r Cabinet hefyd yn nodi bod y cais yma'n gryfach ac yn fwy tebygol o lwyddo yn yr ail rownd.

Cafodd safle'r Ffatri Cyw Iâr ei brynu gan y Cyngor yn rhan o gyfle ailddatblygu allweddol. Mae'r tir diffaith yn hawdd ei gyrraedd o'r A4059 ac mae'n agos at yr A465, sy'n cael ei deuoli hyd at Hirwaun ar hyn o bryd. Mae'r cais yma'n cynnwys datblygiad aml-ddefnydd sy'n cynnwys unedau diwydiannol modern, a chyfleuster parcio a theithio wrth i ni baratoi ar gyfer cynllun posibl Metro De Cymru i ymestyn y rheilffordd tu hwnt i Aberdâr. Byddai'n cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan a phont teithio llesol.

Byddai’r datblygiad arfaethedig yn darparu 18 uned busnes Gradd A o ansawdd uchel ar gyfer busnesau bach sy’n tyfu – gyda’r potensial i greu mwy na 50 o swyddi lleol. Mae tair uned yn cael eu dylunio yn rhan o'r cynllun peilot, a bydd y rhain yn cydymffurfio â safonau carbon sero-net yn ystod y broses adeiladu ac wrth iddyn nhw gael eu defnyddio.

Cytunodd y Cabinet i fwrw ymlaen â gwaith datblygu cais ar gyfer safle hen ffatri cyw iâr Mayhew. Bydd y cais yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau, sef 6 Gorffennaf. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi canlyniad cynigion Rownd 2 yn nhymor yr Hydref 2022, a hynny'n dilyn proses asesu tri cham.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: “Rwy’n falch bod y Cabinet wedi cefnogi argymhellion swyddogion i ailgyflwyno cais gwell ar gyfer etholaeth Cwm Cynon i’r Gronfa Ffyniant Bro. Rwy'n hyderus y bydd y cais newydd ar gyfer safle'r hen Ffatri Cyw Iâr yn cynrychioli cynnig cryf - sy'n cynnwys adfywio safle strategol mewn ardal ranbarthol bwysig, ac sy'n cynyddu nifer yr unedau modern i gefnogi twf busnesau bach a chanolig. 

“Mae cyngor masnachol annibynnol wedi dangos bod galw cynyddol am y math yma o lety busnes yn lleol, ac mae gan gynigion y Cyngor y potensial i greu 50 o swyddi lleol. Byddai'r datblygiad yn anelu at gyflawni carbon sero-net o ran sut mae'r unedau yn gweithredu. Mae'r Cyngor wedi ennill profiad gwerthfawr yn ddiweddar wrth gyflawni datblygiadau tebyg yn ardal Coed-elái a Thresalem. Byddai'r cynlluniau hefyd yn helpu gyda chyflawni cynigion arfaethedig Metro De Cymru, sy'n cynnig ymestyn y rheilffordd tu hwnt i Aberdâr yn y dyfodol.

“Mae’r Cyngor yn ymgynghori â thrigolion ynglŷn â’r cynlluniau yma ar hyn o bryd, gan roi cyfle i’r cyhoedd rannu eu barn am y safle ac am yr hyn sy’n cael ei gynnig. Rwy’n annog trigolion i ymgysylltu â’r broses a dweud eu dweud cyn y dyddiad cau ar 1 Gorffennaf, os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny. Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth ar wefan 'Dewch i Siarad' y Cyngor.

“Yn dilyn penderfyniad y Cabinet i gefnogi’r cais am gyllid y Gronfa Ffyniant Bro, bydd swyddogion yn mynd ati i ddatblygu’r cynnig ymhellach ac yn sicrhau ei fod yn barod i’w gyflwyno i Lywodraeth y DU cyn y dyddiad cau.”

Wedi ei bostio ar 30/06/22