Skip to main content

Newidiadau dros dro i'r cynnig cartrefi gofal preswyl i gael eu hystyried

Bydd y Cabinet yn ystyried newidiadau tymor byr i ateb y galw presennol – gan gynnwys cau cartref gofal Ystrad Fechan dros dro ac agor darpariaeth newydd ym Mharc Newydd i gefnogi'r sawl sy'n cael eu rhyddhau o’r ysbyty. Mae opsiynau i foderneiddio cartrefi gofal preswyl hefyd yn cael eu cynnig i'w hystyried gan y Cabinet yn ddiweddarach eleni.

Yn eu cyfarfod ar Ddydd Llun, 18 Gorffennaf, bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad swyddog am y galw a'r capasiti presennol ar draws cartrefi gofal preswyl y Cyngor i bobl hŷn. Mae’n amlinellu effaith enfawr pandemig Covid-19, sydd wedi arwain at gynnydd mawr yn nifer y lleoedd gwag mewn cartrefi gofal.

Mewn ymateb i'r defnydd presennol a phwysau uniongyrchol ehangach, mae'r adroddiad yn cynnig ailgynllunio rhan o ddarpariaeth y Cyngor dros dro, am gyfnod byr. Fe ddylai hyn gynyddu sefydlogrwydd, a sicrhau bod modd i bobl gael mynediad at gymorth a gofal o ansawdd da pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae’n argymell felly i’r Cabinet y dylid gwneud y newidiadau canlynol:

  • Cau Cartref Gofal Ystrad Fechan yn Nhreorci dros dro, oherwydd niferoedd bach o breswylwyr am gyfnod hir (60% o leoedd gwag ar hyn o bryd). Byddai’r wyth preswylydd presennol yn cael cynnig trosglwyddo i Dŷ Pentre, neu gartref gofal arall o’u dewis sy’n diwallu eu hanghenion. Byddai preswylwyr a'u teuluoedd yn cael cynnig cymorth gweithiwr cymdeithasol neu eiriolwr i hwyluso'r broses o symud, tra byddai aelodau staff yn cael cynnig symud gyda'r preswylwyr i Dŷ Pentre neu gartref arall.
  • Bydd hyd at 10 gwely cam-i-fyny cam-i-lawr dros dro yng Nghartref Gofal Parc Newydd yn Nhonysguboriau, ar gyfer y sawl sy'n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Byddai hyn yn helpu i liniaru rhywfaint o'r pwysau sylweddol yn y system iechyd a gofal cymdeithasol, gyda nifer uchel o bobl yn mynd i'r ysbyty a nifer uchel o welyau'n cael eu defnyddio ar draws ysbytai lleol. Bydd y gwelyau gwag ym Mharc Newydd (mae 60% o leoedd gwag yno ar hyn o bryd) yn cael eu defnyddio i hwyluso’r broses o symud. Mae'r lleoliad yma'n addas o ystyried lleoliad y cartref gofal ger Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Ddydd Mawrth, gallai'r Cabinet gytuno ar y diwygiadau dros dro i'r gwasanaeth cartrefi gofal preswyl drwy'r cynigion Ystrad Fechan a Pharc Newydd. Roedd modd i Aelodau hefyd gytuno i dderbyn adroddiad yn hydref 2022, sy'n nodi opsiynau moderneiddio ar gyfer buddsoddiad yng ngwasanaethau preswyl y Cyngor. Byddai cynigion buddsoddi pellach ac unrhyw newidiadau parhaol i ddarpariaeth y gwasanaeth yn cael eu hystyried ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth, staff a phreswylwyr.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r adroddiad i Aelodau o’r Cabinet yr wythnos nesaf yn ceisio ymateb i bwysau uniongyrchol ar wasanaethau, gan gynnwys y galw presennol am y gwasanaeth, a'r nifer o breswylwyr yn ein cartrefi gofal.

“Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod y galw isel am ofal preswyl traddodiadol, a welwyd yn flaenorol yn ffigurau 2020, wedi parhau. Mae swyddogion felly wedi cyflwyno argymhellion a fydd, yn y tymor byr, yn gwella sefydlogrwydd ac yn ymateb i heriau denu gweithwyr a staffio sydd i'w gweld ar draws y sector. Mae’r trefniadau dros dro sy'n cael eu cynnig yn cynnwys atal gwasanaethau yng nghartref gofal Ystrad Fechan – ac yna edrych ymlaen at y gwasanaeth a fydd yn cael ei chynnig dros y tymor hir, cynigir cynnal adolygiad gwasanaeth cynhwysfawr, gan gynnwys opsiynau i foderneiddio.

“Bydd yr wyth preswylydd sy'n byw yn y cartref gofal yma'n cael cynnig symud i gartref gofal arall sy'n diwallu eu hanghenion a aseswyd. Byddai staff hefyd yn cael cynnig symud i'r ddarpariaeth newydd gyda'r preswylwyr. Byddai'r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i gefnogi preswylwyr, eu teuluoedd a staff drwy gydol y cyfnod o newid.

“Mewn perthynas â’r cynnig ar gyfer Cartref Gofal Parc Newydd, byddai’r cynllun yn cael ei gynllunio i leihau derbyniadau brys i’r ysbyty y mae modd eu hosgoi, gwella llif cleifion drwy’r system gofal brys, a hybu adfer annibyniaeth person hŷn ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty.

“Mae cynlluniau i foderneiddio’r ddarpariaeth bresennol ar draws cartrefi gofal y Cyngor wedi eu cynnwys yn rhan o’n trafodaethau'r wythnos nesaf. Cytunodd yr Aelodau ar hyn ym mis Rhagfyr 2020 yn wreiddiol, yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i wella a chynyddu'r opsiynau preswyl i bobl hŷn. Os cytunir arnyn nhw, bydd yr opsiynau manwl yma'n eu cwblhau gan swyddogion a'u hystyried mewn cyfarfod Cabinet yn ddiweddarach eleni.

“Mae'r newidiadau dros dro i'w hystyried yr wythnos nesaf yn angenrheidiol i ymateb i'r pwysau uniongyrchol ar y gwasanaeth. Mae’n amlwg bod yr angen a'r galw am wasanaethau'r sector gofal yn newid yn dilyn y pandemig, a bydd angen i ni yn y Cyngor ystyried siâp y gwasanaethau dros y tymor canolig er mwyn ymateb i hyn.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cytunodd y Cabinet (yn dilyn adolygiad cynhwysfawr ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid) y dylai'r Cyngor gadw naw o'i 11 cartref gofal, gan ailffocysu ar anghenion cymhleth. Cytunwyd y byddai Dan y Mynydd yn y Porth yn cael ei drawsnewid yn safle Gofal Ychwanegol y Porth, ac y byddai Bronllwyn yn Ngelli yn cael ei ailddatblygu yn llety arbenigol ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu. Byddai moderneiddio'r cartrefi gofal sydd wedi'u cadw yn cael ei amlinellu mewn adroddiad sydd i ddod.

Roedd adborth allweddol o’r ymgynghoriad, a lywiodd y penderfyniad yma, yn cynnwys bod cartrefi gofal y Cyngor yn boblogaidd, wedi gwasanaethu eu cymunedau’n dda, ac yn darparu safon dda o ofal gan staff ymroddedig. Roedd hefyd yn amlwg bod y galw am ofal preswyl traddodiadol yn gostwng. Adlewyrchwyd hyn yn y ffigurau'n dangos bod nifer y preswylwyr bellach yn 53% ar draws cartrefi gofal y Cyngor ym mis Medi 2020, i lawr o 98% ym mis Mawrth 2016.

Mae mynediadau parhaol yn cael eu cyfyngu oherwydd y pandemig, ac wrth aros am ganlyniad yr adolygiad o gartrefi gofal. Mae'r rhain hefyd wedi arwain at ostyngiad mawr yn y niferoedd o breswylwyr. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n cael eu cefnogi i fyw yn eu cartrefi eu hunain, ac yn cael eu rhoi mewn gofal dementia a gofal nyrsio.

Dywed yr adroddiad fod tystiolaeth glir bod gorddarpariaeth o welyau cartrefi gofal yn Rhondda Cynon Taf yn parhau. Mae 53% o welyau cartrefi gofal y Cyngor yn cael eu defnyddio ar gyfartaledd.

Wedi ei bostio ar 13/07/22