Skip to main content

Gwaith uwchraddio goleuadau stryd ym mis Awst - Heol Caerffili (A468)

Streetlights on Nantgarw Hill will be replaced

Bydd gwaith amnewid 26 o oleuadau stryd ar Fryn Nantgarw yn dechrau’r wythnos nesaf. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal drwy gydol mis Awst. Mae hyn yn golygu y bydd angen cau un lôn i'r ddau gyfeiriad yn ystod y dydd - y tu allan i oriau brig ac yn ystod gwyliau’r ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr y ffordd.

Bydd gwaith y cynllun yn cael ei gynnal ar yr A468, Heol Caerffili, gan ddechrau ddydd Llun, 1 Awst, o'r goleuadau traffig cyntaf i'r gogledd ddwyrain o'r A470, heibio safle GE Aviation, hyd at y cylchfan nesaf i gyfeiriad Caerffili. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng 9.30am a 3.30pm (dydd Llun i ddydd Gwener) am hyd at bedair wythnos. Bydd lonydd allanol y ffordd ddeuol yn cau yn ystod oriau gwaith.

Mae angen cynnal y gwaith yma oherwydd bod y goleuadau stryd presennol wedi cyrraedd diwedd eu hoes dylunio. Mae pyst a bracedi'r colofnau wedi dioddef cyrydiad sylweddol ac mae angen cynnal y gwaith er mwyn sicrhau nad yw hyn yn peri risg yn y dyfodol.

Mae'n bosibl y bydd cau'r lonydd yma'n arwain at dagfeydd ar Fryn Nantgarw, yn ogystal â'r priffyrdd cyfagos.  Nid oes modd i'r Cyngor gynnal yr holl waith gyda'r nos oherwydd y nifer sylweddol o eiddo preswyl yn yr ardal gyfagos. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn gweithredu sifftiau unigol gyda'r nos. Mae arwyddion sy'n rhoi gwybod i ddefnyddwyr y ffordd am y gwaith arfaethedig eisoes wedi cael eu gosod.

Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Bydd y cynllun yma ar Fryn Nantgarw yn cynnwys gwaith pwysig i adnewyddu colofnau goleuadau stryd ar ran sylweddol o'r ffordd i’r naill ochr o safle GE Aviation. Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal yn rhan o raglen adnewyddu goleuadau stryd y Cyngor. Mae £200,000 wedi'i neilltuo ar gyfer gwaith wedi'i dargedu yn 2022/23. Dros y blynyddoedd diwethaf, cafodd pob bwlb yn ein goleuadau stryd ei hamnewid ar gyfer bylbiau LED er mwyn lleihau ein defnydd ynni a chyfrannu at ein hymrwymiadau o ran Newid yn yr Hinsawdd.

“Bydd gwaith sy'n cael ei gynnal ar Fryn Nantgarw o 1 Awst yn cael ei gynnal y tu allan i'r oriau brig gyda'r bore a'r nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr y ffordd - mae'r gwaith hefyd yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r haf gan y bydd llai o gerbydau ar y ffyrdd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o aflonyddwch nad oes modd ei osgoi yn ystod oriau gwaith, gan y bydd un lôn ar gau yn ystod y cyfnod yma. Hoffwn i ddiolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith."

Bydd y cynllun yma'n dilyn gwaith tebyg a gafodd ei gwblhau rhwng 25 a 26 Gorffennaf i osod goleuadau stryd newydd yn Heol Abercynon, Glyn-coch.

Wedi ei bostio ar 29/07/2022