Skip to main content

Cynigion ar gyfer datblygu llety gofal arbenigol yn y Gelli

An artist impression of the proposed new specialist accommodation for the Bronllwyn Care Home site

Bydd y Cabinet yn trafod cynlluniau i ddarparu llety gofal arbenigol newydd i bobl ag anableddau dysgu ar hen safle Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn yn y Gelli, a hynny yn rhan o waith moderneiddio ehangach darpariaeth gofal preswyl y Cyngor.

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 18 Gorffennaf, bydd yr Aelodau’n ystyried cynnig i ailddatblygu’r safle, pecyn ariannu ar gyfer y buddsoddiad, a chynnwys y cynllun yn rhan o raglen gyfalaf ehangach y Cyngor i foderneiddio ei gyfleusterau gofal preswyl, a gafodd ei gytuno ddiwedd 2020.

Gallai’r Cabinet hefyd gytuno ar newidiadau cysylltiedig angenrheidiol oherwydd y datblygiad, gan gynnwys parhau â threfniadau gofal a chymorth amgen ar gyfer defnyddwyr blaenorol y ganolfan oriau dydd, sydd ar gau ar hyn o bryd – hyd nes y bydd y cyfleuster oriau dydd newydd i bobl hŷn yn agor yn rhan o gynllun Gofal Ychwanegol Porth yn gynnar yn 2024. Bydd hyn yn golygu y bydd modd cau Canolfan Oriau Dydd Bronllwyn yn barhaol er mwyn ailddatblygu'r safle.

Ym mis Rhagfyr 2020, cytunodd y Cabinet i ddadgomisiynu Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn ac ystyried datblygiad newydd yn ei le. Bydd y datblygiad newydd yn darparu llety arbenigol i helpu oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu, gan fod anghenion a galw am y ddarpariaeth yma'n newid. Doedd neb yn byw yn y cartref gofal pan gafodd ei ddadgomisiynu.

Yn ôl adroddiad sydd ar ddod i'r Cabinet, mae cwmni Quattro Design Architects wedi’i gomisiynu i weithio ar ddyluniad y datblygiad arfaethedig. Bydd yr Aelodau'n ystyried y manylion yma. Byddai'r cyfleuster newydd yn golygu dymchwel yr adeiladau sydd eisoes ar y safle ac adeiladu 14 o ystafelloedd ag ystafelloedd ymolchi a fydd yn hawdd i bobl anabl eu defnyddio, gan ddarparu amgylchedd diogel i breswylwyr.

Byddai'r cyfleuster yn cynnwys tair ystafell gymunedol ar gyfer gweithgareddau oriau dydd, dwy ystafell synhwyraidd, dwy ystafell ymolchi â chymorth, cegin fasnachol, gardd awyr agored breifat a pharcio ar y safle. Byddai digon o le hefyd ar gyfer staff cymorth i fod yno fore gwyn tan nos. Bydd darluniau'n cael eu cynnwys yn rhan o'r wybodaeth a gaiff ei rhannu â'r Cabinet, er y bydd dyluniad y datblygiad yn destun adolygiad pellach.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod y dyluniad yn fodern ac arloesol, a hynny er mwyn gwneud y gorau o botensial y safle a'r gwasanaethau gofal sydd eu hangen i helpu pobl ag anableddau dysgu yn effeithlon. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar bobl hŷn ag ymddygiadau cymhleth, a hynny er mwyn diwallu eu hanghenion wedi'u hasesu yn barhaol.

Byddai’r cyfleuster newydd yn cynrychioli buddsoddiad amcangyfrifedig gwerth £4.979 miliwn. Mae £100,000 o’r arian yma, ar gyfer arolygon a gwaith dylunio cychwynnol gan benseiri, eisoes wedi dod oddi wrth Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru yn 2021/22. Mae'r adroddiad yn ychwanegu y gallai'r Cyngor wneud cais am weddill y cyllid (£4.879 miliwn) ym mis Gorffennaf 2022 oddi wrth Gronfa Integreiddio ac Ailgydbwyso Gofal Llywodraeth Cymru.

Os bydd Aelodau’r Cabinet yn cytuno ag argymhellion yr adroddiad, mae'n debyg y bydd ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn cael ei gynnal ym mis Awst 2022 er mwyn i’r gymuned ddysgu rhagor am y cynllun a dweud eu dweud ar y dyluniadau. Gallai cais cynllunio llawn gael ei gyflwyno ym mis Hydref, ac yn amodol ar ganiatâd cynllunio, gallai’r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Mawrth 2023.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Cyn bo hir bydd y Cabinet yn trafod cynigion i’r Cyngor ailddatblygu safle Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn yn llety gofal arbenigol newydd sbon ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae hyn yn dilyn cytundeb blaenorol gan y Cabinet yn 2020 i ddadgomisiynu’r cartref gofal, lle doedd neb yn byw ar y pryd, a chyflwyno cynnig ailddatblygu wedi’i gostio, sef yr hyn y bydd yr Aelodau’n ei ystyried yr wythnos nesaf.

“Byddai’r ailddatblygiad arfaethedig ar gyfer y safle yn y Gelli yn helpu i fodloni'r galw presennol a’r galw yn y dyfodol, gan fod mwy o bobl yn byw’n hirach ac mae gyda nhw fwy o anghenion gofal a chymorth cymhleth. Mae galw cynyddol am ddarpariaeth o'r fath wedi'i nodi. Mae diffyg o ran y math yma o lety arbenigol yn lleol lle mae modd ei deilwra i anghenion pobl hŷn ag anableddau dysgu.

“Mae’r cynlluniau sydd i’w hystyried gan y Cabinet yn nodi'r cynigion o’r radd flaenaf sy’n cael eu cyflwyno, sef datblygiad modern sy’n cynnwys 14 o ystafelloedd ag ystafelloedd ymolchi a’r cyfleusterau diweddaraf i gefnogi’r cymorth sydd ar gael ar y safle o fore gwyn tan nos. O ran ethos, mae hyn yn debyg iawn i'n datblygiadau gofal ychwanegol sydd wedi darparu’r cyfleusterau gofal preswyl gorau posib yn Aberaman a Phontypridd. Byddai'r llety gofal arbenigol newydd yn y Gelli yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £4.979 miliwn ac, os bydd y Cabinet yn cytuno â'r cynigion, byddai'r Cyngor yn mynd ati i geisio cyllid penodol oddi wrth Lywodraeth Cymru.

“Mae’n bwysig nodi hefyd, er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleoedd y safle a darparu llety gofal o safon uchel, byddai angen cau’r ganolfan oriau dydd ym Mronllwyn yn barhaol. Os caiff hyn ei gytuno, byddai’r Cyngor yn parhau i gynnig ei lefel bresennol o ofal a chefnogaeth i’r trigolion hynny a fynychodd y ganolfan oriau dydd cyn y pandemig, hyd nes bod modd cynnig y cymorth hwnnw yng nghyfleuster gofal ychwanegol newydd Porth o 2024 ymlaen.”

Byddai Canolfan Oriau Dydd Bronllwyn, sydd ar gau dros dro ar hyn o bryd, yn cau'n barhaol os bydd y Cabinet yn cytuno i symud ymlaen â'r llety gofal arbenigol newydd ar gyfer y safle. Roedd 26 o bobl yn mynychu’r gwasanaeth oriau dydd o bob rhan o ardal Cwm Rhondda cyn y pandemig ym mis Mawrth 2020. Mae’r ganolfan oriau dydd wedi aros ar gau ers dechrau’r pandemig, ac eithrio ei hagor dri diwrnod yr wythnos rhwng mis Awst 2021 a mis Rhagfyr 2021.

Yn seiliedig ar asesu angen a risg, mae'r Cyngor wedi sicrhau bod rhai pobl, lle bo'n briodol, wedi trosglwyddo i Ganolfan Oriau Dydd Tonyrefail ar gyfer gwasanaethau oriau dydd, tra bod eraill wedi cael cynnig gofal amgen yn eu cartrefi eu hunain.

Wedi ei bostio ar 13/07/22