Skip to main content

Ysgol newydd i blant 3–16 oed ar gyfer y Ddraenen Wen yn derbyn caniatâd cynllunio

The Hawthorn school development depicted in an artist impression

Mae caniatâd cynllunio bellach wedi'i roi i ddatblygu safle Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen erbyn 2024 – dyma garreg filltir bwysig o ran darparu cyfleusterau addysg newydd o'r radd flaenaf, gwerth miliynau o bunnoedd, ar gyfer staff a disgyblion.

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau, 7 Gorffennaf, cymeradwyodd yr Aelodau'r cais yn unol ag argymhellion swyddogion. Roedd adroddiad y swyddog i'r cyfarfod yn nodi bod egwyddor y datblygiad yn cydymffurfio â pholisi ac ystyriaethau cynllunio, ac yn gyson â nod y Cyngor i wella darpariaeth addysg yn Rhondda Cynon Taf gyda chyfleusterau addas i'r 21ain Ganrif.

Mae'r cais yn cynnwys dymchwel tri adeilad (tŷ'r gofalwr, prif adeilad yr ysgol uwchradd ac un adeilad arall), adeiladu adeilad newydd sbon sy’n addas i'r 21ain ganrif yn eu lle, ac adnewyddu adeiladau eraill ar y safle. Mae gwelliannau allanol yn y cynlluniau hefyd yn cynnwys maes parcio newydd i staff, maes parcio i fysiau a man gollwng disgyblion.

Bydd gan yr adeilad newydd ddau lawr a bydd yn cael ei adeiladu yn union i'r de o adeilad presennol yr ysgol gynradd, ac wedi’i gysylltu ag e. Bydd e'n cynnwys 11 ystafell ddosbarth ar y llawr gwaelod ac 16 ystafell ddosbarth ar y llawr cyntaf, a bydd yn cynnwys mannau ategol megis ystafell athrawon, swyddfeydd, derbynfa, toiledau, ystafell therapi, llyfrgell, ystafell TGCh, ystafelloedd cyfarfod, mannau Cerddoriaeth a Dylunio a Thechnoleg, ystafelloedd hylendid, ystafelloedd aml-ddefnydd a mannau storio.

Bydd gwaith datblygu'r ysgol yn anelu at weithredu mewn modd Carbon Sero Net, yn ogystal â chyflawni achrediad Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) a bodloni targedau Llywodraeth Cymru yn y maes.

Bydd mynediad presennol y safle ar Lôn yr Ysgol yn cael ei ailgynllunio er mwyn caniatáu mynediad i fannau parcio newydd ar draws y safle. Bydd cyfanswm o 35 o fannau parcio newydd i ymwelwyr ar gael, ynghyd ag 17 o fannau parcio i’r gymuned ger y pwll nofio fydd ar gael i staff, ac yna i'r gymuned ehangach y tu allan i oriau'r ysgol. Mae 84 o fannau parcio eraill i staff a chwe chilfach i fysiau wedi'u cynnwys yn y cynlluniau.

Bydd dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd yn cael eu hadeiladu i ategu'r cyfleuster presennol sydd gan yr ysgol, tra bydd y cae chwarae pob tywydd yn cael ei gadw. Bydd llwybr cynnal a chadw yn cael ei osod rhwng y cae ac adeilad newydd yr ysgol. Bydd plaza newydd yn cael ei greu i'r de a'r de-ddwyrain o'r adeilad newydd, tra bydd mannau addysgu anffurfiol dan do yn cael eu gosod yn yr awyr agored ar draws y safle.

Yn ogystal â hyn, dywedodd swyddogion y byddai ymgynghoriad manwl yn cael ei gynnal yn rhan o broses Menter Llwybrau Diogel i'r Ysgol, lle bydd galwad am gyngor cydweithwyr yn yr adran Briffyrdd mewn perthynas â materion diogelwch priffyrdd penodol.

Ychwanegodd swyddogion y byddai 35 man parcio ar gael mewn tri lleoliad o flaen safle'r ysgol, i ffwrdd o'r llif o ddisgyblion fydd yn cerdded. Fe wnaethon nhw ychwanegu na fyddai cael cerbydau yn bacio i mewn ac allan o fannau parcio yn wahanol i unrhyw faes parcio arall, mewn ymateb i bryder am y mater. Daeth swyddogion i'r casgliad y byddai'r datblygiad newydd yn gwella trefniadau o ran casglu/gollwng yn sylweddol, ac maen nhw'n ystyried y drefn newydd yn un sydd â risg isel.

Bydd yr ysgol i blant 3–16 oed yn croesawu disgyblion presennol Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen, a disgyblion ffrwd Saesneg Ysgol Gynradd Heol y Celyn, o 2024.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Rwy'n falch iawn bod buddsoddiad y Cyngor mewn cyfleusterau newydd ar gyfer staff a disgyblion, sy'n werth miliynau o bunnoedd, wedi derbyn caniatâd cynllunio – bydd modd trawsnewid safleoedd presennol Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen yn amgylchedd addas i'r 21ain ganrif. Bydd yn cynyddu cyfleoedd i bobl ifainc o ran eu haddysg ac yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf y gall y gymuned gyfan fod yn falch ohonyn nhw.

"Mae gan y Cyngor hanes cryf iawn o ddarparu cyfleusterau addysg newydd sbon ar y cyd â Llywodraeth Cymru, ac mae'r bartneriaeth yma'n symud ymlaen â buddsoddiad Band B o £252 miliwn drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Bydd prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar safleoedd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Rhydywaun yn cael eu cwblhau mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.

"Bydd y buddsoddiad o £72m ar draws Pontypridd yn rhan o'r rhaglen Band B yn darparu cyfleusterau ysgol newydd sbon i ddisgyblion yn y Ddraenen Wen, Rhydfelen, Beddau a Chilfynydd yn 2024, tra bod cynlluniau adeiladau ysgol newydd hefyd ar waith ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, Ysgol Gynradd Maes-y-bryn ac Ysgol Gynradd Tonysguboriau.

"Yng nghyfarfod cynllunio dydd Iau, esboniodd swyddogion y bydd y drefn newydd ar y safle o ran parcio a mynediad i'r ysgol yn welliant sylweddol i'r trefniadau presennol. Yn ogystal â hyn, cadarnhaodd y swyddogion y bydd materion penodol yn ymwneud â phriffyrdd yn cael sylw yn dilyn asesiad trylwyr Menter Llwybrau Diogel i'r Ysgol, gyda gwaith gwella'n cael ei gynnal cyn i'r ysgol newydd i blant 3–16 oed agor. Dyma broses naturiol ar gyfer pob datblygiad ysgol a bydd hi'n sicrhau'r amgylchedd mwyaf diogel posibl.

"Nawr bod caniatâd cynllunio wedi’i roi, bydd y Cyngor yn gwneud cynnydd tuag at gwblhau'r ysgol newydd i blant 3–16 oed, ac rydw i'n edrych ymlaen at ddilyn y broses yma wrth i ni ddod â chyfleusterau newydd sbon i ddisgyblion yn y Ddraenen Wen erbyn 2024." 

Wedi ei bostio ar 13/07/2022