Skip to main content

Cytuno ar gynyddu cyfraddau cyflog staff y Cyngor sy'n ennill llai

Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw sy'n mynd rhagddo ac yn dilyn adolygiad o'i strwythur graddfeydd cyflog, mae'r Cyngor wedi cymeradwyo cynigion pwysig i gynyddu cyfraddau cyflog fesul awr ei staff sy'n ennill llai.

Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ddydd Mercher 6 Gorffennaf roedd Aelodau Etholedig wedi ystyried adroddiad gan swyddogion a oedd yn argymell eu bod nhw'n cytuno i gynyddu’r cyfraddau cyflog ar gyfer Graddau 1 i 5 yn strwythur graddfeydd cyflog y Cyngor, gyda hynny'n dod i rym o 1 Awst 2022. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig ailgyflwyno tâl dwbl ynghyd â diwrnod yn gyfnewid am unrhyw wyliau statudol mae staff yn eu gweithio, eto o 1 Awst 2022. Cytunodd yr Aelodau Etholedig ar y ddau gynnig.

Mae’r Cyngor wedi bod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol ers peth amser. Mae'r cyflog hwnnw wedi’i osod ar hyn o bryd ar £9.90 yr awr. Serch hynny, o fis Ebrill 2022 aeth y Cyngor y tu hwnt i'r ymrwymiad yma, gan gyflwyno isafswm taliad o £10 yr awr, gan godi Graddau 1 i 4 strwythur graddfeydd cyflog y Cyngor i'r lefel yma.

Gyda'r pedair gradd yma bellach yn ennill yr un cyflog, a'r gwahaniaeth rhwng Graddau 4 a 5 wedi lleihau o ganlyniad i'r ymrwymiad i isafswm cyflog newydd o £10, cytunodd y Cyngor i adolygu ei raddau cyflog isaf.

Roedd adroddiad dydd Mercher i'r Cyngor Llawn wedi amlinellu canlyniad yr adolygiad yma, a ddaeth i'r casgliad mai'r opsiwn mwyaf teg yw cynyddu cyflog staff ar Raddau 1 i 5 un lefel ar raddfa gyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol (NJC).

Mae hyn yn golygu bydd cyflog yr awr staff y Cyngor ar Radd 4 yn codi o £10 i £10.19, a staff ar Radd 5 o £10.39 i £10.81.

Bydd y newidiadau yma'n golygu codiad cyflog i 2,351 o weithwyr. Bydd aelod o staff Gradd 5 yn cael cynnydd o tua £808, a bydd y rhai sydd hefyd yn gweithio ar wyliau'r banc yn cael cynnydd o tua £1,200.

Bydd staff ar Raddau 1 i 3 yn dal i ennill yr isafswm cyflog o £10. Byddai hyn yn cynyddu yn sgil cytuno ar unrhyw ddyfarniad cyflog cenedlaethol yn y dyfodol a chodiad i’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn adroddiad y Cyngor Llawn o'i gyfarfod ddydd Mercher.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydyn ni'n deall bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bob cartref, a bod costau cynyddol nwy, trydan, nwyddau, petrol, ac ati yn effeithio mwy ar y rheiny sy’n ennill cyflog is. Dyma gyfnod anodd iawn i rai pobl, ac mae'r Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddod o hyd i ffyrdd o'u helpu.

“Yn flaenorol, ymrwymodd y Cyngor yma i fod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol. Yna, ym mis Ebrill, cytunodd i fynd y tu hwnt i hyn gan osod ei gyflog isaf ar £10 yr awr. Yn ogystal â hyn, ar ôl cynnydd dros dro yng nghyfradd y filltir o 35c i 45c ar gyfer holl staff y Cyngor sy’n defnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer dyletswyddau gwaith, a gafodd ei ôl-ddyddio i fis Mawrth 2022, cytunodd Aelodau’r Cabinet yn ddiweddar i gymeradwyo'r cynnydd yma'n barhaol.

“Roedd yr adroddiad a gafodd ei ystyried gan y Cyngor Llawn ddydd Mercher wedi cyflwyno argymhellion swyddogion yn dilyn adolygiad diweddar o strwythur cyflogau'r Cyngor. Bydd y newidiadau a gafodd eu cynnig i'w hystyried ac yna eu cymeradwyo yn golygu bod cyflog sylfaenol y pum gradd isaf yn cynyddu. Mae hyn yn golygu byddai cyflog cyfredol £10 yr awr staff Graddau 1 i 3 yn aros fel y mae. Mae'r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i'r isafswm cyflog yma.

“Bydd y newidiadau yma hefyd yn golygu bod cyflogau Gradd 4 yn codi uwchlaw’r isafswm cyflog o £10 yr awr, a byddai cyflogau Gradd 5 yn codi hefyd. Byddai hyn yn golygu codiad cyflog i fwy na 2,300 o staff y Cyngor. Byddai hyn yn costio £1.6 miliwn dros flwyddyn gyfan, a bydd yn cael ei gynnwys yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor. Rwy’n falch bod Aelodau Etholedig wedi cytuno i’r newidiadau yma, a fydd yn dod i rym o fis Awst 2022 ymlaen.”

Wedi ei bostio ar 08/07/2022