Skip to main content

Newid i drefniadau traffig er mwyn cynnal gwaith atgyweirio parhaus i waliau yn Llantrisant

Works continue to repair the retaining wall at High Street in Llantrisant

Bydd y trefniadau traffig dros dro presennol ar Stryd Fawr Llantrisant yn newid o nos Sul. Mae hyn yn dilyn cais gan fusnesau lleol i wella mynediad ac, nawr bod tymor arholiadau'r ysgol bellach ar ben, mae'n bosibl.

Mae'r Cyngor yn parhau i wneud atgyweiriadau hanfodol a brys i'r wal fawr ar y Stryd Fawr ar ôl iddi ddirywio. Mae contractwyr arbenigol yn gweithio i ailadeiladu ac atgyweirio'r wal yn rhannol – proses fydd yn cymryd llawer o amser sy'n cael ei chymhlethu oherwydd y strwythurau eraill gerllaw.

Mae trefn draffig unffordd (tua'r de, i lawr y bryn) wedi bod ar waith i sicrhau diogelwch, yn enwedig i gerddwyr ar hyd y Stryd Fawr. Mae'r system unffordd tua'r de wedi'i sefydlu fel y mesur fydd yn tarfu lleiaf o ystyried popeth. Un rheswm yw y byddai'n anodd iawn cynnal cludiant o'r cartref i'r ysgol pe bai'r system unffordd yn rhedeg i'r cyfeiriad arall.

Fodd bynnag, gyda thymor arholiadau'r ysgol wedi dod i ben a niferoedd is bellach yn teithio, mae'n bosibl i'r system unffordd gael ei newid i'r cyfeiriad arall (tua'r gogledd). Mae busnesau wedi gofyn am hyn i wella mynediad i siopau lleol ac annog mwy o bobl i Hen Dref Llantrisant.

Felly, o tua 10pm ddydd Sul, 10 Gorffennaf, bydd y system unffordd yn cael ei newid i weithredu tua'r gogledd (i fyny'r bryn) yn unig.

Llwybr arall i yrwyr sy'n teithio i'r cyfeiriad arall (tua'r de) yw drwy'r Stryd Fawr, Heol-y-Sarn, Ffordd Fynediad Parc Busnes Llantrisant, yr A4119 a Heol Talbot. Bydd arwyddion clir yn nodi'r llwybr yma.

Sylwch y bydd llwybrau gwasanaethau bysiau lleol – yn ogystal â'r llwybr y bydd y gwasanaeth bws gwennol am ddim rhwng Gorsaf Fysiau Tonysguboriau a Hen Dref Llantrisant yn ei gymryd – yn cael eu diwygio, gan ddod i rym o fore Llun (11 Gorffennaf).

Bydd Gwasanaeth rhif 100 Edwards tua’r gogledd (Pontypridd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg) a Gwasanaeth rhif 404 NAT Group (Pontypridd i Borthcawl) yn mynd ar hyd y Stryd Fawr a Hen Lantrisant, yna'n dilyn eu gwasanaeth arferol i Bontypridd. Tua'r de, byddan nhw'n dargyfeirio o Sgwâr Beddau drwy Heol Gwaunmeisgyn, Ffordd Llantrisant, A473, A4119 a Heol Talbot i Orsaf Fysiau Tonysguboriau. Fydd yr arosfannau ger Tafarn Wheatsheaf ddim yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau diogelwch.

Bydd y gwasanaeth bws gwennol am ddim sy'n cael ei gynnal gan Edwards Coaches yn rhedeg o Sgwâr Beddau, Lôn Brynteg, Dancaerlan, Llety Gwarchod Gwaun Rhiw'r Perrai, y Comin, Ysbyty Brenhinol Morgannwg a Gorsaf Fysiau Tonysguboriau – ar gyfer teithio ymlaen i rywle arall. Sylwch y bydd amseroedd bysiau gwennol yn aros yr un fath (dwywaith yr awr rhwng 10am a 4pm bob dydd).

Oherwydd cymhlethdod parhaus y cynllun, does dim modd i'r Cyngor amcangyfrif dyddiad cwblhau eto. Hoffem ddiolch i'r gymuned am eu cydweithrediad parhaus.

Wedi ei bostio ar 08/07/2022