Skip to main content

Galw am Safleoedd Ymgeisiol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig

The Council is working towards revising the current LDP to cover the period 2022 to 2037

Mae’r Cyngor wrthi'n diwygio'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol i gynnwys y cyfnod 2022 i 2037 – ac mae bellach yn gwahodd y cyhoedd i gynnig tir neu adeiladau i’w cynnwys yn y cynllun diwygiedig.

Mae'r CDLl yn ddogfen statudol ar gyfer cynllunio defnydd tir sy'n pennu gweledigaeth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, gan ddyrannu tir i'w ddatblygu a'i ddefnyddio at ddibenion tai, cyflogaeth, manwerthu a thwristiaeth. Byddai'r cynllun diwygiedig yn cynnwys cyfnod o 15 mlynedd hyd at 2037.

Mae modd darllen rhagor o wybodaeth am y broses o ddiwygio'r CDLl yma

Mae polisïau pwysig sy'n ceisio diogelu'r amgylchedd, cynyddu'r nifer o fannau gwyrdd cyhoeddus, a lleihau allyriadau carbon gan annog cynhyrchu ynni adnewyddadwy addas, wedi'u cynnwys yn rhan o'r CDLl. Mae'n chwarae rhan flaenllaw wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno i'r Cyngor.

Mae'r broses bellach wedi cyrraedd y cam Galw am Safleoedd Ymgeisiol, lle mae'r Cyngor yn gwahodd unigolion i gynnig tir neu adeiladau i'w cynnwys yn y Cynllun diwygiedig. Bydd y safleoedd fydd yn cael eu cynnig yn cael eu hystyried, ac os ydyn nhw'n addas byddan nhw'n cael eu cynnwys yn y Cynllun fel safleoedd derbyniol mewn egwyddor.

Mae modd i unrhyw drigolyn gyflwyno safle, gan gynnwys perchnogion tir a datblygwyr preifat, a hynny at ystod o ddefnyddiau. Mae'r Cyngor wedi llunio canllawiau manwl a fydd yn eich helpu chi gyda'r broses. Maen nhw ar gael yma.

Dechreuodd y Cyngor y cam Galw am Safleoedd Ymgeisiol ar ddiwedd mis Mehefin 2022, a bydd y broses ar agor tan ddydd Gwener 30 Medi.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter a Datblygu: "Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn bwrw ymlaen â’r broses ffurfiol o ddiwygio’r Cynllun Datblygu Lleol, a fydd yn cael ei ymestyn i gynnwys cyfnod o 15 mlynedd hyd at 2037. Mae'r broses 'Galw am Safleoedd Ymgeisiol' yn gofyn i'r cyhoedd gynnig tir neu adeiladau a fydd yn cael eu hystyried i'w cynnwys yn y Cynllun diwygiedig. Mae modd i berchnogion tir preifat a pherchnogion adeiladau, ynghyd â'r Cyngor a Chynghorau Tref a Chymuned gyflwyno safleoedd, ble y bo'n addas. Bydd y rhai sy'n cael eu hystyried yn addas yn cael eu rhestru ar gofrestr o safleoedd posibl a'u cyflwyno i’r cyhoedd yn rhan o ymgynghoriad yn y dyfodol.

"Mae'r CDLl yn ddogfen bwysig iawn sy’n dyrannu tir ar gyfer datblygu, a bydd y Cynllun diwygiedig y mae’r Cyngor yn ei greu yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ar bob cais cynllunio dros y 15 mlynedd nesaf. Bydd y rhain yn amrywio o faterion sy'n ymwneud â thai, cyflogaeth a chyfleoedd manwerthu yn ein cymunedau lleol. Mae'r Cynllun yn cynnwys ystyriaethau pwysig, megis ardaloedd o bwysigrwydd ecolegol ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.

"Mae ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd drwy gydol y broses o adolygu'r CDLl yn elfen statudol bwysig. Mae'r Cyngor eisiau ymgysylltu â chynifer o bobl â phosibl gan gynnwys trigolion, datblygwyr ac ymgyngoreion statudol, i geisio'u barn nhw am ddatblygiadau lleol yn eu cymunedau. Mae Galw am Safleoedd Ymgeisiol yn cynrychioli cam cyntaf y broses ymgysylltu yma, ac mae croeso i bob trigolyn gymryd rhan hyd at ddiwedd Medi 2022."

Wedi ei bostio ar 14/07/22