Skip to main content

Cegaid o Fwyd Cymru, yn ôl yn 2022.

BWB-Cooking

Rydych chi'n gwybod bod yr haf wedi cyrraedd pan mae'n gwesteion ni ar gyfer Cegaid o Fwyd Cymru ym Mharc Coffa Ynysangharad wedi'u cadarnhau. 

Mae'r achlysur poblogaidd yma'n dychwelyd ar 6 a 7 Awst ac yn dathlu'r fraint o fyw yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y dathliadau'n cynnwys sioeau ac arddangosfeydd arena am ddim, arddangosiadau coginio gyda chogydd enwog, amrywiaeth eang o fwyd, diod a danteithion i'w blasu a'u prynu, a llawer mwy - a'r cyfan i gyd ynghanol harddwch y parc! 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Hir pob aros, ond rydyn ni wrth ein boddau i groesawu'n hachlysur unigryw, Cegaid o Fwyd Cymru, yn ôl yn 2022. 

"Mae'n dilyn llwyddiant ysgubol Gŵyl Aberdâr, yn dod â hyd yn oed mwy o hwyl ac adloniant teuluol i'n mannau awyr agored hyfryd. 

"Cegaid o Fwyd Cymru yw un o'n hachlysuron mwyaf poblogaidd yn Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni'n falch iawn bod cynhyrchwyr bwyd a diod lleol yn dod i ymuno â ni - gan gynnwys ambell i fragdy o'r fro - i ddangos yr hyn sydd ganddyn nhw i'w gynnig i'r cyhoedd.  Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi!" 

Bydd yr achlysur ar agor ddydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 11am a 5pm ac yn cynnwys perfformiadau arena byw gan 

  • Sioe Styntiau Beiciau Modur Savage Skills
  • Arddangosiadau a thriciau Parkour
  • Sioeau ac arddangosiadau adar prydferth gan Black Mountains Falconry 
  • Hel hwyaid gyda chŵn defaid 

Bydd fferm anwesu anifeiliaid yn y parc hefyd, ynghyd â phentref lles, yn ogystal â hynny i gyd, bydd Nerys Howell yn ymuno â'n cogydd Geoff Tookey i wneud arddangosiad byw. Mae Nerys wedi cyhoeddi ystod o lyfrau coginio dwyieithog yn dangos sut i wneud y mwyaf o'r holl gynyrch blasus lleol y mae modd ei fwynhau yng Nghymru. 

Cadwch lygaid allan am y mascots poblogaidd Peach a Tomato, y cogydd ar stiltiau a'n ffrindiau newydd ni, y Gwenyn Prysur. 

Ar ôl mwynhau'r holl hwyl ac adloniant am ddim, mwynhewch gegaid o fwyd Cymru, neu ewch â danteithion gartref gyda chi - bydd amrywiaeth eang o stondinau bwyd a diod yno. Efallai y byddwch chi'n hoffi ymweld â'r ffair hefyd (bydd raid talu i fynd ar y reidiau). 

Wrth gwrs, mae Parc Coffa Ynysangharad hefyd yn gartref i Lido Ponty a Pharc Chwarae'r Lido, felly mae digonedd i'w wneud a'i fwynhau ochr yn ochr â'r ŵyl fwydydd! 

Efallai byddech chi'n hoffi pigo i mewn i Bontypridd a phori drwy'r siopau neu grwydro'r Farchnad neu ardal Stryd y Felin - y ddau ar eu newydd wedd. 

Mae Cegaid o Fwyd Cymru 2022 wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd. 

Ac hwythau'n frwd i ddangos eu cefnogaeth a'u gwerthfawrogiad o'r gymuned, maen nhw wedi noddi nifer o achlysuron Be' Sy Mlaen RhCT yn 2022, gan ddod â hwyl ac adloniant i'r bobl. 

I wybod rhagor am weddill achlysuron RhCT eleni, ewch i www.rhondda-cynon-taf.gov.uk/achlysuron

 

Wedi ei bostio ar 12/07/22